Dyddiad cau: 26 Mawrth 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Crosshands, Sir Gaerfyrddin

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 30 Medi 2023

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr 

Rhifau y swyddi: 200760

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae gweithgareddau Tîm yr Amgylchedd wrth wraidd y gwaith o reoli ein Hadnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) yng Nghymru a mynd i'r afael â'r Argyfyngau Hinsawdd a Natur.

Fel swyddog o fewn Tîm yr Amgylchedd, byddwch yn canolbwyntio ar safleoedd gwarchodedig gan helpu’r tîm i reoli’r gyfres o safleoedd gwarchodedig yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin gyda’r nod o’u rhoi mewn cyflwr ffafriol. Bydd y gwaith yn cynnwys rheoleiddio uniongyrchol trwy gydsynio a chaniatáu gweithgareddau, a sicrhau rheolaeth ragweithiol effeithiol trwy gyngor, arweiniad a datblygu cytundebau rheoli a phartneriaethau.  

Byddwch yn gweithio yn y maes ac yn y swyddfa, a bydd angen i chi ysgrifennu adroddiadau, casglu tystiolaeth ac ymgysylltu gydag ystod o randdeiliaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu’n dda yn ysgrifenedig ac ar lafar felly yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn chwilio am swyddog brwdfrydig a phroffesiynol sy'n gallu gweithio'n gyflym, yn aml i derfynau amser tynn ac sy'n gallu blaenoriaethu eu llwyth gwaith yn effeithiol i gyflawni mwy ar gyfer yr amgylchedd. Os yw hyn yn swnio fel chi - gwnewch gais nawr!

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol gan gynnwys deiliaid trwydded, tirfeddianwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, grwpiau hamdden, gwirfoddolwyr a sefydliadau trydydd sector i alluogi eraill i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid i gefnogi datblygiad prosiectau partneriaeth a chynlluniau o'r syniadau i’r cam gweithredu. Bydd y prosiectau hyn yn darparu canlyniadau wedi'u halinio gyda blaenoriaethau o ran lle.
  • Asesu cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth berthnasol, amodau trwydded neu gydsyniad. Lle nodir diffyg cydymffurfio, dylid penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn dychwelyd at gydymffurfiaeth mor gyflym â phosibl. Dylid cymryd camau gweithredu priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Drafftio cydsyniadau dilys ar gyfer gweithrediadau sy'n effeithio ar safleoedd gwarchodedig. Ar gyfer yr holl feysydd gwaith, llunio cyngor, ymchwiliadau, dogfennau ac adroddiadau gofynnol i safonau ansawdd y cytunwyd arnynt i gefnogi penderfyniadau gweithredol a rheoli, hysbysiadau safleoedd gwarchodedig, ymholiadau cyhoeddus, achosion llys ac ati, fel bod gwybodaeth, tystiolaeth a buddiannau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyflwyno'n fanwl gywir ac yn effeithiol.
  • fewn eich maes arbenigedd, darparu cyngor proffesiynol lleol ac ymatebion i ymgynghoriadau gan dimau cynllunio a thrwyddedu. Cynnal perthynas waith gyda'r timau hyn trwy gysylltiadau rheolaidd.
  • Monitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, darparu prosiectau neu gydymffurfio â chytundebau rheoli neu hysbysiadau cyfreithiol statudol. Nodi a chefnogi unrhyw gamau adfer i sicrhau y darperir canlyniadau.
  • Chwarae rôl o fewn Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau gwydn sy'n dilyn prosesau CNC i sicrhau ymatebion effeithiol, amserol a diogel i ddigwyddiadau.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth ddigonol dda am reoli’r amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cadwraeth neu fioamrywiaeth, gyda phrofiad penodedig yn un o'r meysydd penodol hyn o gylch gwaith y tîm.
  2. Dealltwriaeth o sut y gall y timau amlswyddogaethol hyn gyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  3. Sicrhau datblygiad proffesiynol a phersonol parhaus, arbenigedd a chymhwysedd trwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol ac ardystio.
  4. Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
  5. Y gallu i ddylanwadu, trafod a chydweithio gydag eraill. Mae meddu ar brofiad o ymdrin yn llwyddiannus â phobl / sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
  6. Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, megis system gwybodaeth ddaearyddol neu raglenni CNC wedi'u haddasu.
  7. Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
  8. Meddu ar drwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau)

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Arbenigedd amlwg mewn maes neu swyddogaeth ddiffiniedig, sy'n galluogi deiliad y swydd i ddarparu cyngor ac arweiniad i eraill.
  • Yn dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o waith y swyddogaeth ehangach.
  • Sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys sgiliau datblygedig wrth ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
  • Mae profiad o oruchwylio eraill yn ddymunol.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Yn dangos y gallu i ddeall gwybodaeth, llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a dehongli a chymhwyso'r gofynion i gyflawni ei rôl.
  • Y gallu i ddadansoddi a phrosesu gwybodaeth dechnegol anarferol sy'n cynnwys rhywfaint o gymhlethdod.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, sy'n gofyn am rywfaint o farn a chreadigrwydd a'r angen i newid blaenoriaethau lle mae gofynion sy'n gwrthdaro.
  • Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau o natur dechnegol, yn bennaf o gwmpas ei faes gwaith ei hun ond bydd hefyd yn gorgyffwrdd â gwaith eraill.
  • Gall problemau a phenderfyniadau gynnwys rhywfaint o gymhlethdod a gofyn am yr angen i gymhwyso gwahanol dechnegau neu ddulliau.
  • Y gallu i gynnal ymchwil i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys problemau. 
  • Y gallu i ddarparu arweiniad i aelodau llai profiadol er mwyn datrys problemau.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Yn dangos y gallu i ryngweithio a chyfathrebu â phobl o amgylch ei faes arbenigedd, ar draws ystod o swyddogaethau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon allanol, gan addasu ei ddull a'i arddull yn briodol.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu sefydledig gyda'r gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da, a allai gynnwys rhywfaint o ddylanwadu.

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Yn gyfrifol am ddefnyddio a chadw offer a chyfarpar a ddefnyddir i gyflawni ei waith yn ddiogel ac yn gyfreithiol.
  • Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio contractwyr a'r costau cysylltiedig.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 26 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wythnos sy’n cychwyn 3 Ebrill ar Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Hayley Barrett ar Hayley.barrett@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07901110474

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf