Dyddiad cau: 2 Ebrill 2023 | Cyflog: £47,408 - £52,359 (Gradd 8)Lleoliad: Hyblyg

 

Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer lwfans cadw o hyd at £3,182 (wedi’i gymeradwyo hyd 31 Ionawr 2026). Byddem yn croesawu trafodaethau gydag ymgeiswyr addas yn ystod y cam cyfweld.

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif swydd: 203015

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae hon yn rôl dechnegol a rheolaethol uwch, a'i diben yw:

Gan weithio fel rhan o'r tîm rheoli TGCh, bydd deiliad y swydd yn darparu lefel uchel o arbenigedd a chyngor proffesiynol ac arbenigol i eraill ar ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â phrofion yn seiliedig ar ei wybodaeth a’i arbenigedd helaeth a dwys. Bydd yn arbenigwr CNC ar bob prawf TGCh a bydd yn cynghori a dylanwadu ledled CNC. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfarwyddo cyflenwyr allanol ar y profion TGCh y bydd angen iddynt eu cyflawni a'u dal i gyfrif. 

Bydd yn arweinydd tîm ar gyfer yr holl adnoddau dadansoddi profion, rhai parhaol a rhai gan gontractwyr, y gall eu maint fod yn hyblyg i weddu’r rhaglen waith TGCh, gan sicrhau dull cyson o ddadansoddi profion ledled CNC a'i gyflenwyr. Diffinio cyfeiriad strategol a dull technegol CNC a fframweithiau, technegau, offer, yr amgylcheddau ar gyfer cynnal profion, ac arferion gwaith y tîm prawf, niferoedd mawr o staff y tu allan i'r tîm a chyflenwyr allanol.

Drwy gynnal ymchwil gyson i fapiau trywydd technegol TGCh ac ati, caffael dealltwriaeth ddofn o dechnoleg TGCh a rheoli profion. Defnyddio’r ddealltwriaeth hon wrth fynd i’r afael â gofynion busnes CNC, gan fynd ymlaen i flaenoriaethu a threfnu profion TGCh i ddiwallu anghenion CNC wrth wynebu blaenoriaethau sy’n newid, perfformiad systemau, ac argaeledd partneriaid technegol allanol a staff CNC.

Defnyddio arbenigedd ac ymreolaeth sylweddol. Rheoli cynnydd yn gyson, gan fynd i'r afael â risgiau a materion wrth iddynt godi.

Cynnal gwaith caffael/gwerthuso ar wasanaethau profion trydydd partïon a rheoli’r elfennau profi o fewn cyllidebau prosiectau TGCh.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Arwain a datblygu tîm o ddadansoddwyr profion parhaol ac arwain tîm o gontractwyr hyblyg, estynedig, sydd fel arfer yn cynnwys 20 o bobl, i ddatblygu a chefnogi'r sefydliad a'i bartneriaid o ran cydymffurfedd, cynllunio, perfformiad, polisi a strategaeth gorfforaethol.
  • Bod yn gyfrifol ac atebol am arwain, mentora ac ysgogi'r staff a fydd dan eich rheolaeth i sicrhau eu bod yn cyflawni amcanion adrannol ac amcanion strategol CNC, a bod yn atebol am drosiant a newid contractwyr.
  • Penderfynu a ddylai cynhyrchion newydd gael eu rhoi ar waith gan CNC. Atal gweithrediadau TGCh pan fo angen i sicrhau diogelwch, enw da, cyfarpar a chydymffurfedd cyfreithiol CNC ac ati.
  • Penderfynu ar y strategaeth i brofi cannoedd o gynhyrchion TGCh, yn seiliedig ar strategaeth brofi CNC y bydd y swydd hon wedi'i dylunio a'i gweithredu.
  • Bod yn ffynhonnell ddiffiniol arbenigol o gyngor technegol, canllawiau, a sicrwydd ar brofion TGCh ar draws CNC a darparwyr allanol. Cynghori penaethiaid busnes, gwasanaeth a TGCh yn unol â hynny. Rhoi cyfarwyddyd i gontractwyr a chyflenwyr eraill ar sut i gynnal profion i CNC a gwrthod unrhyw gynhyrchion os yw'r profion yn annigonol.
  • Cynllunio rhaglen flynyddol o waith dadansoddi profion sy'n seiliedig ar flaenoriaethau CNC. Rheoli gallu dadansoddi profion yr adran TGCh, gan ddod o hyd i gontractwyr a recriwtio'n barhaol pan fo'n briodol.
  • Rheoli'r gyllideb ar gyfer seilwaith profion, gan gynnwys trwyddedau a gofynion profion allanol fel profion treiddiad, perfformiad, cydweddiad a hygyrchedd.
  • Dadansoddi a dehongli amrediad o wybodaeth gymhleth i sicrhau bod y busnes yn derbyn cynhyrchion a newidiadau TGCh priodol drwy gamau profi, cadarnhau a chyflenwi, hyd at eu cyflwyno i’r gwasanaeth.
  • Sicrhau bod y dadansoddwyr profion yn canolbwyntio ar flaenoriaethau CNC, yn cydymffurfio â strategaethau Llywodraeth Cymru a CNC, yn cynnig y gwerth gorau, ac yn lleihau risgiau gweithredol, ariannol ac ymgyfreitha.
  • Dylanwadu ar newidiadau i brosesau a pholisïau ar gyfer data a chymwysiadau drwy gymryd rôl arweiniol wrth lywodraethu ym maes TGCh.
  • Cyfrannu at gronfa ddata a sail dystiolaeth well i CNC a'i bartneriaid drwy sicrhau bod systemau newydd yn gorfodi ansawdd data ac yn storio data unwaith cyn rhannu'r data diffiniol hwnnw â phawb sydd ei angen
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

