Peiriannydd Sifil Coedwigaeth x2
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023 | Lleoliad: Ceredigion neu Bowys | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5)
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Amser llawn, 37 awr. Gellir trafod cywasgu oriau (ee. gweithio 9 diwrnod mewn pythefnos) yn ystod y cam cyfweld.
Rhif swydd: 200492 & 202602
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae adnoddau naturiol Cymru yn darparu aer glân, dŵr glân, bwyd a lloches inni. Maent yn creu swyddi i filoedd o bobl fel ffermwyr, coedwigwyr a gweithredwyr twristiaeth, gan greu cyfoeth a ffyniant. Maent yn rhoi ansawdd bywyd a chyfleoedd gwell i ni fwynhau'r awyr agored yn erbyn cefndir o harddwch a threftadaeth naturiol Cymru. Mae pobl yn dod o bell i'w profi. Maent yn gysylltiedig â diwylliant ac iaith Cymru.
Yn Cyfoeth Naturiol Cymru rydym yn angerddol am reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn mwynhau gweithio ym mynyddoedd, coetiroedd a thirweddau hardd Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn ymuno â'r tîm Peirianneg Integredig sy'n cydweithredu i ddylunio ac adeiladu'r ffyrdd a seilwaith Ystaâd Goetir Llywodraeth Cymru.
Fel Rheolwr Rhaglen Peirianneg Sifil byddwch yn arwain ar gynllunio ein rhaglen pum mlynedd ar gyfer rhaglen seilwaith gymhleth sy'n anelu at ddarparu ffyrdd coedwig, pontydd, cyffyrdd, traciau mawr a seilwaith eilaidd cymhleth yn ein hystaâd goedwig.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Rheoli'r gwaith newydd o adeiladu, uwchraddio a chynnal a chadw ffyrdd rhwydwaith, a chyfleusterau cynaeafu ar gyfer yr ardal o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.
- Cynnal archwiliadau o heolydd a phontydd troed ar gyfnodau penodol, gan sicrhau bod data'n cael ei anfon er mwyn nodi a chynnal cofnodion.
- Cynnal archwiliadau rheolaidd o'r chwareli a phyllau benthyg yn unol â rheoliadau presennol. Sicrhau bod yr holl safonau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn cael eu cymhwyso a'u bod yn bodloni'r gofynion cyfredol. Adrodd am unrhyw achosion o dorri amodau.
- Cynhyrchu cynlluniau drafft ysgrifenedig cryno ac argyhoeddiadol, gan nodi materion allweddol, archwilio opsiynau a chynnig ffordd ymlaen.
- Cynllunio, blaenoriaethu a threfnu adnoddau er mwyn sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni yn unol â'r amser, y gost a'r safonau o ran ansawdd y cytunwyd arnynt.
- Gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ond gwybod pryd i ofyn i aelodau uwch am gyngor.
- Monitro cyllideb a hysbysu'r peirianwyr o unrhyw botensial i dan-wario neu gor-wario.
- Cynnal gwaith mesur pellter electronig (EDM), neu waith arolygu lefel, a gosod yn ôl y gofyn.
- Creu darluniau contract gweithredol ac eraill fel y bo angen.
- Cysylltu ag awdurdodau statudol a rhanddeiliaid eraill ynghylch gwaith arfaethedig.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad mewn peirianneg sifil, rheoli contractau a chynllunio prosiectau a dealltwriaeth o gontractau NEC3.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o CDM2015 a rheoli risgiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol adeiladu.
- Gwybodaeth o dechnegau adeiladu heolydd coedwig (macadam rhwymedig gwlyb), a phrofiad o weithio mewn amgylchedd gwledig / ucheldir.
- Gwybodaeth am dechnegau adeiladu pontydd concrid a phren.
- Gwybodaeth o Ganllawiau Coedwigaeth a Dŵr (V5) a Chyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE.
- Gwybodaeth am y Rheoliadau Chwareli (1999) a gweithdrefnau rheoli chwareli.
- Gwybodaeth o becynnau CAD megis AutoCAD.
- Gwybodaeth am MS Office
- Gwybodaeth am gyflenwi prosiectau drwy gytundebau fframwaith.
- Gwybodaeth a phrofiad o reoli tîm/unigolion.
- Profiad o gasglu dogfennau/darluniau tendr.
- Aelod o gorff proffesiynol, neu'n gweithio tuag ato e.e. ICE.
Gofynion y Gymraeg:
- Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
- Dymunol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: Dydd Sul, 29 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Nicholas.Thompson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.