Cynghorydd Arbenigol Safonau Cynaeafu
Dyddiad Cau: 16 Ebrill 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 30 Mehefin 2023 (Cyfnod Mamolaeth)
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos- croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad
Rhif swydd: 201660
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
I helpu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflawni’r safonau uchaf o reoli coedwigoedd cynaliadwy fel sy’n gweddu i’r coedwigoedd gwladwriaethol ardystiedig hiraf yn y byd a sefydliad a chenedl sy’n anelu at fod yn arweinydd byd-eang ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR). Bydd deiliad y rôl yn gwneud hyn drwy ganolbwyntio ar weithrediadau Cynaeafu Pren a/neu Reoli Coedwigoedd ar gyfer sut rydym yn rheoli’r tir yn ein gofal drwy reoli’r gwaith o baratoi polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau CNC. Bydd rhain yn cyfieithu Cymraeg & DU
Polisi’r Llywodraeth, gofynion Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS) a safonau’r diwydiant i ddulliau ymarferol o gyrraedd y pwynt darparu. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, Masnachol a Gweithrediadau, swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a data cymhleth;
- Rheoli’r gwaith o lunio deunydd i lywio datblygiad dogfennau canllaw a chyngor statudol CNC.
- Rheoli datblygiad gweithdrefnau, dulliau, a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflawni ffyrdd newydd o weithio.
- Cynnal archwiliadau ac ymweliadau cymorth
- Cysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiect, polisi a strategaeth yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
- Diffinio’r cymwyseddau sy’n ofynnol a datblygu adnoddau hyfforddi a’u rhoi ar waith.
- Cynnal gwybodaeth am y sector(au) Coedwigaeth gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl y gofyn;
- Cydweithio â’r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflawni Cynllun Datblygu Personol y cytunir arno.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â Choedwigaeth; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran coedwigaeth; a’r materion a’r cyfleoedd ar ystad CNC.
- Gwybodaeth a phrofiad o ran gweithrediadau cynaeafu coed a rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy
- Profiad o: ddadansoddi a dehongli’n dechnegol amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a data amgylcheddol cymhleth.
- Gweithio gyda chwmnïau yn y diwydiant Coedwigoedd a phan fo angen gydag awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, parciau cenedlaethol;
- Gweithio mewn amgylchedd o reoli rhaglen a phrosiect a meddu ar brofiad a/neu gymwysterau Rheoli Prosiect.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol neu’n gweithio tuag at aelodaeth.
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi pob Pennaeth Busnes yng nghyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y gofyn.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 2 – gallu defnyddio rhywfaint o Gymraeg sylfaenol
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 16fed o Ebrill 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 4ydd/5ed o Fai 2023 ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Sally Tansey ar Sally.Tansey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.