Hanfodol

  1. Cymhwyster lefel gradd mewn pwnc sy’n gysylltiedig â TGCh neu gymhwyster safonol y diwydiant
  2. Rheoli prosesau a fframweithiau profi
  3. Profiad o'r system Azure DevOps neu o ddadansoddi profion ym maes TGCh
  4. Profiad o ddarparu cyngor ac arweiniad ar y lefelau a'r mathau o adnoddau profion sy'n ofynnol ar gyfer cynhyrchion neu brosiectau unigol

Dymunol

  1. Profiad o gynnal rôl fel rheolwr profion
  2. Cymhwyster rheolwr prawf uwch yr ISTQB (neu gyfwerth)
  3. Tystysgrifau ar gyfer Azure DevOps neu dystysgrifau perthnasol ar gyfer dadansoddi profion ym maes TGCh
  4. Profiad o weithredu gweledigaeth strategol ar gyfer profi
  5. Profiad o gynorthwyo, mentora a hyfforddi twf a datblygiad tîm profi
  6. Profiad o greu a gweithredu fframweithiau profi
  7. Profiad o hyrwyddo dulliau profi
  8. Profiad o ymchwilio i setiau offer, eu caffael, eu defnyddio a’u rhoi ar waith
  9. Profiad o reoli modelau adnoddau profi gwahanol, e.e. profion mewnol, profion ar gontract allanol fel gwasanaeth ac ati

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth ac arbenigedd helaeth a manwl i ddarparu cyngor arbenigol/technegol gwrthrychol ar lefel uchel i arbenigwyr eraill. Efallai mai ef/hi fydd yr unig unigolyn yn CNC sydd â'r lefel hon o wybodaeth arbenigol/dechnegol. Mae angen i unigolion eraill yn y sefydliad ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd deiliad y swydd hon i gyflawni eu gweithgareddau busnes eu hunain a chynnal parhad busnes.
  • Mae gwybodaeth a sgiliau deiliad y swydd o bwysigrwydd sylweddol i CNC a gallai gael ei ystyried yn arbenigwr lefel uchel gan sefydliadau trydydd parti allanol eraill.
  • Mae’r gallu i reoli ystod eang o risgiau ariannol, cyfreithiol a gweithredol cymhleth, a’r risg i enw da, yn ei faes cyfrifoldeb neu reoli ei hunan yn hanfodol.
  • Y gallu i reoli risg mewn cyd-destun busnes ehangach. Bydd gan ddeiliad y swydd y sgiliau rheoli risg cysylltiedig a gwybodaeth am weithdrefnau a pholisïau sefydliadol.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau rheoli ariannol, arwain a dylanwadu, er efallai na fydd ganddo unrhyw gyfrifoldebau rheoli llinell sylweddol.
  • Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ei lefel uwch o wybodaeth arbenigol/dechnegol, y bydd yn ei diweddaru'n gyson er mwyn parhau i fod yn gwbl ymwybodol o unrhyw ddatblygiadau yn ei faes arbenigedd. Bydd ganddo ddealltwriaeth glir o effaith bosibl unrhyw newidiadau o'r fath, a'r gallu i'w dehongli a'u cymhwyso ar draws y swyddogaeth ac o bosibl ar draws CNC. Mae bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf yn fwy na gofyniad datblygiad proffesiynol parhaus ac yn hanfodol ar gyfer parhad busnes CNC ac er mwyn cynnal y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Datblygu, dehongli a chyfrannu at strategaeth sefydliadol i allu cyflawni cynlluniau.
  • Y gallu i ddadansoddi, dehongli a defnyddio ystod eang o wybodaeth gymhleth iawn, gan ddidynnu pwyntiau allweddol a’u cyfleu i unigolion eraill ar bob lefel. 

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Mae dibyniaeth uchel ar ddeiliad y swydd a bydd ei benderfyniadau a'i weithredoedd yn dylanwadu ar eraill.  Bydd canlyniadau penderfyniadau/gweithredoedd yn bellgyrhaeddol a dylanwadol, yn aml yn cael effaith trwy'r sefydliad cyfan.  Bydd gan ddeiliaid y swyddi’r ymreolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau o fewn eu maes arbenigedd technegol.
  • Gwneir gwaith o fewn paramedrau eang a disgwylir i ddeiliad y swydd weithredu'n annibynnol, gan ofyn am arweiniad neu awdurdod fel arfer dim ond pan fydd camau gweithredu y tu allan i bolisi cyfredol. Efallai y bydd blaenoriaethau sy'n gwrthdaro a bydd angen i ddeiliad y swydd eu rheoli wrth addasu ei raglen waith neu waith eraill. Bydd cerrig milltir a dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu hadolygu.
  • Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau annibynnol ar ei lefel reoli yn seiliedig ar ddadansoddi, gwaith ymchwil, a mewnbwn gan arbenigwyr eraill sydd â dealltwriaeth o'r ystod o opsiynau sydd ar gael a'u goblygiadau posibl i'r busnes. Yn gyffredinol, ni fydd unrhyw atebion parod y gellir eu prynu i mewn.
  • Bydd yn cyfrannu at strategaeth gyffredinol CNC.
  • Bydd y penderfyniadau a wneir yn ymwneud â llunio neu newid gweithdrefnau a chyfrannu at gyfeiriad dyfodol y sefydliad, a fydd yn cael eu cymhwyso gan eraill yn y sefydliad. Bydd penderfyniadau o'r fath yn sylweddol a gallant gynnwys ymrwymo adnoddau o fewn adran neu faes gwaith, a/neu fynd i'r afael â phroblemau/sefyllfaoedd mawr ac anodd lle mae angen ystyried llawer o ffactorau. Efallai y bydd penderfyniadau yn gofyn am rywfaint o syniadau gwreiddiol, dadansoddi a dehongli wrth benderfynu ar y camau i'w cymryd. Gall problemau fod yn gymhleth ac yn gofyn am asesiad sylweddol, sy'n gofyn am ddealltwriaeth fanwl o'r mater a'r sefydliad. Bydd gan ganlyniadau penderfyniadau'r potensial i effeithio ar ddelwedd y sefydliad ac maent yn debygol o bara am gyfnod hwy yn gyffredinol.

Effaith

  • Bydd gwaith deiliad y swydd yn dylanwadu ar eraill, a bydd yr effaith yn sylweddol ac o fath tymor hwy.  Cysylltir yr effaith yn bennaf â natur arbenigol y rôl, a’r cyngor, arweiniad a gwybodaeth arbenigol a ddarperir i eraill. Dibynnir ar ei gyfraniad a'i wybodaeth wrth ddatblygu polisïau, strategaeth a phenderfyniadau. Bydd gan ddeiliad y swydd y gallu i achosi effaith negyddol ar y sefydliad yn fewnol ac yn allanol os rhoddir cyngor anghywir.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Bydd deiliaid y swyddi yn rhyngweithio â rolau eraill ar draws y busnes, gan ymgysylltu â'r sefydliad i ddarparu strategaethau a pholisïau yn y ffordd fwyaf effeithlon.
  • Y gallu i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, yn fewnol ac yn allanol, gan gyfathrebu ar lefel strategol. Y gallu i weithio ar y cyd, o bosibl ar lefel uwch. Fel yr arbenigwr pwnc, byddant yn darparu cyngor arbenigol neu broffesiynol awdurdodol.
  • Gall deiliad y swydd drafod materion polisi neu strategol cymhleth yn ymwneud â'i wybodaeth a'i faes arbenigol, gan deilwra'i ddull a'i arddull yn briodol ar gyfer y gynulleidfa.
  • Bydd deiliaid y swyddi fel arfer yn cynhyrchu dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati sy’n gymhleth. Bydd y rhain yn cynnwys cyngor neu farn lefel uchel iawn y bydd y derbynnydd yn gweithredu yn ei chylch neu'n ei defnyddio, ac y byddai'n debygol o gael effaith andwyol pe bai'n anghywir neu wedi’i drafftio'n wael. Efallai y bydd angen dod o hyd i ddata a chynnwys o nifer o leoliadau neu ffynonellau, gan ofyn am ymchwil allanol a chrebwyll proffesiynol.

Cyfrifoldeb dros bobl

  • Efallai na fydd gan deiliaid y swyddi unrhyw gyfrifoldeb rheoli llinell, ond bydd ganddynt gyfrifoldeb dros arwain staff arbenigol/technegol trwy brosiectau neu raglenni cymhleth a/neu dechnegol/arbenigol iawn, a hynny trwy strwythur ‘rheoli matrics’.
  • Gall deiliaid y swyddi fentora cydweithwyr llai profiadol.

Cyfrifoldeb dros adnoddau

  • Efallai y bydd gan ddeiliaid y swyddi gyllideb ddirprwyedig.
  • Efallai y bydd gan ddeiliaid y swyddi gyfrifoldeb am awdurdodi anfonebau a/neu gaffael nwyddau a gwasanaethau yn unol â'r cynllun dirprwyo ariannol.
  • Bydd deiliaid y swyddi yn gyfrifol am ddefnyddio offer a data yn ddiogel ac yn gyfreithiol.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 2 Ebrill 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 10 Ebrill 2023 ar Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Helen Hamer ar helen.hamer@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf