Swyddog Tir Halogedig
Lleoliad: Hyblyg | Cyflog: G6, £35,994-£39,369 | Dyddiad cau: 25 Gorffennaf 2022
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr
Rhif swydd: 201486
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Fel Swyddog Tir Halogedig, bydd disgwyl i chi:
- Gynnig cyngor technegol ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys asesu adroddiadau o archwiliadau safle, asesiadau risg, datganiadau o waith adfer ac adroddiadau gwirio gwaith adfer
- Asesu ceisiadau am drwyddedau sy’n peri risg i dir a dŵr
- Asesu asesiadau risg ar gyfer safleoedd tirlenwi, gan sicrhau bod y safleoedd hyn yn cydymffurfio â’u trwyddedau
- Cynghori’n timau rheoli amgylcheddol ynghylch achosion o lygredd i dir a dŵr daear a chefnogi camau gorfodi lle bo angen
- Datblygu a rheoli prosiectau i wella’n dealltwriaeth o faterion mewn perthynas â dŵr daear a halogi tir yng Nghymru
- Rhoi cyfundrefn tir halogedig ar waith (Rhan 2A) – archwilio a gwaith adfer.
- Datblygu a chynnig cyngor ynghylch polisi a chanllawiau ar gyfer cydymffurfio â Chyfarwyddebau’r UE a deddfwriaeth ddomestig
- Cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch datblygu deddfwriaeth a chanllawiau a rhoi cymorth i Weithgorau perthnasol yr UE, y DU a Chymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Llunio asesiadau technegol, gan dynnu ar amrywiaeth o wybodaeth a data cymhleth; Rheoli’r gwaith o lunio deunyddiau i lywio datblygiad polisi, cyngor statudol a dogfennau canllaw CNC, Llywodraeth Cymru a Phartneriaid eraill;
- Rheoli’r gwaith o ddatblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain ar y gwaith o gyflawni ffyrdd newydd o weithio.
- Cydlynu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sector a phartneriaid i sicrhau y caiff rhwymedigaethau prosiect, polisi neu strategaeth eu cyflawni yn brydlon ac effeithiol.
- Cynghori ynghylch bylchau mewn tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni;
- Cefnogi’r gwaith o ymgysylltu â sectorau a phartneriaid, Llywodraeth Cymru, Defnyddwyr Dŵr, Awdurdodau Lleol, diwydiant a’r rhai sy’n ddibynnol ar ddŵr daear yng Nghymru a’r DU; a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid.
- Cynnal gwybodaeth am Wyddor Tir Halogedig gan adnabod goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Gyfoeth Naturiol Cymru a’r sectorau cysylltiedig.
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion wedi’u diffinio, yn ôl y gofyn; Cydweithio gyda’r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygiad Personol y cytunwyd arno.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth am: ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE mewn perthynas â Thir a Gwastraff Halogedig; symbylwyr polisi Cymru, y DU a Llywodraeth Cymru mewn Tir Halogedig.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol am yr ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid a diwydiannau sy’n ymwneud â Hydroddaeareg yng Nghymru.
- Profiad o: ddadansoddi technegol a dehongli amrywiaeth o wybodaeth a ffynonellau data amgylcheddol cymhleth; dadansoddi setiau data mawr
- Gweithio gyda/yn y canlynol: Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, y Sector Gwastraff a diwydiannau, cyrff anllywodraethol ym maes yr amgylchedd, Gweithrediadau CNC.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a chymwysterau Rheoli Prosiect.
- Yn ddelfrydol byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol neu’n gweithio tuag at ddod yn aelod.
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi’r holl Benaethiaid Busnes yn EPP, yn ôl yr angen.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais 25 Gorffennaf 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal a drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Trystan James ar Trystan.James@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 654327
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.