Rheolwr Prosiect Datblygu Sefydliadol
Dyddiad cau: 31 Ionawr 2023 | Cyflog: £41,150 - £46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 203449
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Rydym yn chwilio am arbenigwr datblygu sefydliadol i weithio ar brosiectau yn y Rhaglen Trawsnewid Pobl. Mae'r rôl hon yn y Tîm Datblygu Sefydliadol.
Byddwch yn darparu arbenigedd ar gyfer ystod o brosiectau Datblygu Sefydliadol i ddatblygu ein diwylliant sefydliadol a datblygiad personol a phroffesiynol pobl ar draws CNC yn unol â'n gwerthoedd. Bydd y prosiectau hyn yn rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Pobl ac yn cysylltu â chynllun y gweithlu, y cynllun ymgysylltu â staff a'r cynllun arwain a datblygu.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cyflawni prosiectau yn effeithiol a glynu at broses Rheoli Prosiectau CNC.
- Blaenoriaethu a neilltuo amser er mwyn rheoli gwaith gwella busnes.
- Datblygu polisi/gweithdrefnau sefydliadol sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth Pobl.
- Dadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth gymhleth, gan nodi pwyntiau allweddol a chyfleu hyn i bobl ar bob lefel, nad ydynt efallai yn deall natur dechnegol/arbenigol y wybodaeth yn hollol. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i greu dangosfyrddau a’r broses a fydd yn sicrhau bod data’r dangosfyrddau yn gywir/yn cael ei ddefnyddio’n briodol i wneud penderfyniadau.
- Rheoli prosiectau mawr. Gall fod penderfyniadau sy'n arwain at newidiadau yn y weithdrefn/arfer sefydledig ar gyfer ymdrin â materion o fewn maes gwaith deiliad y swydd, a/neu lle bydd canlyniad gwneud penderfyniadau anghywir yn cael effaith andwyol ar y sefydliad.
- Cynhyrchu dogfennau, adroddiadau, dangosfyrddau cymhleth, ynghyd â mathau eraill o ddeunydd.
- Mae’n bosib y bydd angen dod o hyd i ddata a chynnwys o leoliadau neu ffynonellau lluosog, gan olygu gwneud ymchwil allanol ac arfer barn broffesiynol ynghylch sut y dylid dehongli ymchwil o’r fath. Mae effaith dogfennaeth o'r fath yn debygol o fod yn fwy hirdymor yn gyffredinol.
- Bydd y gwaith yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a/neu arwain prosiectau allweddol, a fydd â lefel uchel o gymhlethdod sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu a pherswadio da. Gall hyn hefyd gynnwys hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan roi mewnbwn a chyngor technegol neu arbenigol cymhleth. Bydd gofyniad i feithrin a chynnal perthnasoedd a rhwydweithiau da.
- Sgiliau mentora i sicrhau bod gwaith gwella/gwaith prosiectau yn cael ei ymgorffori fel arfer gorau.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Cymhwyster CIPD neu gyfwerth gyda phrofiad sylweddol neu weithio fel ymarferydd Dysgu a Datblygu neu reolwr gyda hanes o ddatblygu talent.
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn Rheoli Prosiectau (e.e. Prince 2) a phrofiad o reoli prosiectau.
- Profiad ymarferol o gyflawni prosiectau Datblygu Sefydliadol fel datblygu talent, cynllunio olyniaeth, fframweithiau cymhwysedd, llwybrau gyrfa.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o reoli buddion a risgiau corfforaethol a’r rhai sy’n ymwneud â phrosiectau.
- Y gallu i ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau a dogfennau eraill sy'n addas ar gyfer Bwrdd, arbenigwyr a staff CNC. Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Sgiliau cydweithio a thrafod datblygedig.
- Y gallu i reoli matrics a chyfrannu at neu arwain gwaith gyda phobl sydd ag ystod o arbenigeddau a sgiliau technegol.
- Sgiliau trefnu rhagorol.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 31 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Victoria Watson at Victoria.watson@naturalresourceswales.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.