Aelod Tîm Gweithlu Integredig
Dyddiad cau: 29 Mai 2022 | Lleoliad: Wrecsam | Cyflog: £20,255-£23,008
Er gwaetha’r sefyllfa gyfredol gyda golwg ar COVID19 - mae’r broses o recriwtio yn parhau a bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Crynodeb o’r swydd |
|
Teitl y swydd: |
Aelod Tîm Gweithlu Integredig |
Rhif y swydd |
202668, 202623 |
Gradd |
2, £20,255, gan godi i £23, 008 dros dair mlynedd |
Lleoliad |
|
Cyfarwyddiaeth |
Gweithrediadau |
Tîm |
Gweithlu Integredig, Gweithrediadau Gogledd Ddwyrain Cymru |
Yn atebol i |
Arweinydd y Tîm Gweithlu Integredig |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol Lefel 1 – gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion sylfaenol Dymunol Lefel 3 - gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith Sylwer: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, h.y. y gallu i ddeall ymadroddion sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig ystod o opsiynau dysgu a chymorth i staff er mwyn eich helpu i fodloni'r gofynion lleiaf hyn yn ystod cyfnod eich gwaith gyda ni. |
Math o gontract |
Swydd dros dro hyd at 31 Mawrth 2023 |
Patrwm gwaith |
Amser llawn, 9 diwrnod bob pythefnos, bob yn ail ddydd Gwener i ffwrdd |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
29 Mai 2022 |
Lleoliad y cyfweliad a phryd bydd yn digwydd |
Dyddiad i'w gadarnhau, drwy Microsoft Teams |
I wneud cais, anfonwch eich CV at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Peter Ellis |
Cyd-destun y swydd
Byddwch yn rhan o'r Tîm Gweithlu Integredig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy'n gyfrifol am gyflawni gwaith yn uniongyrchol ar asedau amddiffyn rhag llifogydd, mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ac yn Ystâd Goed Llywodraeth Cymru. Byddwch yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw ac yn darparu rhaglen waith gyfalaf ar gyfer asedau CNC a fydd yn cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan CNC. Byddwch yn darparu ymateb brys priodol sy'n golygu y bydd yn ofynnol i chi fod yn rhan o rota wrth gefn a darparu gwasanaeth y tu allan i oriau. Bydd gennych y gallu i weithredu offer fel offer llaw a all gynnwys llif gadwyn. Bydd gennych y gallu i weithredu fel banciwr a slinger/signalau a deall cynlluniau technegol a chyfleustodau, gan weithredu yn unol â'r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu.
Pa wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r swydd?
Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae'n ofynnol iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Gwneud cais am y swydd hon
Bydd y categorïau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
- Cyfrifoldeb dros Adnoddau
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Disgrifiad Rôl |
|
Diben y swydd: |
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw ac yn cyflwyno rhaglen gwaith cyfalaf ar gyfer asedau Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd deiliad y swydd yn darparu ymateb brys priodol a bydd yn ofynnol iddo gyfrannu at rota wrth gefn a gweithio y tu allan i oriau. |
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i'r swydd: |
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.