Cynghorydd Arbenigol, Pridd a Defnyddio Tir
Dyddiad cau: 31 Ionawr 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 201467
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Oes gennych chi ddiddordeb angerddol mewn priddoedd ac eisiau gwneud gwahaniaeth? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous ar eich cyfer.
Mae Cymru yn arwain y byd gyda’i deddfwriaeth ar gynaliadwyedd a llesiant a’n nod ni yw ysbrydoli pob rheolwr tir i gyflawni rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae pridd yn adnodd hanfodol sy’n sail i’n hamgylchedd naturiol ac mae’n cynnal bywyd ac yn darparu gwasanaethau ecosystemol lluosog i Gymru. Bydd y swydd hon yn gwneud cyfraniad hollbwysig i’r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a rheolaeth gynaliadwy o dir a phriddoedd ar draws yr holl ecosystemau daearol, yn enwedig ar dir amaethyddol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran datblygiad parhaus y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Datganiad Polisi Pridd cyntaf Cymru. Bydd angen sgiliau dylanwadu da arnoch, cefndir cadarn ym maes gwyddoniaeth pridd a rheoli pridd ynghyd â’r gallu i weithio gydag amrywiaeth o staff technegol a gweithredol o fewn CNC yn ogystal â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol. Byddwch yn arwain ar ddarparu asesiadau technegol Pridd a Defnyddio Tir a chyngor i gyfarwyddo datblygiad polisi, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau CNC.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a data cymhleth.
- Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i gyfarwyddo’r gwaith o ddatblygu dogfennau polisi, cyngor ac arweiniad CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
- Cydgysylltu â rhanddeiliaid allanol megis Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sector, cyrff anllywodraethol a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
- Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, y Sector Ffermio/Sefydliadau sy’n Cynrychioli Ffermio, Awdurdodau Lleol, Tirfeddianwyr a chyrff amgylcheddol eraill yng Nghymru a’r DU a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
- Cynnal gwybodaeth agenda Priddoedd Cymru a’r DU gan nodi goblygiadau newidiadau i ddeddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth o: ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â Phriddoedd a Defnyddio Tir; gyrwyr polisi Llywodraeth Cymru a'r DU sy’n ymwneud â Phriddoedd; a'r materion a'r cyfleoedd a geir yng Nghymru.
- Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli amrywiaeth o wybodaeth amgylcheddol gymhleth a ffynonellau data; dadansoddi setiau data mawr.
- Gweithio gyda/yn Llywodraeth Cymru, Adrannau Llywodraeth y DU, y byd academaidd a sefydliadau defnyddio tir.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglen a phrosiect gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
- Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan roi cefnogaeth i bawb.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 31 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu ym Mis Chwefror 2023 drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Nichola Taylor ar nichola.taylor@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu Sarah Hetherington ar sarah.hetherington@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.