Uwch Swyddog, Cynllunio Coedwigoedd
Dyddiad cau: 2 Ebrill 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Tŷ Cambria, Caerdydd
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener
Rhif swydd: 202535
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Os ydych chi'n unigolyn trefnus, cydwybodol a gweithgar sy'n gweithio'n dda fel rhan o dîm ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth i'r amgylchedd, mae gennym ni'r swydd i chi! O fewn Tîm Pobl a Lleoedd Canol De Cymru rydym yn chwilio am uwch swyddog ym maes cynllunio adnoddau coedwig, i fod â rôl uniongyrchol wrth amlinellu gweledigaeth y dyfodol ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC yn Nghanol De Cymru a De-ddwyrain Cymru.
Bydd y Cynlluniau Adnoddau Coedwig yn arwain y ffordd o ran sut y bydd CNC yn rheoli ein hadnodd coedwigoedd er mwyn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a diogelu lles cenedlaethau'r dyfodol, gan hefyd sicrhau ein bod yn parhau i fodloni'r galw am bren o Gymru a gynhyrchir yn gynaliadwy ac yn cynnal ardystiad yn unol â Chynllun Ansawdd Coetiroedd y DU (UKWAS).
Byddwch yn sicrhau bod ein coedwigoedd yn iach, yn wydn ac yn cael eu rheoli'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Byddwch yn arwain y gwaith o gyflawni gwahanol agweddau ar waith coedwigaeth technegol, gan gysylltu'n agos â chydweithwyr a rhanddeiliaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Byddwch yn arwain ar dystiolaeth, ymgysylltu ac ymgynghori ynghylch pob cynllun adnodd coedwig. Felly, mae'r gallu i gyfathrebu'n dda yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol.
Gan ddefnyddio tystiolaeth o ffynonellau eang, byddwch yn gosod amcanion a blaenoriaethau sy'n sail i gynllun cynaliadwy, gan nodi'r weledigaeth hirdymor ar gyfer pob coetir a chynhyrchu cyfres o fapiau strategol sy'n nodi'r systemau rheoli, y rhaglenni cwympo ac ailstocio a'r gweithgarwch rheoli tir ehangach sydd ei angen i gyflawni'r amcanion dros y 30 mlynedd nesaf. Byddwch yn arwain y gwaith o gyfleu'r cynlluniau hyn i gydweithwyr a rhanddeiliaid ehangach, ac wrth ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus.
Bydd y cynlluniau adnoddau coedwig yn amlinellu'r gwaith o gynhyrchu pren masnachol, cadwraeth natur a bioamrywiaeth, hamdden a mynediad, rheoli llifogydd yn naturiol, safleoedd dynodedig, dal a storio carbon, adfer mawndiroedd ac effaith gymunedol. Byddwch yn rhoi blaenoriaeth i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, yr argyfyngau natur a hinsawdd ac Amcanion Llesiant ym mhopeth a wnewch.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phroffesiynol gyda phrofiad yn y sector coedwigaeth, sy'n gallu gweithio'n gyflym, yn aml i derfynau amser tynn ac sy'n gallu blaenoriaethu ei lwyth gwaith yn effeithiol er mwyn cyflawni dros amgylchedd Cymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Arwain y lle ar un agwedd neu ragor ar gylch gwaith y tîm: y Datganiad Ardal, llesiant, cydlynu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, cyllid allanol, defnydd a chynllunio coedwigaeth, cynllunio cadwraeth a safleoedd dynodedig, hamdden a mynediad, pysgodfeydd, dŵr, a darparu arbenigedd technegol a chyngor i'r tîm a'r Pennaeth Lle.
- Arwain ar ddatblygu a gweithredu cynlluniau adnoddau coedwigoedd, gan sicrhau eu bod yn gadarn o ran coedamaeth ac yn cynnal ardystiadau.
- Mentora aelodau eraill o'r tîm i ehangu eu dealltwriaeth o'ch arbenigedd, fel bod y tîm yn datblygu dealltwriaeth amlddisgyblaeth o faterion amgylcheddol.
- Gweithio gyda'r tîm i ddatblygu datrysiadau arloesol i faterion amgylcheddol, gan integreiddio agweddau lluosog ar gynllunio o fewn y lle. Nodi bylchau yn y sail dystiolaeth a gweithio gyda'r gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu i flaenoriaethu a chomisiynu gwaith ymchwil.
- Hwyluso'r gwaith o uno amcanion Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus â Datganiadau Ardal a'r cynllun lle, gan weithio ar draws ffiniau fel sy’n briodol.
- Gweithio'n gydgynhyrchiol gyda'r timau yn y lle a chyda rhanddeiliaid allanol, gan ddarparu arbenigedd technegol i ddatblygu a dylanwadu ar flaenoriaethau, prosiectau a chynlluniau i'w cyflenwi gan eraill, gan gynnwys drwy gyllid allanol.
- Datblygu a monitro'r rhaglen o brosiectau a gyllidir yn allanol ar draws pob cyfle cyllido.
- Gweithio gyda thimau yn y lle i ddatblygu eu sgiliau o ran gweithio mewn partneriaeth.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ddatblygu a dylanwadu ar flaenoriaethau, amcanion, cynlluniau a phrosiectau o fewn y lle a fydd yn cyflawni'r Datganiad Ardal ac amcanion y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, fel cynlluniau cwmnïau dŵr, cynlluniau teithio llesol, cynlluniau rheoli tirweddau dynodedig, a chynlluniau coedwigoedd.
- Rhwydweithio â thimau Pobl a Lleoedd eraill ledled Cymru, gan ddarparu lefel gwasanaeth gytunedig o wybodaeth a mewnbwn technegol ar gyfer timau eraill.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Sgiliau rhagorol o ran ymgysylltu, dylanwadu a datblygu dulliau arloesol o ymdrin â phroblemau cymhleth.
- Gallu rhagorol i feithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid.
- Gwybodaeth sylweddol am ofynion deddfwriaeth amgylcheddol sy’n ymwneud â chylch gwaith y lle.
- Bydd gennych wybodaeth arbenigol am un neu ragor o feysydd technegol cylch gwaith y tîm:
- Datblygu Datganiadau Ardal
- Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau llesiant
- Cyllid allanol a gweithio mewn partneriaeth
- Hamdden a mynediad
- Defnydd neu gynllunio coedwigoedd
- Cynllunio strategol ym maes pysgodfeydd
- Rheoli safleoedd a thirweddau gwarchodedig
- Cynllunio Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
- Asesu effeithiau ar ansawdd yr aer
- Rheoli adnoddau dŵr
- Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a chynlluniau dalgylch
- Rheoli perygl llifogydd
- Y gallu i asesu ffynonellau lluosog a chymhleth o wybodaeth ac annog eraill i wneud penderfyniadau da.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
- Profiad o drafod ag uwch-reolwyr.
- Profiad o ddylanwadu ar lefelau uwch sefydliadau.
- Gallu rhagorol i feithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid.
- Sgiliau trefnu rhagorol.
- Aelodaeth broffesiynol o Sefydliad Siartredig y Coedwigwyr neu'r gallu i gyflawni hyn ymhen tair blynedd.
- Gwybodaeth sylweddol am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion sym
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 2 Ebrill 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Andy Robinson ar andrew.robinson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.