Cydlynydd Rheoli Cyfleusterau
Dyddiad cau: 2 Mehefin 2022 | Cyflog: £27,003-£30,688 | Lleoliad: Hyblyg o fewn ne Cymru - Caerdydd/Abertawe/Castell-nedd
Er gwaetha’r sefyllfa gyfredol gyda golwg ar COVID19 - mae’r broses o recriwtio yn parhau a bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Crynodeb Swydd |
|
Teitl Swydd |
Cydlynydd Rheoli Cyfleusterau |
Rhif y swydd |
201971 |
Gradd |
4, £27,003 gan godi i £30,688 dros dair blynedd |
Lleoliad |
|
Cyfarwyddiaeth |
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol |
Tim |
Gweithrediadau cyfleusterau, y Gogledd a’r Canolbarth |
Yn Atebol i |
Sian Hughes, Arweinydd Tîm Cyfleusterau |
Yn Atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Neb |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml Dymunol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith Sylwch: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. |
Math o gontract |
Parhaol |
Patrwm gwaith |
Llun-Gwener 37 awr |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
2 Mehefin 2022 |
Cyfweliad i'w gynnal ar \ a ble |
Dyddiad i’w gadarnhau, drwy Microsoft Teams |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Diben y swydd
Mae'r tîm gweithredol Cyfleusterau yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd adeiledig diogel ac iach i staff CNC, a chontractwyr, gan eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac i'n cwsmeriaid fwynhau eu profiad fel ymwelwyr.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r tîm wrth i ni gyflawni’r cylch gwaith uchod tra'n gweithredu newidiadau i wella ein hadeiladau fel eu bod yn addas ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol ac yn lleihau ôl troed carbon CNC, gan wneud ein rhan i ymateb i Argyfwng yr Hinsawdd.
Mae hwn yn gyfle i weithio fel rhan o dîm mawr, gwasgaredig ledled De Cymru, gan gefnogi swyddogaeth Rheoli Cyfleusterau. Gan adrodd i’r Arweinydd Tîm, byddwch yn goruchwylio'r gwaith o reoli swyddfeydd a depos o ddydd i ddydd ar draws yr ystâd adeiledig. Bydd hyn yn cynnwys cydgysylltu gwaith cynnal a chadw ataliol a gwaith adferol a gynlluniwyd, cysylltu â rheolwyr contractau, a rheoli contractwyr. Drwy gynllunio gwaith yn effeithiol byddwch yn cydlynu llwyth gwaith y Cynorthwywyr a’r Swyddogion Cyfleusterau yn eich ardal. Drwy weithio ar y cyd â’r Goruchwyliwr Rheoli Cyfleusterau bydd gofyn i chi greu a datblygu cynlluniau gwaith cadarn i sicrhau bod rhwymedigaethau cydymffurfio cyfreithiol statudol CNC yn cael eu bodloni.
Bydd eich brwdfrydedd wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'n staff a'n rhanddeiliaid yn rhan annatod o hyn. Mae hon yn rôl ymarferol, sy'n golygu gweithio mewn amgylchedd prysur a deinamig. Byddwch yn cysylltu â staff ac yn cynnal sesiynau ymgynghori i benderfynu sut y gallwn greu amgylchedd gwell a mwy cynhyrchiol i'n staff.
Mae gan CNC achrediad ISO14001 amgylcheddol ac ISO45001 rheoli Iechyd a Diogelwch ac mae llawer o’n tasgau yn cefnogi’r rhain yn uniongyrchol a gall y byddant yn cael eu harchwilio’n fanwl.
Rydym yn chwilio am berson cyfrifol, hyblyg a phragmatig, sy'n gallu blaenoriaethu, cynllunio a chyflwyno gwaith i'r safon uchaf. Rydym hefyd yn disgwyl safonau uchel o ragoriaeth wrth ymdrin â’n cwsmeriaid, yn fewnol ac yn allanol.
Darperir hyfforddiant a cheir cyfleoedd i wneud prentisiaeth IWFM ac ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa o fewn y swyddogaeth Rheoli Cyfleusterau a’r Fflyd.
Pa wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r swydd?
Trwydded Yrru yn fanteisiol
Gwneud cais am swydd wag
Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
- Cyfrifoldeb dros Adnoddau
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Disgrifiad Rôl |
|
Diben y swydd: |
Cefnogi’r gwaith o gyflwyno gwasanaeth cyfleusterau effeithlon sy'n chwarae rhan allweddol o ran galluogi busnes Cyfoeth Naturiol Cymru o ddydd i ddydd a’r gwaith o redeg y sefydliad yn effeithiol. |
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i'r swydd: |
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.