Cynghorydd Synhwyro o Bell
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2024
Patrwm gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 203413
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a'i adnoddau naturiol. Ein nod yw ategu ein holl gyngor a'n camau gweithredu gyda thystiolaeth gadarn. Yn ogystal â defnyddio tystiolaeth a gynhyrchir gan eraill, mae CNC ei hun yn casglu tystiolaeth, yn enwedig drwy'r gwaith monitro amgylcheddol a wnawn.
Ffurfiwyd y Tîm Dadansoddi Monitro i wneud mwy o ddefnydd o'r data a gasglwn drwy ein rhaglenni monitro yn ogystal â chefnogi'r defnydd o dystiolaeth a geir drwy ddulliau synhwyro o bell (delweddau lloeren, dronau ac ati). Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm brwdfrydig sy'n cynnwys dadansoddwyr data amgylcheddol, rheolwyr data ac arbenigwyr synhwyro o bell.
Rydym yn chwilio am rywun i gefnogi ein gwaith dadansoddi data ac yn enwedig ein gweithgareddau synhwyro o bell tra bo deiliad presennol y swydd ar secondiad. Mae hwn yn gyfle da i ennill profiad mewn maes arloesol sy'n ehangu yng ngwaith CNC. Yn dibynnu ar eich sgiliau, byddwch yn cael cyfle i gyfrannu'n uniongyrchol at waith dadansoddol neu i gefnogi agweddau eraill ar waith y tîm (fel datblygu canllawiau neu ddeunydd ar gyfer y fewnrwyd).
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Dadansoddi, dehongli a syntheseiddio data a thystiolaeth gan ddefnyddio gwybodaeth a data o amrywiaeth o ffynonellau.
- Paratoi dogfennau technegol i lywio'r gwaith o ddatblygu strategaeth a rhwydweithiau monitro, a chyfrannu at rwymedigaethau adrodd statudol.
- Rheoli prosiectau technegol bach ar draws ystod o themâu amgylcheddol, gan gynnwys cydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad yn y broses.
- Dilysu setiau data allweddol i sicrhau bod ansawdd data CNC yn addas ar gyfer ei ddefnydd arfaethedig.
- Cefnogi gwaith ymgysylltu â phartneriaid sy'n gweithio ar waith monitro ac adrodd ar lefel Cymru a'r DU.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Bydd gennych sgiliau dadansoddi cryf sy'n eich galluogi i brosesu, dadansoddi a dehongli llawer iawn o wybodaeth dechnegol.
- Bydd gennych sgiliau datrys problemau da, gyda'r gallu i gasglu a chyflwyno gwybodaeth allweddol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar.
- Bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau.
- Byddwch yn gyfathrebwr da.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 29 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â David Allen ar David.Allen@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.