Swyddog Cadwraeth
Lleoliad: Aberystywth neu Llambed | Cyflog: £31,490-£34,902 | Dyddiad cau: 3 Gorffennaf 2022
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr
Rhif swydd: 200569
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae hon yn rôl swyddog yn Nhîm yr Amgylchedd sy'n cwmpasu ardal Ceredigion. Mae'r 'ardal' rydyn ni'n gofalu amdani yn amrywiol a diddorol gyda llu o ddynodiadau cadwraeth, morlin hir a chasgliad o Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn herio cyrff dŵr.
Pwrpas ein tîm yw cyfrannu at reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol drwy reoleiddio ystod o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar reoli safleoedd cadwraeth dynodedig ac ystod o weithgareddau rheoleiddio cysylltiedig â dŵr.
Tîm bychan ydym ond mae gennym lwyth gwaith mawr, a llawer ohono’n deillio o’n dyletswyddau cadwraeth natur. Rydym yn chwilio am ymarferydd cadwraeth profiadol â sgiliau ecoleg da a rhywun a chanddo brofiad blaenorol o reoli safleoedd gwarchodedig e.e. cydsyniadau SoDdGA, rheoli cytundebau a gwaith Asesu Rheoliadau Cynefinoedd.
Mae cadwraeth yn debygol o fod yn rhan helaeth iawn o’r llwyth gwaith ond efallai y gelwir arnoch i gyfrannu at feysydd eraill o fewn cylch gwaith y Tîm Amgylchedd.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol gan gynnwys deiliaid trwydded, tirfeddianwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, grwpiau hamdden, gwirfoddolwyr a sefydliadau trydydd sector i alluogi eraill i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid i gefnogi datblygiad prosiectau partneriaeth a chynlluniau o'r syniadau i’r cam gweithredu. Bydd y prosiectau hyn yn darparu canlyniadau wedi'u halinio gyda blaenoriaethau o ran lle.
- Asesu cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth berthnasol, amodau trwydded neu gydsyniad. Lle nodir diffyg cydymffurfio, dylid penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn dychwelyd at gydymffurfiaeth mor gyflym â phosibl. Dylid cymryd camau gweithredu priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Drafftio cydsyniadau dilys ar gyfer gweithrediadau sy'n effeithio ar safleoedd gwarchodedig. Ar gyfer yr holl feysydd gwaith, llunio cyngor, ymchwiliadau, dogfennau ac adroddiadau gofynnol i safonau ansawdd y cytunwyd arnynt i gefnogi penderfyniadau gweithredol a rheoli, hysbysiadau safleoedd gwarchodedig, ymholiadau cyhoeddus, achosion llys ac ati, fel bod gwybodaeth, tystiolaeth a buddiannau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyflwyno'n fanwl gywir ac yn effeithiol.
- O fewn eich maes arbenigedd, darparu cyngor proffesiynol lleol ac ymatebion i ymgynghoriadau gan dimau cynllunio a thrwyddedu. Cynnal perthynas waith gyda'r timau hyn trwy gysylltiadau rheolaidd.
- Monitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, darparu prosiectau neu gydymffurfio â chytundebau rheoli neu hysbysiadau cyfreithiol statudol. Nodi a chefnogi unrhyw gamau adfer i sicrhau y darperir canlyniadau.
- Chwarae rôl o fewn Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau gwydn sy'n dilyn prosesau CNC i sicrhau ymatebion effeithiol, amserol a diogel i ddigwyddiadau.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth ddigonol dda am reoli’r amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cadwraeth neu fioamrywiaeth, gyda phrofiad penodedig yn un o'r meysydd penodol hyn o gylch gwaith y tîm.
- Dealltwriaeth o sut y gall y timau amlswyddogaethol hyn gyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sicrhau datblygiad proffesiynol a phersonol parhaus, arbenigedd a chymhwysedd trwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol ac ardystio.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
- Y gallu i ddylanwadu, trafod a chydweithio gydag eraill. Mae meddu ar brofiad o ymdrin yn llwyddiannus â phobl / sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
- Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, megis system gwybodaeth ddaearyddol neu raglenni CNC wedi'u haddasu.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
- Meddu ar drwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau)
Gofynion y Gymraeg: Hanfodol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith neu bydd disgwyl i’r ymgeisydd ddatblygu ei sgiliau Cymraeg i’r lefel hon yn dilyn rhaglen hyfforddiant.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais: 3 Gorffennaf 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Carol Fielding ar Carol.Fielding@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 655211
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.