Uwch-beiriannydd Cymorth Cymwysiadau
Dyddiad Cau: 26 Mawrth 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 201849
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Gan weithio i Arweinydd y Tîm Cymorth Cymwysiadau, disgwylir i'r arbenigwr ddarparu cymorth technegol i holl gymwysiadau byw Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn fframwaith ITIL a model gweithredu Tîm Cymorth Cymwysiadau diffiniedig, er mwyn darparu gwasanaeth rhagorol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Bod yn Arweinydd Technegol ar gyfer Cymwysiadau TGCh Cyfoeth Naturiol Cymru
- Datblygu cymwysiadau newydd a gwella cymwysiadau presennol yn unol â methodoleg datblygu TGCh
- Sicrhau iechyd ac argaeledd cymwysiadau a systemau yn unol â llywodraethu TGCh
- Sicrhau bod digwyddiadau a cheisiadau am wasanaeth yn cael eu datrys o fewn y cytundebau lefel gwasanaeth cytunedig.
- Gweithio gydag Arweinydd y Tîm Cymwysiadau i weithredu cynllun gwaith y Tîm Cymorth Cymwysiadau
- Gweithio gydag uwch-beirianwyr i ddatrys problemau a gwella systemau byw
- Cynnig llwybr uwchgyfeirio ar gyfer problemau technegol a chynghori peirianwyr, dadansoddwyr a phrentisiaid o fewn y tîm
- Mynychu fforymau Llywodraethu TGCh a chyfrannu tuag at ddylunio a gweithredu datrysiadau newydd
- Arwain, diffinio a chynllunio tasgau cynnal rhagweithiol gan gynnwys diweddariadau rheolaidd i wasanaethau
- Gweithio gyda phartneriaid strategol allanol i sicrhau bod problemau ynghylch cymwysiadau yn cael eu datrys o fewn cytundebau lefel gwasanaeth
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o gefnogi a gweinyddu Office 365 / SharePoint Online / SharePoint 2013 / RecordPoint a CRM Dynamics Online / CRM Dynamics On-Premise
- Profiad profedig o weithio o fewn amgylchedd Azure.
- Profiad o ddatblygu gan ddefnyddio JavaScript, JQuery.
- Profiad o weithio mewn Visual Studio 2012 a 2013 a'r Team Foundation Server (TFS).
- Gwybodaeth am Reoli Gwasanaeth ITIL – yn benodol ynghylch rheoli digwyddiadau a phroblemau a sgiliau rheoli prosiect i ddiffinio, cynllunio a rheoli llifoedd gwaith o fewn eich cylch gwaith.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 26 Mawrth 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Andrew Lightfoot ar andrew.lightfoot@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.