Arweinydd Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff (Prosiect Lleihau Allyriadau Tirlenwi)
Dyddiad Cau: 12 Chwefror 2023 | Cyflog: £41,150 - £46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Plas yr Afon, Llaneirwg, Caerdydd
Math o Gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2025
Patrwm Gwaith: Llawn Amser, 37 Awr yr wythnos. Dydd Llun i Dydd Gwener
Rhif Swydd: 202452
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r Swydd
Ym mis Hydref 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Carbon Sero Net 2 (2021-2025). Mae'r strategaeth hon yn nodi nifer o bolisïau a chynigion ar draws pob sector ac yn rhoi ffocws clir ar y sector gwastraff ar gyfer safleoedd tirlenwi.
Bydd y rôl weithredol hon yn arwain CNC yn y gwaith o gyflawni Sero Net 2, drwy'r Prosiect Lleihau Allyriadau Tirlenwi (LERP), ac yn canolbwyntio'n benodol ar effaith safleoedd tirlenwi, y rhai sydd wedi cau a’r rhai sy’n weithredol.
Byddwch yn arwain tîm fel arbenigwr nwyon tirlenwi. Byddwch yn cynllunio ac yn cyflawni cyfres o archwiliadau manwl o nwyon tirlenwi gyda'r nod o gynyddu cyfraddau atafaelu a dinistrio/defnyddio nwyon tirlenwi mewn safleoedd tirlenwi gweithredol a rhai sydd wedi cau, gan gynnwys camau dilynol.
Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gwaith i wella lefel y ddealltwriaeth o ffaglu nwyon safleoedd tirlenwi ym mhob safle perthnasol, gyda'r bwriad o sicrhau allbynnau model allyriadau nwyon tirlenwi cenedlaethol MELMOD i gyflwyno darlun mwy cywir o allyriadau o'r sector. Byddwch yn gweithio i ddeall effaith newid ffrydiau gwastraff ar ansawdd a chynhyrchiant allyriadau nwyon tirlenwi ac yn archwilio'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â'r ffrydiau gwastraff allweddol a nodir yn MELMOD fel y rhai sy’n cyfrannu fwyaf at gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys
- Gweithredu fel arweinydd technegol cenedlaethol arbenigol CNC ar gyfer sectorau penodol neu faterion technegol.
- Gweithredu fel mentor technegol ac ymgynghorydd i aelodau'r tîm.
- Cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau gwaith tîm a chyflawni unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio a chyflawni busnes.
- Gweithio gyda Gweithredwyr i ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer y gweithfeydd, gan gynnwys ymgysylltu ag uwch reolwyr a swyddogion gweithredol o fewn cwmnïau, i sicrhau buddion lluosog.
- Arwain ein hymateb yn rheolaidd i achosion/materion mawr neu ddadleuol a gweithredu fel rheolwr cyfrif ar gyfer rhanddeiliaid allweddol.
- Cyfrannu at waith sector a grwpiau sector traws-asiantaeth yn ôl yr angen er mwyn helpu i fabwysiadu dulliau rheoleiddio cyson a lledaenu arferion da er budd yr amgylchedd. Pan fo’n briodol, gweithredu fel arweinydd CNC ar gyfer sectorau technegol penodol.
- Bydd gofyn cymryd rhan mewn grwpiau technegol/strategol neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol e.e. grwpiau sector rheoleiddwyr y DU. Bydd y mathau hyn o grwpiau yn cytuno ar strategaeth reoleiddio sy'n benodol i'r sector ar lefel Cymru, y DU neu Ewrop.
- Datblygu cysylltiadau gweithio ar draws cyfarwyddiaethau a thrwy hynny gyfrannu at ddatblygu unrhyw bolisïau perthnasol sy'n gysylltiedig â diwydiant Llywodraeth Cymru.
- Gweithio gyda'r Tîm Trwyddedu i gynorthwyo'r broses adolygu trwyddedau barhaus mewn ymateb i ddiweddariadau BREF a chyhoeddi Casgliadau BAT.
- Rhyngweithio ag arbenigwyr rheoleiddio eraill yn CNC i hyrwyddo arferion rheoleiddio cyson.
- Cefnogi cynghorwyr Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ar lefel weithredol.
- Asesu cydymffurfiaeth mewn gweithfeydd, safleoedd COMAH, safleoedd gwastraff a safleoedd sy'n trin sylweddau ymbelydrol.
- Bydd gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Aelodaeth broffesiynol.
- Profiad o weithio ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol perthnasol.
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
- Profiad o reoli materion cynhennus a chysylltu â'r gymuned a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddio a gorfodi a rheoli digwyddiadau.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision Gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 12 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Gareth Lewis ar gareth.lewis@naturalreourceswales.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.