Swyddog Y Goedwig Genedlaethol x 6
Dyddiad cau: 3 Gorffennaf 2022 | Cyflog: £31,490-£34,902 | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontractau: Penodiad tymor penodol am 3 blynedd
Patrwm gwaith: Amser llawn, 37 awr yr wythnos
Rhifau y swyddi:
203241 – Gogledd-ddwyrain Cymru
203242 – Gogledd-orllewin
203243 – Canolbarth Cymru
203244 – Canol De Cymru
203245 – De-orllewin
203246 – De-ddwyrain
Mae CNC yn recriwtio ar gyfer y rolau hyn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r Swydd
Mae’r Goedwig Genedlaethol yn rhaglen strategol hirdymor i Gymru dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaglen ambarél y bydd gwahanol fentrau cyffrous, partneriaethau a mecanweithiau cyllido yn gweithredu oddi tani ar wahanol raddfeydd o ran gofod ac amser.
Rôl y Swyddog Cyswllt yw cefnogi rhanddeiliaid i wireddu rhaglen gyffrous Coedwig Genedlaethol Cymru a’i chanlyniadau drwy ymgysylltu, cynnig cyngor a rhoi cefnogaeth barhaus. Mae’r rôl newydd hon yn rhyngwyneb pwysig rhwng polisi, perchnogion tir ac asiantau coedwigaeth, a fydd yn hyrwyddo cynigion amrywiol ar gyfer y Goedwig Genedlaethol, cynnig cyngor arnynt a helpu i’w gweinyddu. Bydd y Swyddogion Cyswllt yn hyrwyddo manteision y Goedwig Genedlaethol ac yn mynd ati i gynghori a chyfathrebu gyda pherchnogion a rheolwyr tir i sicrhau bod y cynigion yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU ac yn gwireddu canlyniadau’r Goedwig Genedlaethol.
Cyfrifoldebau
Ymysg eich cyfrifoldebau fydd:
- Ysbrydoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid newydd a’r rhai presennol ar hyd a lled Cymru, yn cynnwys ffermwyr, cymunedau a pherchnogion tir ynghylch sut gall coetiroedd newydd helpu i wireddu eu huchelgeisiau ar yr un pryd â sicrhau buddion amlswyddogaethol i’r amgylchedd, i gymdeithas ac i’r economi.
- Cynnig cyngor ar gydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio, canfod ffrydiau cyllido a hyrwyddo arferion gorau ar gyfer rheoli a chreu coetiroedd. Ar y cyd â chefnogi perchnogion tir ac asiantau coedwigaeth i ganfod ymgyngoreion, ffynonellau gwybodaeth a chysylltiadau perthnasol i hwyluso’r gwaith o lunio cynlluniau creu coetiroedd a chynlluniau rheoli coetiroedd sydd o ansawdd uchel ac sy’n gydnaws â’r UKFS.
- Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cynigion ac ymholiadau am y Goedwig Genedlaethol. Bydd y Swyddogion Cyswllt yn mynd ati i ymdrin â materion cymhleth a dadleuol sy’n ymwneud â phobl a buddiannau coetir, gan arwain at gyflawni canlyniadau prosiectau a datblygu meysydd gwaith, yn ôl yr angen.
- Cynghori ynghylch argymhellion am safleoedd ychwanegol ar gyfer y Goedwig Genedlaethol y tu allan i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru drwy gymysgedd o waith gwella coedwig a gwaith creu coetir newydd.
- Cydgysylltu â staff perthnasol o fewn CNC mewn perthynas â chydweithio rhwng timau i sicrhau y caiff rhwymedigaethau prosiect, polisi neu strategol eu cyflawni’n brydlon ac yn effeithiol.
- Cefnogi’r gwaith o ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, Llais Y Goedwig, Cyswllt Ffermio a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru; a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth a phrofiad o goedwigaeth/creu coetiroedd/mynediad i’r cyhoedd/ymgysylltu â chymunedau yn ystod pob cam o ddatblygu prosiect o’i gychwyn hyd ei derfyn.
- Gallu i gyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid allanol a’r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu ymroddiad amlwg i’ch DPP eich hun (neu barodrwydd i ymuno).
- Profiad clir o reoli prosiectau.
- Gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm ac arwain grwpiau gorchwyl rhithiol.
- Profiad o reoli materion dadleuol a chydgysylltu â chymunedau a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd.
- Sgiliau hunan-reoli, trefnu a rhyngbersonol cryf ac effeithiol.
- Gallu i ddadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth, datrys problemau a gwneud penderfyniadau doeth.
- Gallu i ysgrifennu dogfennau clir a chryno.
Gogledd-ddwyrain Cymru – Hanfodol Lefel 1 - Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml Dymunol Lefel 3 - Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Gogledd-orllewin – Hanfodol Lefel 4 - Siarad Cymraeg yn rhugl
Canolbarth Cymru – Hanfodol Lefel 4 - Siarad Cymraeg yn rhugl
Canol De Cymru – Hanfodol Lefel 1 - Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml Dymunol Lefel 3 - Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
De-orllewin – Hanfodol Lefel 4 - Siarad Cymraeg yn rhugl
De-ddwyrain – Hanfodol Lefel 1 - Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml Dymunol Lefel 3 - Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros bobl |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais: 3 Gorffennaf 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Geralene Mills neu Eifion Jones ar WoodlandCreation.Hub@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07717158714
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.