Cynghorydd, Datblygu a Pherygl Llifogydd
Dyddiad Cau: 12 Chwefror 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Caerdydd neu Llandarcy
Math o Gontract: Parhaol
Patrwm Gwaith: 37 Awr yr wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener
Rhif Swydd: 200869
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r Swydd
Rydym ni’n dîm gweithredol sy’n gweithio yn ardal De a Chanolbarth Cymru, ac yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau nad yw gwaith o fewn prif afonydd a’r ardaloedd gerllaw, a datblygiadau ar y gorlifdir yn effeithio’n andwyol ar berygl llifogydd a’r amgylchedd. Rydym ni’n gwneud hyn drwy bennu a gorfodi Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd yn amserol a rhoi cyngor ar berygl llifogydd i’r Awdurdodau Cynllunio yn unol â pholisi TAN15.
Byddwch yn gweithio o fewn tîm profiadol ac yn gyfrifol am bennu Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd ac ymateb i ymgynghoriadau cynllunio yn ardal Caerdydd a Chymoedd De Cymru. Mae'r rôl yn cynnwys gwaith swyddfa a gwaith ar y safle lle byddwch yn cyfarfod â rhanddeiliaid a chwsmeriaid mewnol ac allanol i ddarparu cyngor ac arweiniad technegol ar berygl llifogydd.
Bydd angen i chi ddangos sgiliau da o ran rheoli amser a llwyth gwaith ynghyd â'r gallu i weithio gyda rhanddeiliaid Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid allanol. Dyma gyfle cyffrous i helpu i amddiffyn cymunedau De Cymru rhag llifogydd a sicrhau bod ein hecosystemau yn cael eu hamddiffyn rhag difrod.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun fel rhan o raglen waith ehangach a gyflawnir gan y tîm.
- Arwain ar ddarparu ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio yn unol â deddfwriaeth gyfredol, canllawiau’r llywodraeth a Nodiadau Canllaw Gweithredol CNC.
- Asesu a phenderfynu ar geisiadau a dderbynnir am Drwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd gan gwsmeriaid Mewnol ac Allanol.
- Darparu cyngor technegol ar gyfer ceisiadau cynllunio unigol lle mae angen Asesiadau Canlyniad Llifogydd.
- Cynghori Llywodraeth Cymru drwy ein swyddogaeth DPAS ynghylch ceisiadau a allai fod angen eu “galw i mewn”.
- Darparu cyngor technegol i annog defnydd o ddyluniadau sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd, gan ddefnyddio profiad i adnabod peryglon a chanfod datrysiadau effeithiol.
- Cefnogi arferion gorau o ran Iechyd a Diogelwch drwy fynd ati’n rhagweithiol i hybu ymwybyddiaeth a sicrhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu darparu i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
- Cyfrannu at brosiectau gwella gwasanaethau, gan weithio gyda thimau prosiect gwasgaredig o bob Cyfarwyddiaeth a/neu sefydliadau.
- Bydd gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Addysg hyd at lefel gradd mewn disgyblaeth gwyddoniaeth neu beirianneg.
- Aelod o gorff proffesiynol priodol (ee CIWEM neu ICE) ac yn gweithio tuag at sicrhau aelodaeth siartredig yn y dyfodol agos.
- Sgiliau cyfathrebu a dadansoddi rhagorol.
- Dealltwriaeth o TAN15 a chynllunio mewn perthynas â Pherygl Llifogydd
- Dealltwriaeth o fecanweithiau perygl llifogydd/ffynonellau llifogydd a hydroleg afonol.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cryf ac effeithiol.
- Gwybodaeth a phrofiad da o systemau gwybodaeth ddaearyddol a rheoli data.
- Sgiliau da o ran ysgrifennu adroddiadau
- Rhaid cael trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision Gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 12 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Rachel Thomas ar rachel.thomas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 0300 065 3319
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.