Cynghorydd Geo-ofodol x 2
Dyddiad cau: 7 Chwefror 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr
Rhif y swyddi: 201265, 201266
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Darparu cymorth technegol i Arweinydd y Tîm Geo-ofodol, y Cynghorydd Geo-ofodol ac Arbenigwyr o ran rheoli rhaglenni gofodol corfforaethol, offerynnau, a chynhyrchion a gwasanaethau mapio digidol CNC fel y’u diffinnir yn ein Strategaethau Gwybodaeth a GIS a’r cynllun gwasanaethau geo-ofodol.
Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu CNC i gyflawni ein hymrwymiadau sydd wedi’u seilio ar le, a nodir yn Neddf yr Amgylchedd.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Byddwch yn darparu cefnogaeth dechnegol wrth reoli rhaglenni gofodol corfforaethol CNC, bydd disgwyl i chi reoli data gofodol, defnyddio offer geo-ofodol, creu gwasanaethau’r we a golygon geo-ofodol rhyngweithiol.
- Byddwch yn darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr, i ddefnyddwyr Geo-ofodol CNC gan gynnwys rhoi hyfforddiant a chymorth/cyngor i hyrwyddwyr GIS ledled CNC.
- Bydd gennych y gallu i greu, rheoli a holi data Geo-ofodol, cefnogi a darparu atebion geo-ofodol i adrannau ledled CNC.
- Byddwch yn ymgymryd â gwaith datblygu geo-ofodol sy'n integreiddio â chymwysiadau geo-ofodol CNC a systemau corfforaethol eraill.
- Byddwch yn ffurfweddu ac yn profi meddalwedd, offer a chymwysiadau geo-ofodol newydd o fewn cylch gwaith y Tîm Geo-ofodol.
- Byddwch yn gweithredu ychwanegion neu'n creu offer pwrpasol sy'n gwella defnyddioldeb ac effeithlonrwydd ein cymwysiadau geo-ofodol gan ddefnyddio iaith raglennu briodol.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Sgiliau rheoli a dadansoddi data gofodol rhagorol, gan ddefnyddio cymwysiadau geo-ofodol perthnasol i reoli a thrin data
- Profiad o ddefnyddio a datblygu cymwysiadau geo-ofodol mewn cyd-destun busnes e.e., ArcGIS Enterprise, ARCGIS Desktop, porwyr mapiau, datblygiadau offer gofodol, gwasanaethau’r we a gwasanaethau nodweddion y we
- Gwybodaeth fanwl o gymwysiadau geo-ofodol gan gynnwys rhywfaint o brofiad o ddatblygu atebion Geo-ofodol gan ddefnyddio ystod o ieithoedd rhaglennu neu offer datblygu (e.e., Python .net ac ati).
- Dealltwriaeth o awtomeiddio - offer Extract, Transform a Load.
- Dealltwriaeth o ansensitifrwydd data a phrofiad o reoli gwybodaeth sensitif a chyfrinachol.
- Profiad o ddarparu cymorth defnyddwyr ar gyfer cymwysiadau Geo-ofodol dealltwriaeth o'r fframwaith ITIL neu fframwaith llywodraethu debyg ar gyfer datblygu cymwysiadau a chymorth defnyddwyr.
- Gradd mewn pwnc perthnasol neu sylfaen dda mewn GIS neu gyfrifiadureg.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 7 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Keith Harri Jones ar Keith.Harri.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.