Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy Natura 2000
Dyddiad cau: 26 Mehefin 2022 | Cyflog: £31,490 | Lleoliad: De Orllewin Cymru
Crynodeb Swydd |
|
Teitl Swydd |
Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy Natura 2000 |
Rhif y swydd |
203220, 203221, 203222 |
Gradd |
5, £31,490 gan godi i £34,902 dros dair blynedd |
Lleoliad |
203220 N2K Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy – Cynefinoedd glaswelltir – hyblyg yn y De-orllewin (Hwlffordd, Cross Hands) 203221 N2K Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy – Cynefinoedd arfordirol (Clogwyni môr a morfeydd heli) – hyblyg yn y De-orllewin (Hwlffordd, Cross Hands, Llandarsiy) 203222 N2K Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy – hyblyg yn y De-orllewin (Hwlffordd, Sir Gaerfyrddin, Abertawe) |
Cyfarwyddiaeth |
Gweithrediadau |
Tîm |
Timoedd Amgylcheddol |
Yn Atebol i |
Rheolwr Tȋm Gweithrediadau |
Yn Atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Neb |
Gofynion y Gymraeg |
203220 Cynefinoedd glaswelltir – hyblyg yn y De-orllewin (Hwlffordd, Cross Hands) Hanfodol:Lefel 3 – Gallu cyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith Dymunol:Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl 203221 Cynefinoedd arfordirol (Clogwyni môr a morfeydd heli) – hyblyg yn y De-orllewin (Hwlffordd, Sir Gaerfyrddin, Abertawe) Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml Dymunol:Lefel 3 – Gallu cyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith 203222 hyblyg yn y De-orllewin (Hwlffordd, Sir Gaerfyrddin, Abertawe) Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml Dymunol: Lefel 3 – Gallu cyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith Sylwch: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. |
Math o gontract |
Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2025, posibilrwydd o estyniad. |
Patrwm gwaith |
Llawn amser, 37 awr yr wytnos. |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
26 Mehefin 2022 |
Cyfweliad i'w gynnal ar \ a ble |
Drwy Microsoft Teams, dyddiad i’w gadarnhau. |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Diben y swydd
Mae llawer o rywogaethau a chynefinoedd yng Nghymru mewn cyflwr o ddirywiad difrifol. Byddwch yn rhan o dîm lleol sy'n cyflawni strategaeth gwydnwch bioamrywiaeth ac ecosystemol CNC sef 'Natur Hanfodol' a byddwch yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ar brosiectau penodol sy'n mynd i'r afael â'r "Argyfwng Natur" ehangach. Bydd angen brwdfrydedd a phenderfyniad arnoch yn ogystal â phrofiad o weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid. Bydd angen gwybodaeth dda am fioamrywiaeth ddaearol. Mae'r rolau'n cynnwys rolau cyffredinol yn ein lleoedd penodol i reoli cadwraeth o fewn ardal yn ogystal â phrosiectau penodol sy'n canolbwyntio ar gynefinoedd er mwyn gwella cyflwr safleoedd dros ardal ehangach. Bydd y rolau fel a ganlyn:
203220 N2K Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy – Cynefinoedd glaswelltir – hyblyg yn y De-orllewin (Hwlffordd, Cross Hands)
203221 N2K Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy – Cynefinoedd arfordirol (Clogwyni môr a morfeydd heli) – hyblyg yn y De-orllewin (Hwlffordd, Cross Hands, Llandarcy)
203222 N2K Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy – hyblyg yn y De-orllewin (Hwlffordd, Sir Gaerfyrddin, Abertawe)
Pan fyddwch yn gwneud cais, nodwch pa swydd(i) sydd o ddiddordeb i chi.
Gwneud cais am swydd wag
Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth
- Effaith
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
- Cyfrifoldeb dros Adnoddau
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Disgrifiad Rȏl |
|
Diben y swydd: |
Byddwch yn gweithio yn un o dimau ardal Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn darparu cyngor yn ymwneud â rheoli safleoedd Natura 2000 yn gynaliadwy er mwyn cefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru i adfer safleoedd Natura 2000. Mae’r rhaglen yn anelu at helpu i fynd i'r afael â'r Argyfwng Natur, gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac adeiladu ecosystemau gwydn. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid i ddatblygu prosiectau, monitro eu cynnydd a sicrhau eu bod yn cyflawni'n effeithiol ac yn brydlon. |
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i'r swydd: |
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.