Swyddog Arbenigol, Rheoli Tomenni Glo
Dyddiad Cau: 12 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Resolfen
Math o Gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2023
Patrwm Gwaith: Llawn Amser, 37 Awr yr wythnos.
Rhif Swydd: 203470
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r Swydd
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod archwiliadau rheolaidd o domenni pyllau glo a safleoedd peryglus sydd wedi’u lleoli ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru (YCLlC) yn Ne Cymru yn cael eu cynnal. Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i bob safle gael ei archwilio gan ein contractwyr yn unol â'n hamserlen archwilio wedi'i rhaglennu. Bydd yr holl adroddiadau arolygu yn cael eu hadolygu wedyn, a rhaglen waith yn cael ei datblygu a'i rhoi ar waith. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd sicrhau bod pob safle'n cael ei reoli yn unol ag arferion gorau a'i gynnal a'i gadw'n briodol i helpu i leihau'r risg o dirlithriadau, llygredd, hylosgi a llifogydd dirybudd.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod pob arolygiad yn cael ei gofnodi a'i reoli ar System Rheoli Asedau Cyfoeth Naturiol Cymru, a bod gwaith dilynol yn cael ei gyflawni o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
Bydd angen profiad o reoli tomennydd pyllau glo ar ddeiliad y swydd a bydd yn meddu ar gymhwyster peirianneg geodechnegol addas a phrofiad peirianneg a rheoli perthnasol.
Bydd elfen allweddol y rôl yn cynnwys rheoli contractwyr addas wrth gyflawni'r rhaglen waith o ran cynllunio a gweithredu gwaith adfer. Bydd y rôl yn gofyn am sgiliau ac egwyddorion rheoli prosiect rhagorol, gan gynnwys rheoli arian, rhaglenni, cwmpas, risg a chontractau a goruchwylio.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi tîm ymateb i ddigwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru gydag unrhyw ofynion cynllunio ar gyfer digwyddiadau tomenni pyllau glo ac yn datblygu polisïau a phrosesau allweddol y mae angen i dimau gweithredol eu cyflawni ar gyfer safleoedd tomenni pyllau glo unigol.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Sicrhau bod yr holl archwiliadau tomenni glo yn cael eu cofnodi a'u rheoli ar System Rheoli Asedau Cyfoeth Naturiol Cymru a bod gwaith dilynol yn cael ei gyflawni o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Cydweithio ag uwch-swyddogion ac uwch-arweinwyr technegol ar draws timau amlddisgyblaethol yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Nodi’r holl gydsyniadau a chaniatadau sy’n ofynnol i gyflawni gwaith a chydymffurfio â'r rhain mewn modd amserol.
- Hyrwyddo iechyd, diogelwch, llesiant ac amcanion amgylcheddol, gan gynnwys CDM2015, UKWAS ac ISO14001.
- Dangos egwyddorion rheoli prosiect rhagorol, gan gynnwys rheoli arian, rhaglenni, cwmpas, risg a chontractau ar gyfer rheoli tomenni pyllau glo.
- Rheoli caffael yr holl gyflenwyr a chontractwyr. Ymgymryd â'ch dyletswyddau yn unol â'r awdurdod dirprwyedig a pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Paratoi, olrhain a rheoli rhaglenni prosiect, darparu rhagolygon cywir o gerrig milltir y prosiect. Deall a rheoli risgiau sydd ynghlwm wrth gyflenwi'r rhaglen.
- Ysgrifennu a chynnal cofrestr ar gyfer prosiectau a gweithredu i reoli risgiau ariannol, masnachol, cyfreithiol a gweithredol a’r risg i enw da. Rhoi gwybod i uwch-staff mewn da bryd i helpu i ddatrys materion.
- Darparu gwybodaeth a chyngor arbenigol (naill ai eich hunan neu drwy gontractwyr cymwys) i'r wybodaeth cyn-adeiladu fel y gall unrhyw waith peirianneg ymgorffori'r manylion hyn yn y dyluniad a'r adeiladu.
- Rheoli cyfathrebu prosiect i ymgysylltu’n effeithiol ag Awdurdodau Cynllunio Lleol, Byrddau Cynghori Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDs) a rhanddeiliaid allanol eraill a dylanwadu arnynt, i hwyluso’r broses o gyflawni’r prosiect i ansawdd, amser a chyllid.
- Meithrin cydberthnasau cryf â chydweithwyr i sicrhau atebion sy'n cyflawni'r prosiectau.
- Nodi a rhannu'r gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Addysg hyd at lefel gradd o leiaf mewn peirianneg geodechnegol neu bwnc technegol perthnasol, neu’n gallu dangos profiad cyfatebol.
- Dylai fod gan ddeiliad y swydd brofiad sylweddol o reoli rhaglenni a/neu reoli nifer o brosiectau a dylai fod ag achrediad proffesiynol neu fod yn gweithio tuag at hynny (e.e., PRINCE2).
- Ymwybyddiaeth o gynefinoedd amgylcheddol a deddfwriaeth bywyd gwyllt.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o CDM2015 a’i gymhwysiad, a dulliau rheoli risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol eraill.
- Gwybodaeth helaeth am ddraenio a rheoli dŵr mewn amgylcheddau ucheldirol, gan gydymffurfio â Chanllawiau Coedwigoedd a Dŵr a Chyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewrop.
- Sgiliau TGCh cryf mewn meddalwedd AutoCAD, ArcGIS a Microsoft Office, gan gynnwys MS Project.
- Trwydded yrru lawn yn y DU.
- Dylai deiliaid y swydd fod yn aelod o gorff proffesiynol (e.e., ICE, CIWEM, IAgE) neu'n gweithio tuag at Statws Proffesiynol Siartredig yn ei faes.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision Gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 12 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Philip Morgan at philip.morgan@naturalresourceswales.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.