Cynghorydd Arbenigol, Datblygu Sefydliadol
Dyddiad cau: 24 Mai 2022 | Cyflog: £35,994 | Lleoliad: Gweithio gartref ar hyn o bryd gyda chyfleoedd ar gyfer gweithio’n hyblyg (gartref/mewn swyddfa) ledled Cymru
Er gwaetha’r sefyllfa gyfredol gyda golwg ar COVID19 - mae’r broses o recriwtio yn parhau a bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Crynodeb Swydd |
|
Teitl Swydd |
Cynghorydd Arbenigol, Datblygu Sefydliadol |
Rhif y swydd |
203177 |
Gradd |
Gradd 6, £35,944 yn codi i £39,369 dros dair blynedd |
Lleoliad |
Gweithio gartref ar hyn o bryd gyda chyfleoedd ar gyfer gweithio’n hyblyg (gartref / mewn swyddfa) ledled Cymru |
Cyfarwyddiaeth |
Strategaeth a Datblygu Corfforaethol |
Tîm |
Datblygu Sefydliadol |
Yn Atebol i |
Pennaeth Datblygu Sefydliadol |
Yn Atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Neb |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith Sylwch: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. |
Math o gontract |
Apwyntiad Cyfnod Penodol (tan 31 Mawrth 2023) |
Patrwm gwaith |
Llawn amser, 37 awr y wythnos |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
24 Mai 2022 |
Cyfweliad i'w gynnal ar \ a ble |
Drwy Microsoft Teams, dyddiad i’w gadarnhau |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Diben y swydd
Mae ein staff anhygoel yn gofalu am ein hadnoddau naturiol arbennig yng Nghymru – mynyddoedd a choetiroedd garw, tirweddau a morlinau hardd, a bywyd gwyllt anhygoel. Maent yn gwneud hyn oherwydd yr hyn y mae ein hadnoddau naturiol yn ei ddarparu ar ein cyfer: i helpu i leihau'r risg o lifogydd a llygredd i bobl ac eiddo; i ofalu am fannau arbennig ar gyfer llesiant, bywyd gwyllt a phren; ac i weithio gydag eraill i’n helpu ni i gyd i’w rheoli’n gynaliadwy.
Ein rôl fel arbenigwyr ymgysylltu â staff yw datblygu ymgysylltiad rhwng ein staff gwych a'n sefydliad – gan ddatblygu ymdeimlad o berthyn.
Rydym yn gwneud hyn drwy ddatblygu'r cysylltiad drwy ddigwyddiadau #TîmCNC (megis Diwrnod #TîmCNC) a thrwy hwyluso gwrando ar lais ein staff drwy arolygon a grwpiau, sef gwaith sy’n helpu i ymgorffori ein hegwyddorion sefydliadol drwy ymgysylltu a chydweithredu.
Rydym hefyd yn helpu'r sefydliad i ymgorffori ein gwerthoedd, a grëir gan wrando ar ein staff fel eu bod yn adlewyrchu'r bobl sy'n gweithio yma a pham maent yn gweithio yma. Rydym yn cynnal ein rhaglen gynefino i ddarparu croeso cynnes i bobl sy'n ymuno â ni fel eu bod yn cael synnwyr o sut fath o sefydliad maent yn ymuno ag ef.
Rydym am i bawb ddod i CNC i wneud gwaith maent yn dwlu arno, gyda phobl maent yn eu parchu, i wneud y cyfraniad gorau a allant, i deimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi, ac i gael gyrfaoedd gwerth chweil a hirhoedlog, gan weithio'n effeithiol gyda sefydliadau eraill.
Eich rôl fydd cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu ein Cynllun Ymgysylltu â Staff drwy amryw o ffrydiau gwaith gwahanol a'n helpu i greu sefydliad ar ffurf pobl sy'n wych i weithio ar ei gyfer.
Rydym yn chwilio am arbenigwr sy'n gallu dangos y canlynol:
- Gwybodaeth a phrofiad technegol o ddatblygu polisi i weithredu newid
- Rheoli prosiectau a fydd yn dylanwadu ar ein diwylliant sefydliadol ac yn effeithio arno
- Dealltwriaeth o ddiwylliant a phrofiad sefydliadol mewn amgylchedd lle mae newid cadarnhaol wedi cael ei gyflawni
- Sgiliau rhyngbersonol cryf
- Hyder i feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol gyda chydweithwyr a phartneriaid
- Gwybodaeth, technegau ac offer meddalwedd rheoli prosiect damcaniaethol ac ymarferol
- Profiad o reoli risg a/neu reoli newid
- Y gallu i drosi materion cymhleth o ffynonellau lluosog, gan gynnwys ffynonellau data, yn opsiynau clir
- Sgiliau cyd-drafod a dylanwadu
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid
- Profiad o un o’r canlynol: datblygu sefydliadol, rheoli adnoddau dynol, ymgysylltu â staff, a rheoli prosiectau
Pa wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r swydd?
Mae'n rhaid i chi fod â chymhwyster cydnabyddedig, gradd a/neu brofiad perthnasol sylweddol i gael eich cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y rôl.
Gwneud cais am swydd wag
Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth
- Effaith
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol
|
|
Gwerthuso gwybodaeth
|
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth
|
|
Effaith
|
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill
|
|
Disgrifiad Rôl |
|
Diben y swydd: |
Fel Arbenigwr Datblygu Sefydliadol, bydd eich ffocws ar gefnogi twf a datblygiad pobl drwy ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau i gynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein sefydliad, drwy gyflawni rhaglen Datblygu Sefydliadol gynhwysfawr sy'n adlewyrchu ein Gwerthoedd , lle mae cydweithio a chyfathrebu'n allweddol. Byddwch yn darparu rheolaeth prosiect a phroffesiynol arbenigol ac yn cyflawni arbenigedd gan weithio ar y cyd ag uwch-arbenigwyr yn y tîm Datblygu Sefydliadol. Bydd eich cyfraniad i Gynllun y Gweithlu a'r Cynllun Ymgysylltu â Staff yn galluogi cyflawniad llwyddiannus rhaglenni gwaith i ddatblygu'r sefydliad a'n diwylliant ymhellach. |
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i'r swydd: |
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.