Swyddog Asesu Amgylcheddol
Dyddiad cau: 10 Chwefror 2022 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Plas yr Afon, Llaneirwg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr
Rhif swydd: 201009
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae rôl Rheolwr Rhaglenni yn amrywiol, yn ddiddorol, ac yn brysur. Fel aelod allweddol o'r tîm Asesu a Chyngor Amgylcheddol, byddwch yn gyfrifol am gynnal sawl rhaglen fonitro o ddydd i ddydd gan gynnwys ansawdd dŵr, electro-bysgota, ecoleg, dyfroedd ymdrochi, dŵr daear ac EQSD. Byddwch yn monitro eu cynnydd, yn datrys materion, ac yn cychwyn camau cywiro priodol.
Chi fydd y prif gyswllt ar gyfer y Swyddogion Casglu Data, gan drefnu eu gwaith a sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau ar amser. Bydd cyfathrebu â Swyddogion Casglu Data yn allweddol i gydlynu'r gwaith a sicrhau bod rhaglenni'n cael eu cwblhau mewn pryd, ac i'r safonau gofynnol.
Byddwch yn cysylltu ag adrannau eraill er mwyn sicrhau bod y rhaglenni monitro yn gywir ac yn cael eu rhedeg yn esmwyth.
Byddwch yn rhan o grŵp rhithwir EAAT Cymru gyfan sy'n helpu i ysgrifennu gweithdrefnau i ddatrys problemau a datblygu ffyrdd o weithio.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r labordy gan sicrhau bod y Swyddogion Casglu Data yn dilyn gweithdrefnau cywir ac yn sicrhau bod unrhyw ddiweddariadau yn cael eu trosglwyddo iddynt.
Bydd gennych ddealltwriaeth dda o faterion Iechyd a Diogelwch yn y tîm.
Bydd gennych wybodaeth ardderchog o Excel a phrofiad wrth ddefnyddio gwahanol daenlenni a chronfeydd data (Starlims, Kiqwim, GIS).
Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu System Rheoli Ansawdd CNC, mewn perthynas â'r rhaglenni monitro uchod.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Ymgymryd â gwaith ad hoc a rheolaidd i weinyddu’r system, sicrhau ansawdd data, dadansoddi ac adrodd.
- Darparu cyngor ac arweiniad technegol arbenigol ar fonitro i gwsmeriaid mewnol ac allanol, o ystod o ffynonellau; helpu i sicrhau bod penderfyniadau'n seiliedig ar farn dechnegol gadarn, yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol a'r arferion gorau. Cynhyrchu adroddiadau technegol gan ddadansoddi a dehongli setiau data cenedlaethol a lleol ar gyfer gwaith gweithredol, ymholiadau cyhoeddus, apeliadau llys ac ati.
- Helpu i sicrhau bod data monitro CNC yn cael ei gasglu a'i storio i'r safonau ansawdd a ragnodir gan ddeddfwriaeth Ewropeaidd a'r DU a chan bolisi CNC.
- Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Asesu Amgylcheddol a’r Arweinydd Tîm wrth gynllunio, amserlennu ac olrhain yr arolwg blynyddol a'r rhaglenni monitro, mewn perthynas â gweithgareddau samplu.
- Cynghori ar waith monitro/arolygu afreolaidd arbenigol a dadansoddi data gan gynnwys mewnbwn ar ddarparu mesurau gweithredol.
- Cyfrannu at ddarparu rhaglenni arolygu a monitro.
- Arwain, cynghori a chefnogi cwsmeriaid mewnol ac allanol, gan sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn seiliedig ar ddata a gwybodaeth dechnegol gadarn.
- Helpu i ddatrys materion lleol drwy gynghori/dehongli data monitro mewn modd gwyddonol a thechnegol.
- Cynorthwyo wrth ddatblygu a gweithredu dulliau monitro ac adrodd newydd, gan gynnwys cydweithio â sefydliadau partner ar lefel leol.
- Ymateb i geisiadau am wybodaeth yn ymwneud â data monitro, o fewn terfynau amser penodedig.
- Cynnal a chaffael offer samplu arbenigol.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o ddadansoddi samplau, monitro/gwyliadwriaeth yn y maes, dehongli ac adrodd ar ddata amgylcheddol a gwybodaeth ymarferol am ystod eang o weithgareddau monitro a methodolegau.
- Arbenigedd mewn ecoleg ddaearol, ecoleg dŵr croyw, ansawdd dŵr mewn pysgodfeydd neu wyddorau daear.
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol a gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol.
- Profiad o fonitro systemau rheoli data, yn ogystal â dealltwriaeth ymarferol o atebion ac arferion monitro technegol.
- Sgiliau dadansoddol da gan gynnwys ystadegau, a gwybodaeth am drin data gan gynnwys GIS.
- Cyfathrebwr rhagorol gyda sgiliau trefnu da.
- Y gallu i ymgymryd â gwaith maes mewn amgylcheddau sy'n anodd yn gorfforol weithiau
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 10 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Susan Phillips ar Susan.phillips@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.