Swyddog Cynorthwyol Asesu Amgylcheddol Morol
Dyddiad cau: 31 Mai 2022 | Cyflog: £23,926 | Lleoliad: Hyblyg yn Ne Cymru
Er gwaetha’r sefyllfa gyfredol gyda golwg ar COVID19 - mae’r broses o recriwtio yn parhau a bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Crynodeb Swydd |
|
Teitl Swydd |
Swyddog Cynorthwyol Asesu Amgylcheddol Morol |
Rhif y swydd |
202889 |
Gradd |
3, £23,926 gan godi i £26,677 dros gyfnod o dair blynedd |
Lleoliad |
|
Cyfarwyddiaeth |
Gweithrediadau |
Tim |
Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol |
Yn Atebol i |
Arweinydd Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol |
Yn Atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Dim |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol: Lefel 1 - Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml Sylwch os nad ydych yn bodloni’r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. |
Math o gontract |
Parhaol |
Patrwm gwaith |
Llawn Amser, 37 awr yr wythnos |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
31 May 2022 |
Lleoliad y cyfweliad a phryd bydd yn digwydd |
Wythnos dechrau 13 Mehefin dros Microsoft Teams |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Diben y swydd
Helpu i gyfrannu at gyflawni rhaglen monitro morol CNC trwy gymhwyso eich gwybodaeth ecolegol forol a'ch sgiliau monitro a dadansoddi.
Fel rhan o'r Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol (MMART) o fewn Gwasanaeth Morol newydd CNC, byddwch yn darparu cymorth i bob agwedd ar ein gweithrediadau maes a desg.
Byddwch yn gwneud y canlynol yn benodol:
- Cefnogi gweithrediadau maes ar y lan neu ar y môr, gan gasglu gwybodaeth am gyflwr ein hamgylchedd morol
- Cefnogi'r gwaith o reoli ein data monitro trwy ddefnyddio systemau rheoli data, gan helpu i gyflawni dadansoddiadau, adrodd, a dehongli data morol
- Helpu i gynnal yr offer a dogfennau sy'n cefnogi ein gweithrediadau
- Cynorthwyo ein hymchwiliadau i'r rhesymau dros fethiannau safonau amgylcheddol
- Darparu cymorth technegol ac yn y maes ar gyfer meysydd gwaith eraill o fewn y rhaglen monitro morol, yn ôl y gofyn
Fel aelod o'r Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol, ac yn ddibynnol ar eich sgiliau maes a'ch profiad, efallai y bydd disgwyl i chi ddarparu cefnogaeth dechnegol a maes ar gyfer meysydd gwaith eraill o fewn y rhaglen monitro morol, megis deifio, defnyddio camera fideo gostwng, sonar i sganio gwely'r môr (sidescan), samplu gwaddod ac ansawdd dŵr, monitro rhynglanwol, ac arolygon mamaliaid morol.
Er mwyn cyflenwi eich rhaglen waith, bydd angen i chi ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gydag aelodau o staff eraill sy'n gallu darparu cyngor arbenigol i gefnogi'ch gwaith.
Pa wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r swydd
Cyflawnir y rôl mewn swyddfa yn bennaf ond, gan ddibynnu ar eich sgiliau a phrofiad, dylid disgwyl rhywfaint o weithio yn yr awyr agored gydag oriau anghymdeithasol. Gan fod y swydd yn cwmpasu dyfroedd glannau Cymru i gyd, gallai ofyn am deithio sylweddol.
Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae'n ofynnol iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Gwneud cais am swydd wag
Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
- Cyfrifoldeb am Adnoddau
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol
|
|
Gwerthuso gwybodaeth
|
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth
|
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill
|
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau
|
|
Disgrifiad Rôl |
|
Diben y swydd: |
Bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth dechnegol i dîm amlddisgyblaethol sy'n ymgymryd â monitro, asesu ac adrodd amgylcheddol morol. |
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i'r swydd: |
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.