Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Rheoleiddio’r Dyfodol

Dyddiad Cau: 20 Mawrth 2023 | Cyflog: £41,150 - £46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg

Math o Gontract: Parhaol

Patrwm Gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau cywasgedig neu hystyried gweithio hyblyg eraill - croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.

Rhif Swydd: 203316

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae’r rôl hon yn gyfle cyffrous i arwain a chynnal gwaith, a dysgu amdano, ar draws ystod eang o feysydd rheoleiddio a thrwyddedu. Fel rhan o dîm Rheoleiddio'r Dyfodol, byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn ymdrechion y tîm i ddylanwadu ac arwain mewnbwn CNC ar newid deddfwriaethol a rheoleiddiol gan y llywodraeth, ac i arwain pecynnau gwaith sy’n helpu i drosi’r newidiadau hyn yn ddulliau rheoleiddio ymarferol sy’n cefnogi CNC i gyflawni rheoleiddio effeithiol.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol i ystod o swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i ffurfio a llywio diwygiadau rheoliadol, newid deddfwriaethol, polisi’r llywodraeth ac agendâu rhanddeiliaid. Bydd y rôl hefyd yn gweithio gydag ystod eang o arweinwyr polisi, rheoleiddio a gweithredol mewnol, a chyrff rheoleiddio eraill ar draws y DU ac yn rhyngwladol, i ddatblygu gwahanol brosiectau sy'n gwella canlyniadau rheoleiddio ar gyfer ein cwsmeriaid, rhanddeiliaid ac adnoddau naturiol.

Mae rhai o’r meysydd gwaith y gallech arwain arnynt yn cynnwys y canlynol:

  • Profi dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau rheoleiddio, e.e. adolygiad cwmpasu o drwyddedu.
  • Darparu cyngor strategol ac arbenigol a llywio ar reoleiddio’r dyfodol i'r Bwrdd Busnes Rheoleiddiol.
  • Gweithredu fel catalydd ar gyfer newid trwy gefnogi eraill i ymgorffori ein Hegwyddorion Rheoleiddio mewn prosiectau a rolau ehangach.
  • Dylanwadu a llywio polisi a deddfwriaeth, drwy weithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a’r DU.
  • Datblygu cynigion diwygio rheoleiddio a chyfrannu at flaenoriaethau ehangach, h.y. cyfraith yr UE a ddargedwir.
  • Datblygu strategaeth dystiolaeth ar gyfer rheoleiddio a chynyddu ein defnydd o sganio’r gorwel.
  • Bod yn bwynt cyswllt gyda chyrff rheoleiddio eraill ar draws y DU ac yn rhyngwladol, i rannu arferion gorau, dysgu oddi wrthynt a’u hymgorffori.

Rydym yn chwilio am rywun a allai fod â phrofiad o drin prosiectau lluosog ar unrhyw un adeg, gyda phrofiad o weithio o fewn neu ar draws sawl cyfundrefn reoleiddio ac sydd â sgiliau rhyngbersonol cryf sy'n eich galluogi i ddatblygu cydberthnasau rhagorol â staff CNC a rhanddeiliaid allweddol. Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu a TGCh da, y gallu i ymdopi â llwyth gwaith amrywiol yn hyderus, ac a all gyflawni canlyniadau llwyddiannus yn y pen draw. Os oes gennych sgiliau trosglwyddadwy perthnasol nad ydynt yn gysylltiedig â rheoleiddio, dywedwch wrthym amdanynt hefyd.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Bod yn gyfrifol am ddatblygu cyngor CNC i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar reoleiddio’r dyfodol a datblygiadau rheoleiddio strategol, gan sicrhau bod CNC yn addas i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Bod yn gyfrifol am ddadansoddi data rheoleiddio a dehongli tystiolaeth i fod yn sail effeithiol ar gyfer datblygu rheoleiddio’r dyfodol ac yna datblygu a phrofi opsiynau polisi yn seiliedig ar y dystiolaeth honno.
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf, gan y bydd y gwaith hwn yn cynnwys gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr amgylcheddol eraill yn y DU ac yn Ewrop i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth dechnegol.
  • Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff yn y busnes, gan arwain at ddull effeithiol o ddarparu gwasanaethau.
  • Sefydlu a chynnal cydberthnasau gwaith â swyddogion Llywodraeth Cymru fel ein bod yn gwella ein sefyllfa fel cynghorydd yr ymddiriedir ynddo a’n bod yn gallu dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth a deddfwriaeth yn y dyfodol.
  • Arwain yn benodol ar y gwaith o fentora a hyfforddi staff eraill o fewn y tîm i sicrhau bod gan y tîm wydnwch technegol a deddfwriaethol digonol ar gyfer eich meysydd gwaith neilltuedig.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Sgiliau dadansoddol cryf a phrofiad o reoli neu drin prosiectau lluosog ar unrhyw un adeg. Bydd deiliad y swydd llwyddiannus yn gallu ac yn barod i drin llwyth gwaith amrywiol yn hyderus.
  2. Profiad o weithio o fewn neu ar draws sawl cyfundrefn reoleiddio sy'n ymwneud â gwaith CNC, a gwybodaeth gysylltiedig am ysgogwyr polisi a deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n berthnasol i'r rhain.
  3. Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau o’r llywodraeth neu reoleiddwyr.
  4. Sgiliau rhyngbersonol cryf sy'n eich galluogi i ddatblygu cydberthnasau rhagorol â staff CNC a rhanddeiliaid allweddol. Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid neu randdeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni canlyniadau ar lefel tîm, prosiect neu swyddogaeth benodol, ac ar lefel y sefydliad ehangach.
  5. Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
  6. Bydd disgwyl i chi gadw'n gyfredol â newidiadau mewn polisi rheoliadol a newidiadau arfaethedig mewn deddfwriaeth trwy aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol neu drwy gyfrwng cyfatebol arall.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i ymgymryd â thasgau ymarferol neu dechnegol neu waith sy'n gofyn am wybodaeth arbenigol uwch yn y pwnc perthnasol.
  • Y gallu i ddarparu cyngor gwrthrychol i bobl eraill ar faterion perthnasol yn seiliedig ar ei wybodaeth a'i brofiad a bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf yn ei faes arbenigol.
  • Dangos profiad sylweddol perthnasol. Yn gallu dangos lefel uchel o wybodaeth, a hygrededd personol a phroffesiynol, er enghraifft, yn gallu gweithredu fel tyst arbenigol mewn ymholiad cyhoeddus.
  • Yn gallu dangos sgiliau mentora, rhannu gwybodaeth a goruchwylio da ynghyd â'r gallu i osod cyfeiriad strategol ar gyfer ei hun, ei faes ac eraill.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Yn gallu dehongli cynlluniau cyflawni perthnasol a deall eu cyd-destun ym mholisi a strategaeth genedlaethol ac ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Yn gallu dadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth, a all fod o natur dechnegol, gan dynnu pwyntiau allweddol a'u cyfleu i unigolion ar bob lefel.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni canlyniadau, gyda'r angen am rywfaint o grebwyll neu greadigrwydd er mwyn newid blaenoriaethau oherwydd galwadau sy'n gwrthdaro.
  • Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau annibynnol ar sail mewnbwn gan reolwyr llinell a chyfoedion; dealltwriaeth o bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru; yr ystod o opsiynau sydd ar gael; a'u goblygiadau posib ar gyfer y busnes.
  • Y gallu i arwain a rheoli prosiectau sy’n gysylltiedig â materion penodol a chymhleth sy’n aml yn heriol, a fydd fel arfer yn golygu risg uchel i enw da.
  • Gwerthfawrogi y gellir gwneud penderfyniadau (a allai ymwneud â pholisi cenedlaethol), gan arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig ym maes gwaith deiliad y swydd.
  • Dangos gwerthfawrogiad o ganlyniadau gwneud penderfyniadau anghywir a'r effaith andwyol y gallent ei chael ar y sefydliad mewn perthynas â'i rhanddeiliaid allanol, megis sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaeth ac ati. 

Effaith

  • Dangos ymwybyddiaeth o sut y gall ei benderfyniadau gwmpasu ystod eang o faterion ac efallai na fydd y canlyniadau bob amser yn glir neu'n amlwg ar unwaith.
  • Gwerthfawrogi y gall effaith penderfyniadau a wneir gan ddeiliad y swydd fod yn debygol o gael effaith ehangach na'r swyddogaeth neu'r adran uniongyrchol ac yn debygol o barhau dros y tymor canolig, ac o safbwynt allanol gall fod ar lefel genedlaethol.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Bydd gan ddeiliad y swydd gysylltiadau sylweddol â rhanddeiliaid allanol a gellir disgwyl iddo gynrychioli'r sefydliad yn allanol, gan gyfleu gwybodaeth arbenigol.
  • Y gallu i ryngweithio a meithrin cydberthnasau gwaith da gydag uwch arweinwyr yn fewnol ac yn allanol, ar lefel genedlaethol a'r DU.
  • Y gallu i drafod materion polisi, a allai fod yn dechnegol iawn, arbenigol neu'n fanwl eu natur, gydag eraill, gan deilwra dull, arddull a lefel y cyfathrebu'n briodol i'r gynulleidfa.
  • Bydd y gwaith yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig a llafar; ac arwain prosiectau allweddol sydd â chryn dipyn o gymhlethdod, sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu a dylanwadu gwych.
  • Y gallu i hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan roi cyngor ar faterion technegol neu arbenigol cymhleth, yn cynnwys newidiadau deddfwriaethol a llywio cyfeiriad trafodaethau neu weithgareddau.
  • Y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Y gallu i lunio dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati â pheth cymhlethdod, yn cynnwys cyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu yn eu cylch neu'n eu defnyddio ac a fyddai'n cael effaith andwyol pe baent yn anghywir neu’n cael eu drafftio'n wael.
  • Y gallu i ganfod data a chynnwys o sawl lleoliad, sy'n cynnwys rhywfaint o ymchwilio allanol a mynegi barn broffesiynol o ran sut y dylai ymchwil o'r fath gael ei dehongli.
  • Mae dogfennaeth o'r fath yn debygol o gael effaith dros dymor hwy yn gyffredinol.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 20 Mawrth 2023 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wythnos sy’n cychwyn 3 Ebrill 2023 ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Martyn Evans ar martyn.evans@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf