Cynghorydd Arbenigol Asesu Amgylcheddol a Phensaernïaeth Tirwedd
Dyddiad cau: 12 Chwefror | Cyflog: £37,308-£40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.
Rhif swydd: 201371
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Rydym yn chwilio am arbenigwr mewn pensaernïaeth tirwedd ac asesu amgylcheddol i ymuno â'n Tîm Asesu Amgylcheddol. Byddwch yn gweithio ar ystod eang o brosiectau a strategaethau CNC, gan gynnwys adfer mwyngloddiau metel, rheoli perygl llifogydd, adfer cynefinoedd, llwybrau pysgod yn ogystal ag archwilio cyfleoedd i fynd i'r afael â'r Argyfyngau Hinsawdd a Bioamrywiaeth. Rydym yn cymryd rhan mewn prosiectau o’r dechrau hyd at eu cyflawni ar lawr gwlad. Rydym yn gallu archwilio arloesedd ac arfer gorau megis Rheoli Perygl Llifogydd yn Naturiol, dal carbon ac addasu arfordirol. Gan ddefnyddio asesiad o'r effaith amgylcheddol (AEA), byddwch yn nodi risgiau a chyfleoedd sydd angen eu hystyried wrth werthuso, cynllunio a chyflawni prosiectau.
Byddwch hefyd yn cefnogi'r Tîm Asesu Amgylcheddol drwy ddarparu cyngor a mewnbwn cysylltiedig â thirwedd ar draws ein rhaglen waith. Byddwch yn gyfrifol am reoli a chyflawni contractau gweithredu a chynnal a chadw'r dirwedd sy'n gysylltiedig â'n prosiectau cyfalaf. Bydd hyn yn gofyn am gydweithio ar draws sawl disgyblaeth, gan gynnwys peirianwyr sifil, asiantiaid tir, rheolwyr prosiect, coedwigwyr, ecolegwyr, archeolegwyr, rheolwyr hamdden ac arbenigwyr caffael.
Mae lledaeniad plâu a chlefydau planhigion newydd yn fater heriol iawn ar hyn o bryd ac yn un y mae gan CNC gyfrifoldebau penodol amdano. Byddwch yn cysylltu â'r arbenigwyr iechyd planhigion pwrpasol i leihau'r risg o ledaenu plâu a chlefydau drwy ein gwaith adeiladu a'n prosiectau ein hunain.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Paratoi asesiadau technegol o bensaernïaeth yr amgylchedd a thirwedd, gan wneud penderfyniadau cymhleth er mwyn dylanwadu ar ddatblygiad a dyluniad eich portffolio o brosiectau a chynlluniau, a hyn oll yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC.
- Cynorthwyo'r Arweinydd Tîm i ddatblygu canllawiau asesu amgylcheddol ar gyfer staff CNC ac ar gyfer sectorau/partneriaid; arwain y gwaith o gynhyrchu canllawiau dylunio tirwedd.
- Cydgysylltu â rhanddeiliaid allanol megis Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sector, cyrff anllywodraethol a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
- Cynrychioli'r tîm Asesu Amgylcheddol ar grwpiau technegol mewnol perthnasol, ac mewn cyfarfodydd rhanddeiliaid mewnol/allanol a sectorau.
- Comisiynu a rheoli ymgynghorwyr arbenigol i gynnal asesiadau ac arolygon o fewn trothwyon cost, amser ac ansawdd y cytunwyd arnynt.
- Ysgrifennu, caffael a rheoli contractau i gyflawni gwaith tirwedd a chynnal a chadw ar brosiectau cyfalaf. Rheoli contractwyr ar y safle.
- Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU; a bod yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud ag Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesu Effeithiau Amgylcheddol, Cynllunio Gwlad a Thref, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd; y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Cyfraith Contractau ac Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â thirwedd; gyrwyr polisi Llywodraethau Cymru, y DU a’r UE mewn SMNR, Asesu Effeithiau Amgylcheddol, Asesu Amgylcheddol Strategol ac Arfarniad o Gynaliadwyedd; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
- Arbenigwr cymwys fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, Pensaer Tirweddau Siartredig o dan y Sefydliad Tirwedd.
- Profiad o’r canlynol: Gweithio ar lefel genedlaethol, y DU a rhyngwladol yn rheoli portffolio o brosiectau a chynlluniau sy'n gysylltiedig ag asesu amgylcheddol.
- Profiad ym maes cynllunio, asesu tirwedd ac effaith weledol ac ysgrifennu a rheoli contractau JCLI.
- Gweithio ym maes asesu amgylcheddol ar lefel weithredol a strategol ar draws y ddisgyblaeth dechnegol.
- Byddwch yn Bensaer Tirwedd siartredig neu'n gweithio tuag at hynny, ac yn cael eich ystyried yn arbenigwr cymwys fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
- Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi pob Pennaeth Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.
Gofion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 12 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal am 1 Mawrth 2023 drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Vicky Schlottmann ar Victoria.schlottmann@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07767481367
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.