Uwch Geomorffolegydd
Dyddiad cau:26 Mehefin 2022 | Cyflog: £35,994-£39,369 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Lwfans: Mae'r swydd hon yn gymwys ar gyfer lwfans cadw o £6,120 y flwyddyn (sydd ar hyn o bryd yn weithredol tan fis Chwefror 2024, ond gyda'r posibilrwydd o gael ei ymestyn ymhellach).
Math o gontract: Cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2022
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos, Dydd Llun- Gwener
Rhif swydd: 203206
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Byddwch yn ymuno â’r Tîm Rheoli Hydroleg, Geomorffoleg ac Adnoddau Dŵr yng Ngogledd Cymru, yn ein Hadran Rheoli Llifogydd a Dŵr. Rydym yn dîm amlswyddogaethol mawr sy'n gorchuddio Gogledd a Chanolbarth Cymru. Byddwch yn gweithio ar rai o’r afonydd mwyaf eiconig Cymru yn cynnwys afonydd Dyfrdwy, Conwy a Hafren. Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o waith safle ac yn y swyddfa, a byddwch yn cael y cyfle i ddatrys atebion ymarferol a fydd yn ein helpu i ddelio â’r Argyfwng Natur a Hinsawdd
Rydym ar hyn o bryd yn cynyddu ein cynhwysedd Geomorffoleg, a byddwch un o dri Geomorffolegydd yn gorchuddio Gogledd a Chanolbarth Cymru. Byddwch hefyd yn rhan o grŵp ehangach sy’n darparu Geomorffoleg ledled Cymru, gan weithio’n agos gyda’n tîm chwaer yn De Cymru a’n cydweithwyr yn y Brif Swyddfa.
Byddwch yn darparu gwasanaeth technegol cynhwysfawr geomorffoleg afonol, i gwsmeriaid mewnol a phartneriaid. Byddwch yn cefnogi nifer o brosiectau adferiad ar afonydd proffil uchel ledled Gogledd Cymru. Hefyd, byddwch yn darparu cyngor ac arweiniad ar Ganiatad Gweithgarwch Perygl Llifogydd a Thrwyddedau Tynnu Dŵr, gan ein helpu i gynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau a gwella llesiant ar draws Cymru
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Ymateb i geisiadau cynllunio (gan gynnwys ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol), trwyddedau, cydsyniadau a chamau gorfodi ar waith mewnol ac allanol i hyrwyddo gwaith sy’n gyfrifol o safbwynt geomorffolegol, a chynghori ar gydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a deddfwriaeth berthnasol arall.
- Gweithredu fel cynghorydd technegol arbenigol ar adfer afonydd, biobeirianneg a mesurau rheoli llifogydd yn naturiol.
- Datblygu nodiadau arfer gorau a chyfarwyddyd gweithredol ar gyfer geomorffoleg, yn ogystal â darparu mewnbwn technegol i ganllawiau ar gyfer prosiectau rheoli perygl llifogydd, ynni dŵr, adfer tynnu dŵr yn gynaliadwy, a physgodfeydd.
- Rhannu, hyrwyddo a cheisio arfer gorau newydd i ddiwydiant trwy gynrychiolaeth genedlaethol CNC mewn grwpiau cynghori technegol.
- Rhoi cyngor arbenigol ar ddatblygu arferion geomorffolegol yn y dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar eu rôl wrth reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Rhoi cymorth technegol i gydweithwyr CNC ar faterion geomorffolegol cymhleth.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gradd mewn pwnc gwyddonol penodol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd neu beirianneg sifil).
- Aelod graddedig o gorff proffesiynol priodol (e.e. CIWEM neu Sefydliad y Peirianwyr Sifil), gan weithio tuag at fod yn siartredig.
- Gallu dangos cymhwysedd mewn gwyddor geomorffolegol a meddu ar y gallu i weithredu’n ymarferol ac yn arloesol ar lefel weithredol. Byddwch wedi ennill profiad dros nifer o flynyddoedd trwy ddefnyddio dulliau, technegau a chyfrifiadau geomorffolegol, gyda profiad o weithio ar safleoedd afonydd.
- Gwybodaeth arbenigol am ddulliau, technegau a chyfrifiadau geomorffolegol.
- Dealltwriaeth dda o elfennau hydromorffolegol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, ynghyd â'r gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol cymhleth ar agweddau o'r fath.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth dechnegol i bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
- Profiad o oruchwylio, hyfforddi a mentora.
- Y gallu i ymgymryd â gwaith maes mewn amgylchedd sy'n heriol yn gorfforol o bryd i'w gilydd.
- Trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg: Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais: 26 Mehefin 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag:
Robert.Bissell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
07468 742442
oliver.lowe@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
03000 654549
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.