Peiriannydd Perfformiad Asedau 1 (Perygl Llifogydd)
Dyddiad cau: 5 Mehefin 2022 | Cyflog: £27,003-£30,688 | Lleoliad: Gogledd Powys
Er gwaetha’r sefyllfa gyfredol gyda golwg ar COVID19 - mae’r broses o recriwtio yn parhau a bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Crynodeb o’r Swydd |
|
Teitl y swydd |
Peiriannydd Perfformiad Asedau 1 (Perygl Llifogydd) |
Rhif y swyddi |
202997 |
Gradd |
4, £27,003 gan godi i £30,688 dros gyfnod o dair blynedd |
Lleoliad |
|
Cyfarwyddiaeth |
Gweithrediadau |
Tîm |
Perfformiad Asedau |
Yn atebol i |
Gareth Evens - Arweinydd y Tîm Perfformiad Asedau |
Yn atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Neb |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol Lefel 1, yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion sylfaenol Sylwer os nad ydych yn bodloni’r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, h.y. y gallu i ddeall ymadroddion sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig ystod o opsiynau dysgu a chymorth i staff er mwyn eich helpu i fodloni'r gofynion lleiaf hyn yn ystod cyfnod eich gwaith gyda ni. |
Math o gontract |
Parhaol |
Patrwm gwaith |
Amser llawn, 37 awr |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
5 Mehefin 2022 |
Lleoliad y cyfweliad a phryd bydd yn digwydd |
Dros Microsoft Teams, dyddiad i'w gadarnhau |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Gareth Evens |
Cyd-destun y swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm sy'n rheoli ac yn cynnal Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd a ddefnyddir i leihau llifogydd mewn cymunedau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â chymwysterau addas i gynorthwyo'r gwaith o gynhyrchu rhaglenni cynnal a chadw a gwella asedau rheoli perygl llifogydd. Mae'r asedau hyn yn amrywio o amddiffynfeydd arfordirol a llanw, muriau llifogydd ar lannau afonydd ac o argloddiau i lifddorau a gorsafoedd pwmpio.
Byddwch hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu atebion sy'n seiliedig ar natur i leihau'r perygl o lifogydd a gwella'r amgylchedd a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o’n hadnoddau naturiol yng Nghymru.
Yn ddelfrydol bydd gennych gefndir ym maes peirianneg a bydd eich prif ddyletswyddau’n cynnwys arolygu a monitro asedau yn y maes a chrynhoi a chynhyrchu adroddiadau archwilio asedau er mwyn helpu i gynllunio a darparu rhaglen gwella gyfalaf seiliedig ar ardal.
Byddwch yn gweithio mewn tîm o staff technegol a chanddynt brofiad tebyg, ac yn darparu gwasanaeth seiliedig ar risg ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru a byddwch yn cefnogi ymateb CNC i ddigwyddiadau llifogydd
Mae'r rôl hon yn addas ar gyfer unigolyn technegol sy’n frwdfrydig dros weithio ym maes yr amgylchedd er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Ngogledd Cymru.
Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'r swydd:
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â rôl ar y Rota Dyletswydd Perygl Llifogydd ac efallai y bydd yn ofynnol iddo weithio y tu allan i oriau yn ystod digwyddiadau llifogydd.
Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae'n ofynnol iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Gwneud cais am y swydd hon
Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth
- Effaith
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
- Cyfrifoldeb dros Bobl
- Cyfrifoldeb dros Adnoddau
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Bobl |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Disgrifiad Rôl |
|
Diben y swydd: |
Bydd deiliad y swydd yn helpu i reoli perygl llifogydd drwy gasglu a dadansoddi gwybodaeth am asedau perygl llifogydd er mwyn pennu anghenion rheoli asedau presennol ac yn y dyfodol. Ystyried egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth wneud pob penderfyniad.. |
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i'r swydd: |
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.