Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol Gweithrediadau Coedwig
Dyddiad Cau: 17 Ebrill 2023 | Cyflog: £41,150 - £46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos - croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad
Rhifau y swyddi: 203492
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
I helpu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflawni’r safonau uchaf o reoli coedwigoedd cynaliadwy fel sy’n gweddu i’r coedwigoedd gwladwriaethol ardystiedig hiraf yn y byd a sefydliad a chenedl sy’n anelu at fod yn arweinydd byd-eang ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR). Bydd deiliad y swydd yn gwneud hyn drwy arwain ar weithrediadau Cynaeafu Pren a/neu Reoli Coedwigoedd ar gyfer sut rydym yn rheoli’r tir yn ein gofal drwy reoli’r gwaith o baratoi polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau CNC. Bydd y rhain yn trosi polisi Llywodraeth Cymru a’r DU, gofynion Safon Sicrwydd Coetir y DU (UKWAS) a safonau’r diwydiant yn ddulliau ymarferol o ddarparu. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, Masnachol a Gweithrediadau, swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC.
- Cadw perchnogaeth a throsolwg o faes polisi swyddogaethol gweithrediadau coedwigoedd i sicrhau cywirdeb dulliau CNC mewn perthynas â gofynion UKWAS a safonau rheoleiddio a diwydiant.
- Comisiynu a chyflawni gweithdrefnau monitro ac archwiliadau.
- Cynghori a diffinio bylchau gwybodaeth a chymhwysedd, comisiynu adnoddau, hyfforddiant a rhaglenni i lenwi’r bylchau; rheoli prosiectau, yn unol â’r rhaglen y cytunwyd arni.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl o’r sector coedwigaeth, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Arwain neu gyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir trwy’r Bwrdd Busnes Stiwardiaeth Tir, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi amcanion personol cytûn.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth am: ysgogwyr polisi a deddfwriaeth Cymru a’r DU sy’n ymwneud â choedwigaeth a’r materion a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy mewn coedwigaeth gyhoeddus yn y DU.
- Gwybodaeth a phrofiad o weithrediadau cynaeafu coed a/neu reoli coedwigoedd yn gynaliadwy.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â’r sector coedwigaeth a rheoli tir cynaliadwy mewn coedwigaeth gyhoeddus yn y DU a sut i gymhwyso hyn yng Nghymru.
- Profiad o’r canlynol: dealltwriaeth drwyadl o’r sector coedwigaeth a’r amrediad cymhleth o sbardunau a rhwystrau i gyflawni’r rôl.
- Profiad o amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau Rheoli Prosiectau.
- Bydd gennych aelodaeth Broffesiynol neu byddwch yn gweithio tuag at aelodaeth broffesiynol o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig neu gorff proffesiynol perthnasol arall.
- Cynrychioli'r sefydliad mewn materion proffil uchel a chynhennus yn yr arena gyhoeddus.
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi pob Penaeth Busnes y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 17 Ebrill 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Sally Tansey ar Sally.Tansey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.