Cymorth Technegol, Prosiectau Morol

Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2022 | Cyflog: £28,403-£32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2025

Bydd y swydd hon yn cael ei chynnig fel contract parhaol. Mae gan y rôl ei hun gyfyngiad amser hyd at 31 Mawrth 2025 ac ar yr adeg honno gallai eich rôl gael ei hymestyn, ei gwneud yn barhaol, neu gallech gael eich adleoli i'n cronfa o gynghorwyr / rheolwyr prosiect arbennig neu eich adleoli i rôl addas arall.

Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener

Rhifau y swyddi: 203375

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Bydd y rôl hon yn darparu cymorth technegol i dîm prosiectau morol, gan gefnogi adalw, fformatio a thrin data i'w ddefnyddio ar gyfer dadansoddiadau a gwerthusiadau pellach. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda thimau morol eraill (e.e. monitro morol, gwaith achos, tystiolaeth) yn ogystal â defnyddio systemau gwahanol (e.e. Marine Recorder) a meddalwedd i ddod o hyd i ddata perthnasol a'i wneud yn ddefnyddiadwy at ddibenion eraill, fel sy'n ofynnol gan swyddogion y prosiect.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Gweithio fel rhan o dîm prosiectau morol i helpu i gyflawni rhaglen Rhwydwaith Natur forol CNC, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio data morol i lywio asesiadau cyflwr nodweddion ardaloedd gwarchodedig.
  • Gweithio gyda swyddogion prosiectau morol i gefnogi eu gofynion ar gyfer adalw a thrin data.
  • Gweithio ar draws timau i ddeall lle cedwir data a chofnodi a ffeilio data yn ôl yr angen ar gyfer anghenion y prosiectau.
  • Ymgymryd â gwaith coladu, mewnbynnu a dadansoddi data monitro.
  • Cefnogi ymatebion i geisiadau data.
  • Cynorthwyo gyda gwaith maes pan fo angen.
  • Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Profiad blaenorol o weithio gyda data amgylcheddol (data morol yn ddelfrydol)
  2. Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol
  3. Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm
  4. Trwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau)
  5. Cymwyseddau TG ac MS Office a phrofiad o gronfeydd data

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 - Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Profiad ymarferol blaenorol amlwg a gafwyd mewn disgyblaeth dechnegol neu amgylchedd gwyddonol, ar lefel sy'n ei alluogi i weithredu rhaglenni gwaith o faint a chymhlethdod cymedrol a darparu arweiniad a goruchwyliaeth i eraill.
  • Y gallu i ddangos arbenigedd pwnc mewn maes arwahanol o'i waith.
  • Y gallu i brosesu a dadansoddi gwybodaeth arferol a chynhyrchu adroddiadau a gwybodaeth gywir yn seiliedig ar brosesau dadansoddol cadarn.
  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu da ynghyd â gwybodaeth TGCh a systemau.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddeall a dehongli llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a ddefnyddir wrth gyflawni'r rôl.
  • Gall arwain a gweithredu rhaglen waith sy'n gofyn am gasglu data a gwybodaeth o wahanol ffynonellau a systemau, i gynhyrchu dogfennau safonol.
  • Y gallu i gynnal dadansoddiad arferol o samplau a data syml gan ddilyn gweithdrefnau ffurfiol, sy'n arwain at gynhyrchu adroddiadau dadansoddol a dogfennaeth a fydd yn cael eu defnyddio gan eraill.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i gymhwyso rhywfaint o farn technegol i ddelio â materion neu'n gwybod pryd i'w cyfeirio at eraill.
  • Y gallu i ystyried opsiynau o ystod fach o atebion i wneud penderfyniadau, gan orfod teilwra rhai dulliau gwaith o bosib i gyflawni'r canlyniadau gofynnol heb wneud newidiadau sylfaenol i weithdrefnau neu brosesau.
  • Er y bydd y gwaith yn cynnwys amrywiaeth o dasgau tebyg ac eglur yn bennaf, bydd angen y flaengaredd i ddatrys problemau a chymhwyso gwahanol dechnegau neu ddulliau.
  • Bydd deiliad y swydd yn rheoli rhaglenni gwaith ar wahân ac mae angen iddo ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau sydd â rhywfaint o gymhlethdod, ynghylch y ffordd orau o sicrhau canlyniadau.
  • Gall gwaith deiliad y swydd fod yn rhan o brosiect mwy, fel y bydd graddfa'r ymreolaeth yn gyfyngedig.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Bydd y rôl yn gofyn am ryngweithio uchel gyda phobl sydd â'r gallu i feithrin cydberthnasau gwaith da, gyda chysylltiadau mewnol ac allanol.
  • Yn dangos sgiliau cyfathrebu da gyda'r gallu i addasu arddull a chynnwys yn dibynnu ar yr unigolyn a natur y berthynas.
  • Yn gallu cynghori a briffio eraill, gan ofyn am y gallu i egluro a rhannu gwybodaeth yn glir gydag amrywiaeth o bobl, gan addasu ei arddull a'i ddull yn ôl yr angen.
  • Mae cyfathrebu'n cynnwys delio â chwsmeriaid anodd neu heriol, yn aml mewn sefyllfaoedd sensitif neu gymhleth, sy'n golygu bod angen pwyll, amynedd, a'r gallu i aros yn ddigynnwrf.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk using the post number as the email reference

Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 11 Rhagfyr 2022

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Lily Pauls at lily.pauls@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf