Swyddog Trwyddedu Ansawdd Dŵr
Dyddiad cau: 16 Awst 2022 | Lleoliad: Hyblyg | Cyflog: £31,490-£34,902 (Gradd 5)
Math o gontract: Cyfnod Penodol am 100 o wythnosau
Patrwm gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
Rhif swydd: 203279
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Darparu arweiniad/cymorth arbenigol ar gyfer asesu a phenderfynu ar geisiadau cymhleth am drwyddedau ansawdd dŵr yn unol â pholisïau, prosesau, canllawiau a gweithdrefnau CNC.
Darparu arbenigedd sy'n cwmpasu deddfwriaeth sy'n berthnasol i drefniadau trwyddedu ansawdd dŵr.
Bod yn atebol am waith trwyddedu strategol anarferol sy'n angenrheidiol i sicrhau bod CNC yn rhoi trwyddedau effeithiol yn unol â deddfwriaeth a gofynion rheoliadol newidiol.
Gweithio'n agos gydag aelodau’r tîm Ansawdd Dŵr ac ar draws y Gwasanaeth Trwyddedu, i rannu gwaith arferol ac anarferol er mwyn sicrhau’r lefel uchaf bosibl o effeithlonrwydd ac i ddefnyddio cryfderau unigol.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Penderfynu ar ganlyniad ceisiadau cymhleth am drwyddedau amgylcheddol drwy wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â cheisiadau i’r maes penodol a neilltuir iddo drwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC lle maent ar gael, a chyhoeddi, gwrthod neu amrywio trwyddedau yn unol ag amserlenni a chyllidebau.
- Penderfynu ar geisiadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol a meddalwedd dechnegol a/neu raglenni modelu, yn unol â gofynion y maes penodol a neilltuir iddo.
- Hybu datblygiad technegol y swyddogion trwyddedu yn nhîm trwyddedu ei faes neilltuedig drwy hyfforddiant uniongyrchol a thrwy gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Datblygiad Technegol gan ddefnyddio’i arbenigedd yn ei faes perthnasol.
- Cynrychioli'r tîm trwyddedu yn ei faes arbenigedd o fewn grwpiau technegol mewnol perthnasol ac yn ystod cyfarfodydd rhanddeiliaid mewnol/allanol.
- Gweithredu fel arweinydd wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau cymhleth am drwyddedau, gan gynnwys ar gyfer prosiectau seilwaith o bwys cenedlaethol sy’n llai cymhleth.
- Cydlynu ac arwain y gwaith o baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â thrwyddedu.
- Darparu cymorth technegol yn ei faes pwnc i dimau gweithredol, gan gynnwys cyngor cyn ymgeisio, a chefnogi’r gwaith o ddarparu hyfforddiant strwythuredig yn ôl y gofyn.
- Cyfrannu at wella effeithlonrwydd a pherfformiad y tîm trwyddedu, nodi cyfleoedd i newid y prosesau a'r arweiniad, a chefnogi diwylliant o welliant parhaus mewn perthynas â’i faes penodol neilltuedig ac o safbwynt y gwaith a wneir ar draws y meysydd penodol.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae'n ymwneud â'r broses drwyddedu.
- Profiad ymarferol o asesu ceisiadau perthnasol am drwyddedau neu eu defnyddio o fewn rôl sicrhau cydymffurfiaeth.
- Profiad y gellir ei ddangos o ddarparu’r datrysiadau gorau posibl ac amserol trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg.
- Profiad o ddefnyddio sgiliau hyfforddi a mentora.
- Profiad o ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid a'r gallu i ddylanwadu a darbwyllo er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol.
- Profiad o gyflwyno gwelliannau/effeithlonrwydd i brosesau.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 16 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Melissa Broad ar Melissa.Broad@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 654228
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.