Uwch Swyddog, Pobl a Lleoedd
Dyddiad cau: 5 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg yn Ne-Ddwyrain Cymru
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.
Rhif swydd: 201095
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae Tîm Pobl a Lleoedd y De-ddwyrain yn gweithio gyda rhwydweithiau a phartneriaethau rhanbarthol i gyflawni Datganiad Ardal y De-ddwyrain, gan wella darpariaeth seiliedig ar le trwy gydweithio, strategaethau a chynllunio, gwreiddio blaenoriaethau'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a hyrwyddo arferion gorau o ran ymgysylltu, cynnwys, cynhwysiant a phartneriaeth, gan gynnwys cyflawni Cynllun Llesiant Gwent.
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous a heriol i arwain elfennau o’r themâu Datganiad Ardal rhyng-gysylltiedig, gyda ffocws arbennig ar thema Gwent yn Barod am yr Hinsawdd, ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Bydd y rôl yn cynnwys nodi cyfleoedd graddfa dirwedd a rhanbarthol ac ymyriadau ar y cyd ar gyfer addasu i’r hinsawdd a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd sy’n gwella'r ecosystem leol a gwydnwch cymunedau. Mae thema 'Gwent yn Barod am yr Hinsawdd' yn canolbwyntio ar achub ar bob cyfle i ymdrin â gwraidd achosion a gwneud hynny ar y cyd fel partneriaid, gan symud y ffocws o risg i gyfle a rhoi cymunedau wrth wraidd y broses.
Mae'r swydd hon hefyd yn cynnwys gweithio ar y cyd ar rai o ffrydiau gwaith integredig, trawsbynciol y tîm, er enghraifft: gwaith partneriaeth strategol; cyllid; seilwaith gwyrdd; teithio llesol; gwydnwch ecosystemau; cynhyrchiant bwyd cynaliadwy lleol; cynllunio datblygu; amddifadedd amgylcheddol; data, tystiolaeth, monitro a gwerthuso; ansawdd dŵr, adnoddau dŵr; mynediad a hamdden (gan gynnwys ar Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru); a gyflwynir trwy gyflwynoSustainable Management of Natural Resources.
Os ydych chi'n gryf eich cymhelliant, mae heriau newydd eich cyffroi, rydych yn gweithio’n dda mewn tîm ac yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i gyflawni thema Gwent yn Barod am yr Hinsawdd ag arloesedd a brwdfrydedd, yna efallai mai chi yw’r unigolyn rydyn ni'n chwilio amdano. Mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau a bioamrywiaeth de-ddwyrain Cymru ac i lunio dyfodol mwy cynaliadwy i ni ein hunain, ein sefydliad a’n partneriaid, ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.
Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru / Datganiad Ardal De Ddwyrain Cymru
Dolen i Ddatganiad Ardal y De-ddwyrain ar y System Rheoli Dogfennau
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Arwain y lle ar un agwedd neu ragor ar gylch gwaith y tîm: datganiad ardal, llesiant, cydlynu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, cyllid allanol, cynllunio cadwraeth a safleoedd dynodedig, hamdden a mynediad, pysgodfeydd, dŵr, gan ddarparu arbenigedd technegol a chyngor i'r tîm a'r Pennaeth Lle.
- Mentora aelodau eraill o'r tîm i ehangu eu dealltwriaeth o'ch arbenigedd, fel bod y tîm yn datblygu dealltwriaeth amlddisgyblaeth o faterion amgylcheddol.
- Gweithio gyda'r tîm i ddatblygu datrysiadau arloesol i faterion amgylcheddol, gan integreiddio agweddau lluosog ar gynllunio o fewn y lle. Nodi bylchau yn y sail dystiolaeth a gweithio gyda'r gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu i flaenoriaethu a chomisiynu gwaith ymchwil.
- Hwyluso'r gwaith o uno amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda datganiadau ardal a'r cynllun lle, gan weithio ar draws ffiniau yn ôl yr angen.
- Gweithio'n gyd-gynhyrchiol gyda'r timau yn y lle a chyda rhanddeiliaid allanol, gan ddarparu arbenigedd technegol i ddatblygu a dylanwadu ar flaenoriaethau, prosiectau a chynlluniau i'w cyflenwi gan eraill, gan gynnwys drwy gyllid allanol.
- Datblygu a monitro'r rhaglen prosiectau a gyllidir yn allanol ar draws pob cyfle cyllido.
- Gweithio gyda thimau yn y lle i ddatblygu eu sgiliau o ran gweithio mewn partneriaeth
- Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ddatblygu a dylanwadu ar flaenoriaethau, amcanion, cynlluniau a phrosiectau o fewn y lle a fydd yn cyflawni'r datganiad ardal ac amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fel cynlluniau cwmnïau dŵr, cynlluniau teithio llesol a chynlluniau rheoli tirweddau dynodedig
- Rhwydweithio â thimau Pobl a Lleoedd eraill ledled Cymru, gan ddarparu lefel gwasanaeth gytunedig o wybodaeth dechnegol a mewnbwn ar gyfer timau eraill.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Sgiliau rhagorol o ran ymgysylltu, dylanwadu a datblygu dulliau arloesol o ymdrin â phroblemau cymhleth
- Gallu rhagorol am feithrin perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr a phartneriaid.
- Gwybodaeth sylweddol am ofynion deddfwriaeth amgylcheddol sy’n ymwneud â'r cylch gwaith ar gyfer lleoedd
- Bydd gennych wybodaeth arbenigol am un neu ragor o feysydd technegol cylch gwaith y tîm:
-
- Datblygu datganiad ardal
- Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau llesiant
- Cyllid allanol a gweithio mewn partneriaeth
- Hamdden a mynediad
- Cynlluniau strategol pysgodfeydd
- Cadwraeth safleoedd a thirweddau a warchodir, cynlluniau Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
- Asesiad o'r effaith ar ansawdd yr aer
- Rheoli adnoddau dŵr
- Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a chynlluniau dalgylch
- Rheoli perygl llifogydd
- Y gallu i asesu ffynonellau lluosog a chymhleth o wybodaeth ac annog eraill i wneud penderfyniadau da.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
- Profiad o drafod ag uwch-reolwyr
- Profiad o ddylanwadu ar lefelau uwch sefydliadau.
- Gallu rhagorol am feithrin perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr a phartneriaid.
- Sgiliau trefnu rhagorol
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 5 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Juliet Michael ar Juliet.michael@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.