Rheolwr Prosiect, Adnoddau Naturiol a Llesiant
Dyddiad cau: 4 Ebrill 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 202223
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cymryd rôl weithredol yn y gwaith o reoli prosiectau a rhaglenni gwaith mewn tîm sy'n tyfu, sy'n cynnwys arbenigwyr cynaliadwyedd a llesiant, ac yn ymgymryd â phrosiectau penodol i gefnogi'r gwaith o gyflawni dyletswyddau Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Fel hyrwyddwyr uchelgais CNC i wella'r ffordd y caiff adnoddau naturiol eu rheoli er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, mae'r tîm Strategaeth a Pholisi Adnoddau Naturiol a Llesiant yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru a'i bartneriaid yn benodol i wneud pethau gwahanol a gwell, yn unigol ac ar y cyd, i wireddu'r nod o reoli cynaliadwy.
Byddwch yn cefnogi'r tîm drwy baratoi asesiadau ac adroddiadau technegol, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth a data; datblygu cynlluniau, gweithdrefnau, offer a chanllawiau; paratoi proffiliau cyllideb a monitro gwariant; rheoli risg; gweithio ar ddigwyddiadau cyfathrebu ac ymgysylltu ar raddfa fach; a chefnogi'r tîm wrth iddynt ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, partneriaid, rhanddeiliaid allanol a mewnol a chyrff amgylcheddol eraill er mwyn cyflawni Datganiadau Ardal a Chynlluniau Llesiant.
Byddwch yn naturiol chwilfrydig a brwdfrydig am syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio, yn dda am ddatrys problemau, yn barod i brofi atebion arloesol, ac yn ddigon hyblyg i newid eich cynlluniau os nad ydynt yn gweithio. Byddwch yn gallu cymell eich hun, yn drefnus, ac yn ddisgybledig wrth gofnodi gweithredoedd a chadw dogfennaeth briodol gan ddefnyddio'r systemau corfforaethol. Byddwch yn gyfathrebwr da, yn gallu dylanwadu ar bobl ac yn bresenoldeb calonogol, a all adeiladu hygrededd i'r tîm yn gyflym gyda chydweithwyr o fewn CNC a thu hwnt.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio amrediad o wybodaeth a ffynonellau data.
- Cefnogi'r gwaith o baratoi deunyddiau i lywio’r broses o ddatblygu polisïau, cyngor statudol a dogfennau canllaw Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Paratoi'r gwaith o ddatblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y broses o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
- Cydlynu’r gwaith o baratoi proffiliau cyllideb a monitro gwariant ar draws y rhaglen Ymgorffori Adnoddau Naturiol a Llesiant. Darparu gwybodaeth fanwl gywir yn gyson i reolwyr ar gynnydd, gan gynnwys adrodd yn ôl at Lywodraeth Cymru, er mwyn addasu a sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni yn ôl yr amserlen a'r gost.
- Cysylltu â staff perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch rhyngweithiadau rhwng ffrydiau gwaith Adnoddau Naturiol a Llesiant er mwyn sicrhau bod y gwaith o gyflawni rhwymedigaethau prosiect, polisi neu strategaeth yn cael ei wneud mewn modd amserol ac effeithiol.
- Bod yn gyfrifol am reoli prosiectau adolygu swyddogaethol bach yn unol â'r canllawiau statudol cytunedig a'r rhaglen waith gynlluniedig.
- Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru a chyrff amgylcheddol eraill yng Nghymru a'r DU mewn perthynas ag adrodd ar ymgorffori Adnoddau Naturiol a Llesiant a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid.
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd drwy'r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
- Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi Cynllun Datblygu Personol cytunedig.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad a chymhwyster dangosadwy mewn PRINCE 2 neu offeryn rheoli prosiect/rhaglen arall tebyg
- Profiad o'r canlynol: dadansoddi technegol a dehongli amrediad o ddata a gwybodaeth amgylcheddol; dadansoddi setiau data mawr â thaenlenni Excel, gan gynnwys tablau pifod.
- Cymhwysedd mewn amrediad o feddalwedd TG, yn benodol Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a’r gyfres o raglenni Microsoft Office, a chymhwysedd mewn systemau ariannol a ddefnyddir yn Cyfoeth Naturiol Cymru a phroffilio cyllidebau.
- Hunan-gymhellol a threfnus, ac yn ddisgyblaethol wrth gofnodi camau gweithredu a chadw dogfennau priodol.
- Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob Pennaeth Busnes yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Hanfodol Lefel 3 – gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 4 Ebrill 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wythnos sy’n cychwyn 17 Ebrill 2023 ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Fen Turner ar fen.turner@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu Helga Dixon ar helga.dixon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.