Swyddog Trwyddedu Gwastraff
Dyddiad cau: 12 Chwefror 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg ond gall y bydd angen teithio i Gaerdydd yn achlysuro
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 201576
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Penderfynu ar geisiadau am drwyddedau yn unol â pholisïau, prosesau, canllawiau a gweithdrefnau cydnabyddedig CNC. Cynorthwyo’r Gwasanaeth Trwyddedu ac ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol ac allanol.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Penderfynu ar ganlyniad ceisiadau cymhleth am drwyddedau amgylcheddol drwy wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â cheisiadau i’w weithdrefn neilltuedig, a gwneud hynny trwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru lle maent ar gael, a chyhoeddi, gwrthod neu amrywio trwyddedau yn unol ag amserlenni a chyllidebau.
- Penderfynu ar geisiadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol a meddalwedd dechnegol a/neu raglenni modelu, yn unol â gofynion eich gweithdrefn neilltuedig.
- Helpu datblygiad technegol swyddogion trwyddedu yn eich tîm trwyddedu neilltuedig drwy hyfforddiant uniongyrchol a thrwy hyrwyddo’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Datblygiad Technegol gan ddefnyddio eich arbenigedd yn eich maes perthnasol.
- Cynrychioli'r tîm trwyddedu yn eich maes arbenigedd ar grwpiau technegol mewnol perthnasol ac mewn cyfarfodydd â rhanddeiliaid mewnol/allanol.
- Bod yn arweinydd wrth wneud penderfyniadau cymhleth ynglŷn â thrwyddedau, gan gynnwys ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol sy’n llai cymhleth.
- Cydlynu ac arwain y gwaith o baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau yn ymwneud â thrwyddedu.
- Darparu cymorth technegol yn eich maes gwaith ar gyfer timau gweithredol, gan gynnwys cyngor cyn ymgeisio, a rhoi cymorth i’r gwaith o gyflwyno hyfforddiant strwythuredig yn ôl y gofyn.
- Cyfrannu at wella effeithlonrwydd a pherfformiad y tîm trwyddedu, nodi cyfleoedd i newid y prosesau a'r arweiniad, a chefnogi diwylliant o welliant parhaus ar gyfer eich gweithdrefn neilltuedig ac ar gyfer gwaith ar draws gweithdrefnau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae'n ymwneud â'r broses drwyddedu.
- Profiad ymarferol o asesu ceisiadau perthnasol am drwyddedau neu eu defnyddio o fewn rôl gydymffurfio.
- Profiad o gyflenwi’r datrysiadau gorau posibl trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg.
- Profiad o hyfforddi a sgiliau mentora
- Profiad o gyflenwi gwasanaeth i gwsmeriaid a'r gallu i ddylanwadu a pherswadio er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol
- Profiad o gyflenwi gwelliannau/effeithlonrwydd i brosesau
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 12 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Huw Davies ar Huw.Davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 653186
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.