Uwch-swyddog Pobl a Lleoedd
Dyddiad cau: 31 Mai 2022 | Cyflog: £35,994-£39,369 | Lleoliad: Hyblyg yn Ne Cymru
Er gwaetha’r sefyllfa gyfredol gyda golwg ar COVID19 - mae’r broses o recriwtio yn parhau a bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Crynodeb Swydd |
|
Teitl Swydd |
Uwch-swyddog Pobl a Lleoedd |
Rhif y swydd |
200954 |
Gradd |
G6 – £35,994, gan godi i £39,369 dros dair blynedd |
Lleoliad |
|
Cyfarwyddiaeth |
Gweithrediadau |
Tîm |
Pobl a Lleoedd, Canol De Cymru |
Yn Atebol i |
Arweinydd y Tîm Pobl a Lleoedd |
Yn Atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Neb |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith Sylwch: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. |
Math o gontract |
Parhaol |
Patrwm gwaith |
37 awr |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
31 Mai 2022 |
Cyfweliad i'w gynnal ar \ a ble |
Dyddiad i’w gadarnhau, drwy Microsoft Teams |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Andy Robinson andrew.robinson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk |
Diben y swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, hyblyg ac uchel ei gymhelliant i ymuno â'n Tîm Pobl a Lleoedd fel uwch-swyddog sy'n arwain ar gynllunio perygl llifogydd. Pobl sy'n gweithio’n dda mewn tîm, sy'n llawn egni ac sydd â brwdfrydedd gwirioneddol dros yr amgylchedd – gwnewch gais!
Mae'r rôl wedi'i lleoli yng Nghanol De Cymru ac mae'n cwmpasu ardal weithredol Rheoli Perygl Llifogydd y De. Byddwch yn darparu cyngor a gwybodaeth perygl llifogydd i sicrhau bod perygl llifogydd yn cael ei ystyried mewn cynllunio a chyflawni gweithredol gan CNC ac yn dylanwadu a gweithio gyda phartneriaethau ehangach. Mae enghreifftiau yn cynnwys darparu cyngor perygl llifogydd i dimau amgylcheddol, cynllunwyr coedwigoedd, prosiectau gwella cynefin a phartneriaethau, megis cynllunio llesiant. Mae'r rôl hon yn rhoi rhyddid i weithio mewn ffyrdd newydd drwy gydweithredu a meddwl yn arloesol.
Gwneud cais am swydd wag
Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth
- Effaith
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Disgrifiad Rôl |
|
Diben y Swydd: |
Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o reoli llesiant ac adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn y lle drwy gyd-gynhyrchu’r Datganiad Ardal, integreiddio cynlluniau swyddogaethol, a galluogi gweithrediad drwy gyllid allanol ar gyfer y lle ar draws swyddogaethau CNC. Gweithio'n agos gydag arweinydd y tîm, Cynefin, rheolwyr tir a rhanddeiliaid allanol i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gyd-gyflenwi’r Datganiad Ardal ac amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Monitro'r cynnydd, nodi risgiau, adolygu, ac adrodd ar gyflawniad. |
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
Arwain y lle ar un agwedd neu ragor ar gylch gwaith y tîm: Datganiad Ardal, llesiant, cydlynu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, cyllid allanol, cynlluniau cadwraeth a safleoedd dynodedig, hamdden a mynediad, pysgodfeydd, dŵr, darparu arbenigedd technegol a chyngor i'r tîm a'r Pennaeth Lle. Mentora aelodau eraill o'r tîm i ehangu eu dealltwriaeth o'ch arbenigedd, fel bod y tîm yn datblygu dealltwriaeth amlddisgyblaethol o faterion amgylcheddol. Gweithio gyda'r tîm i ddatblygu datrysiadau arloesol i faterion amgylcheddol, gan integreiddio agweddau lluosog ar gynllunio o fewn y lle. Nodi bylchau yn y sail dystiolaeth a gweithio gyda'r gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu i flaenoriaethu a chomisiynu gwaith ymchwil. Hwyluso'r gwaith o uno amcanion Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus â Datganiadau Ardal a'r cynllun lle, gan weithio ar draws ffiniau fel sy’n briodol. Gweithio'n gydgynhyrchiol gyda'r timau yn y lle a chyda rhanddeiliaid allanol, gan ddarparu arbenigedd technegol i ddatblygu a dylanwadu ar flaenoriaethau, prosiectau a chynlluniau i'w cyflenwi gan eraill, gan gynnwys drwy gyllid allanol. Datblygu a monitro'r rhaglen o brosiectau a gyllidir yn allanol ar draws pob cyfle cyllido. Gweithio gyda thimau yn y lle i ddatblygu eu sgiliau o ran gweithio mewn partneriaeth. Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ddatblygu a dylanwadu ar flaenoriaethau, amcanion, cynlluniau a phrosiectau o fewn y lle a fydd yn cyflawni'r Datganiad Ardal ac amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fel cynlluniau cwmnïau dŵr, cynlluniau teithio llesol a chynlluniau rheoli tirweddau dynodedig. Rhwydweithio â thimau Pobl a Lleoedd eraill ledled Cymru, gan ddarparu lefel gwasanaeth gytunedig o wybodaeth a mewnbwn technegol ar gyfer timau eraill. |
Cymwysterau neu wybodaeth sy'n allweddol i'r swydd: |
Sgiliau rhagorol o ran ymgysylltu, dylanwadu, a datblygu dulliau arloesol o ymdrin â phroblemau cymhleth. Gallu rhagorol am feithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid. Gwybodaeth sylweddol am ofynion deddfwriaeth amgylcheddol sy’n ymwneud â'r cylch gwaith ar gyfer y lle. Bydd gennych ddealltwriaeth arbenigol o un neu fwy o feysydd technegol cylch gwaith y tîm:
Y gallu i asesu ffynonellau lluosog a chymhleth o wybodaeth ac annog eraill i wneud penderfyniadau da. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. Profiad o drafod ag uwch-reolwyr. Profiad o ddylanwadu ar lefelau uwch sefydliadau. Gallu rhagorol am feithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid. Sgiliau trefnu rhagorol. |
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.