Swyddog Monitro Grantiau
Dyddiad cau: 5 Chwefror 2023 | Cyflog: £28,403-£32,088 (Gradd 4) |Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 202807
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Asesu a Monitro Grantiau CNC. Fel tîm, rydym yn gyfrifol am weinyddu rhaglen grantiau CNC sy’n cefnogi cymunedau, sectorau a sefydliadau sy’n gallu cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer yr amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru.
Byddwch yn darparu cymorth proffesiynol o’r radd flaenaf i’n tîm monitro profiadol.
Bydd eich arbenigedd a’ch angerdd yn rhan hanfodol o’n gallu i gyflawni er budd amgylchedd naturiol a phobl Cymru, yn ogystal â mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cynnal systemau i olrhain a monitro cynnydd cynigion grant trwy bob cam o'r broses grant.
- Cynhyrchu cofnodion priodol o benderfyniadau, gweithredoedd a chanlyniadau i gyfiawnhau a dangos yr aliniad hwnnw â pholisi a gweithdrefn grant CNC a gofynion llywodraethu sefydliadol ehangach.
- Sicrhau bod cofnodion a llwybrau archwilio priodol sy'n gysylltiedig â chyllid grant CNC yn cael eu cynnal.
- Datblygu a chynnal cydberthnasau effeithiol â chwsmeriaid ar draws timau, gan wrando ar adborth a gweithredu arno.
- Cysylltu â swyddogion perthnasol yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ac o fewn gweithrediadau sy'n ymwneud â'r broses grantiau trwy fonitro a thalu hawliadau grant.
- Adrodd yn ôl y gofyn i Arweinydd Tîm a/neu Reolwr ar unrhyw broblemau grantiau neu bartneriaethau sydd yn destun anghydfod neu y gallai fod angen ymyrraeth gan uwch-reolwyr.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Sgiliau rheoli grantiau gyda dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau cyllidebu a rheolaeth ariannol.
- Rheoli rhaglenni grant o'r cychwyn cyntaf i adrodd ar effaith.
- Rheoli/gweinyddu arian a grantiau.
- Cynnal trywydd archwilio penderfyniadau a wneir ar gynigion grant.
- dadansoddi setiau data mawr gan ddefnyddio Excel.
- Cwblhau chwiliadau gan ddefnyddio Google a chronfeydd data ar-lein eraill.
- Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.
- Adeiladu cydberthnasau â thimau eraill, gyda ffocws ar wasanaeth cwsmeriaid.
- Gweithio o fewn amgylchedd cyllido Cyllid a Grant.
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob Pennaeth Busnes yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 5 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar TBC ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Grace Acres ar grace.acres@naturalresourceswales.gov.uk neu 0300 065 3445
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.