Aelod Tîm Gweithlu Integredig
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 (Gradd 2) | Lleoliad: Y Trallwng
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Pythefnos 9 diwrnod
Rhifau swyddi: 202656
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw. Fodd bynnag, efallai y bydd gofyn i chi weithio unrhyw le yn ardal Canolbarth Cymru.
Disgrifiad o’r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’r Tîm Gweithlu Integredig yng Nghanolbarth Cymru.
Byddwch chi'n ymuno â thîm sy'n angerddol am yr hyn maen nhw'n ei wneud . Byddwch yn helpu i ddarparu gwaith cynnal a chadw a chyfalaf ar asedau Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r asedau hyn yn cynnwys asedau perygl llifogydd, fel argloddiau llifogydd, a byddwch yn helpu i gadw'r afonydd yng Nghanolbarth Cymru yn rhydd o rwystrau a all gynyddu'r risg o lifogydd. Byddwch hefyd yn gweithio ar asedau eraill a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.Mae'r gallu i weithredu offer megis offer â llaw a allai gynnwys llifiau cadwyn yn elfen bwysig o'r rôl.
Fel rhan o'r tîm, byddwch chi'n cyfrannu at rota wrth gefn i ymateb i ddigwyddiadau, ac yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Byddwch yn darparu gwasanaeth llafur â llaw er mwyn cynnal asedau Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Byddwch yn gallu defnyddio offer megis offer â llaw a allai gynnwys llifiau cadwyn.
- Byddwch yn gallu gweithredu fel arolygwr a thaflwr/arwyddwr.
- Byddwch yn gallu deall cynlluniau technegol a chyfleustodau a gweithredu mewn cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu.
- Byddwch yn defnyddio cyfarpar a pheiriannau bach, h.y. Aebi/Reform, peiriannau torri gwair wrth gerdded, peiriannau malu pren ac ati.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Trwyddedau gweithredwyr perthnasol ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar neu’n gweithio tuag atynt.
- Tystysgrif Gweithio'n Ddiogel IOSH.
- Cymhwysedd mewn TG (lefel sylfaenol).
- Cymorth Cyntaf Brys +F.
- Mae profiad blaenorol o feysydd coedwigaeth, adeiladu, amaethyddiaeth, yr amgylchedd neu fel gweithredwr cyfarpar yn ddymunol.
- Mae'r rôl yn anodd yn gorfforol felly bydd angen lefel resymol o ffitrwydd.
- Hyderus yn gweithio mewn dŵr ac wrth ymyl dŵr.
- Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol.
- Trwydded yrru lawn y DU, yn ddelfrydol yn cynnwys categori B + E (tynnu trelars).
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV a Llythyr Eglurhad at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Dyddiad cau i wneud cais 29 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Keith Jenkins ar keith.jenkins@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07850 868066
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.