Uwch Beiriannydd Geodechnegol
Lleoliad: Hyblyg | Cyflog: G7, £39,700-£44,522 | Dyddiad cau: 25 Gorffennaf 2022
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr
Rhif swydd: 201479
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
- Cynnig cyngor technegol ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys asesu adroddiadau o archwiliadau safle, asesiadau risg, datganiadau o waith adfer ac adroddiadau gwirio gwaith adfer
- Asesu ceisiadau am drwyddedau sy’n peri risg i dir a dŵr
- Asesu asesiadau risg sefydlogrwydd ar gyfer safleoedd tirlenwi, gan sicrhau bod safleoedd yn cydymffurfio â’u trwyddedau
- Cynghori’n timau rheoli amgylcheddol ynghylch achosion o lygredd i dir a dŵr daear a chefnogi camau gorfodi lle bo angen
- Datblygu a rheoli prosiectau i wella’n dealltwriaeth o faterion mewn perthynas â dŵr daear a halogi tir a materion geodechnegol yng Nghymru
- Datblygu a chynnig cyngor ynghylch polisi a chanllawiau ar gyfer cydymffurfio â Chyfarwyddebau’r UE a deddfwriaeth ddomestig
- Cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch datblygu deddfwriaeth a chanllawiau a rhoi cymorth i Weithgorau perthnasol yr UE, y DU a Chymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Arwain a gwneud gwaith rheoli prosiect ar faterion penodol a chymhleth sy’n gofyn datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC, gan gynnwys cefnogi ar waith achos sy’n newydd, yn ddadleuol neu o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd.
- Cynnig cyngor i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a’r DU, fel y bo’n briodol, ac adolygu a chynghori ynghylch y polisïau, y cynlluniau a’r strategaethau a luniwyd yn sgil hynny.
- Cadw perchenogaeth a goruchwyliaeth dros faes polisi Geowyddoniaeth er mwyn sicrhau bod ymagweddau CNC yn gydnaws â bwriad Polisi Llywodraeth Cymru, y Llywodraeth Ganolog a’r UE.
- Cynghori ynghylch anghenion a chyfleoedd tystiolaeth, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynnal gwybodaeth weithio fanwl am y sector(au) dynodedig gan adnabod goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Gyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion wedi’u diffinio, yn ôl y gofyn.
- Llywio’r trosolwg a’r berchenogaeth dros waith ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n gysylltiedig â Geowyddoniaeth.
- Cydweithio gyda’r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygiad Personol y cytunwyd arno.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth am: ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE mewn perthynas â materion Geodechnegol, Hydroddaeareg, Adnoddau Dŵr, Ansawdd Dŵr, Cynllunio a Gwastraff; symbylwyr polisi Llywodraethau Cymru a’r DU a’r UE mewn materion Geodechnegol, Hydroddaeareg, Adnoddau Dŵr, Ansawdd Dŵr a Chynllunio a Gwastraff; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol am yr ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid a diwydiannau sy’n ymwneud â materion Geodechnegol yng Nghymru.
- Profiad o: Ddealltwriaeth fanwl o ddisgyblaeth/pwnc Geodechnegol Hydroddaearegol a’r ystod gymhleth o symbylwyr a rhwystrau i gyflawni.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau Rheoli Prosiect.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol ac wedi cyflawni Aelodaeth Gorfforaethol o gorff Proffesiynol (e.e. Y Gymdeithas Ddaearegol, MICE, MCIHT, MCIWEM neu MRICS) gyda statws Siartredig (e.e. CGeol) neu’n gweithio tuag at statws Siartredig.
- Cynrychioli’r sefydliad mewn materion proffil uchel a dadleuol yn y parth cyhoeddus.
- Rhannu’ch gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi’r holl Benaethiaid Busnes yn EPP, yn ôl yr angen.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Bobl |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais 25 Gorffennaf 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Trystan James ar Trystan.James@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 654327
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.