Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff

Dyddiad cau: 26 Mawrth 2023 | Cyflog: £41,150 - £46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Buckley

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Rhif swydd: 200418

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn canolbwyntio ar gymryd camau i ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a’r Argyfwng Natur. Dyma'ch cyfle i gyfrannu ac arwain tîm ymroddedig, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i amgylchedd Cymru.

Gan adrodd i'r Rheolwr Gweithrediadau, byddwch yn arwain ac yn sicrhau bod y Gosodiadau Diwydiannol, y safleoedd COMAH a'r safleoedd RSR mwyaf cymhleth ac uchel eu risg yng Ngogledd-ddwyrain Cymru yn cael eu rheoleiddio'n effeithiol ac effeithlon drwy ddatblygu blaenoriaethau a rhaglenni gwaith blynyddol wedi'u llywio gan y Datganiad Ardal, Cynlluniau Lles a Chyfeiriad Strategol. Byddwch hefyd yn arwain ein hymagwedd reoleiddiol at Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a chyflawni canlyniadau Llesiant.

Mae'r tîm yn rheoleiddio ar draws ystod eang o sectorau gan gynnwys Ynni o Hylosgi, Metelau Fferrus ac Anfferrus, Sment a mwynau eraill, Cemegau, Tirlenwi, Papur a Thecstilau a Bwyd a Diod.

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae gennym nifer o safleoedd diwydiannol â phroffil uchel.  Bydd rhan o'ch rôl yn cynnwys datblygu perthnasoedd rheoleiddiol gyda gweithredwyr yn ogystal â rheoli ein hymgysylltiad â chymunedau. Yn aml gall hyn fod yn feichus ac mae angen rhywun sydd â dealltwriaeth dda o'n rôl reoleiddiol, ymwybyddiaeth wleidyddol yn ogystal â chydymdeimlad â safbwyntiau eraill. 

Bydd disgwyl i chi arwain neu hyrwyddo maes gwaith penodol ar lefel lle neu gyfarwyddiaeth a byddwch yn cefnogi dull a chyfraniad CNC at ddatgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni.

Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio ymateb y tîm i amrywiaeth o ddigwyddiadau a bydd disgwyl i chi fod yn rhan o'n tîm ymateb y tu allan i oriau unwaith y byddwch wedi'ch hyfforddi.

Byddwch yn darparu cyngor technegol ac arweiniad i helpu’r broses o wneud penderfyniadau ar sail risg ac yn gweithio ar y cyd â thimau a rheoleiddwyr eraill i sicrhau rheolaeth effeithiol o risg a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.

Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg rhagorol, buddion a chymorth lles i weithwyr yn ogystal â phensiwn gwych.  Byddwn yn cefnogi pobl dalentog o bob cefndir. Ymunwch â ni i helpu i wneud gwahaniaeth yng Nghymru er budd pobl a’r amgylchedd.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Rheoli a datblygu tîm mawr o swyddogion rheoleiddio a gorfodi a bod yn gwbl atebol am eu perfformiad, eu cyfraniad, eu datblygiad a'u llesiant, ac iechyd a diogelwch.
  • Defnyddio gwybodaeth arbenigol dechnegol o ddiwydiant, gwastraff a gorfodi, paratoi a chyflwyno cynllun gwaith blynyddol eich tîm a chynhyrchu adroddiadau perfformiad a sicrwydd cysylltiedig.
  • Bod yn gyfrifol am benderfyniadau rheoleiddio ar lefel lle, gan sicrhau y glynir at y Cod Rheoleiddwyr a'n Hegwyddorion Rheoleiddio.
  • Datblygu a chynnal perthynas effeithiol a dylanwadol â chwsmeriaid (yn fewnol ac yn allanol) ar lefel uwch (e.e. ymgysylltu â chyfarwyddwyr o fewn cwmnïau rhyngwladol).
  • Cyfrannu eich gwybodaeth dechnegol a'ch profiad o reoli rhanddeiliaid at wneud penderfyniadau'n seiliedig ar risg gan y tîm a'r busnes ehangach.
  • Bod yn gyfrifol am gyllidebau dirprwyedig y tîm a phrosiectau.
  • Ymateb i, a rheoli ymateb y tîm i ddigwyddiadau a chwynion.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Profiad o reoli llinell
  2. Profiad o feysydd gwaith perthnasol.
  3. Sgiliau hyfforddi a mentora.
  4. Profiad o reoli materion cynhennus a gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned a'r cyhoedd.
  5. Sgiliau trefnu, rheoli amser a rhyngbersonol cadarn.
  6. Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
  7. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  8. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddio (gan gynnwys gorfodi) a rheoli digwyddiadau.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Gallu i reoli un neu fwy o dimau, gan gynnwys tasgau technegol iawn neu wybodaeth arbenigol sylweddol mewn disgyblaeth ddiffiniedig. Mae angen i ddeiliad y swydd reoli prosesau sylweddol, sy’n gofyn am brofiad blaenorol o reoli pobl neu brosiectau ac adnoddau eraill.
  • Bydd gan ddeiliaid swyddi brofiad technegol sylweddol a gwybodaeth drylwyr yn eu maes arbenigol, yn enwedig mewn rôl ddeuol fel arweinydd arbenigol, a bydd angen iddynt ddiweddaru eu gwybodaeth ar sail reolaidd.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad sylweddol a pherthnasol o weithio yn y maes. Bydd ganddo sgiliau meddal a rheoli ar lefel uchel.
  • Bydd deiliad y swydd yn deall y busnes ac yn meddu ar ddealltwriaeth dechnegol eang o'r swyddogaethau o fewn y tîm.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli’r cynlluniau cyflenwi gweithredol ac yn deall eu cyd-destun yn strategaeth ehangach CNC. Yn dehongli datblygiadau yn ei faes personol o arbenigedd, gan gyfrannu at ddatblygu a chyflawni strategaeth a pholisi. 
  • Gallu dadansoddi a dehongli amrediad eang o wybodaeth sy'n gymhleth yn aml, gan dynnu pwyntiau allweddol a’u cyfleu ar bob lefel. 

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Bydd deiliaid swyddi yn deall y busnes a swyddogaethau o fewn eu tîm, gan sicrhau bod penderfyniadau effeithiol yn cael eu gwneud ar gyflawni gwaith gan eu tîm. Gall deiliad y swydd benderfynu sut mae cyflawni canlyniadau orau, gydag arweiniad gan gymheiriaid, a fydd angen crebwyll a chreadigrwydd. Efallai bydd angen iddo addasu blaenoriaethau o ganlyniad i ofynion sy'n gwrthdaro. Bydd amcanion a thargedau ac ati yn cael eu hadolygu ar sail ganolraddol.
  • n gyfrifol am wneud penderfyniadau rheoli annibynnol ar lefel weithredol, gyda mewnbwn gan reolwyr llinell a chymheiriaid. Bydd gan ddeiliad y swydd ddealltwriaeth o bolisi cenedlaethol a pholisi CNC a'u goblygiadau posibl ar gyfer y busnes. Bydd yn cyfrannu at strategaeth a chynlluniau ar y cyd ag uwch-reolwyr.
  • Efallai y bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud a fydd yn arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig o fewn maes gwaith deiliad y swydd. Bydd canlyniad gwneud penderfyniadau anghywir yn cael effaith niweidiol ar y sefydliad o ran ei randdeiliaid allanol megis sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaethau ac ati.
  • Efallai y bydd penderfyniadau'n ymwneud ag amrediad eang o faterion ac mae'n bosibl na fydd canlyniadau rhai penderfyniadau bob amser yn glir neu'n amlwg. Efallai y bydd problemau sy'n dod i'r golwg hefyd yn ymwneud â'r gwaith mewn rhannau eraill o'r sefydliad a gallai’r rhain fod yn amrywiol. Bydd penderfyniadau yn debygol o gael effaith ehangach na'r swyddogaeth neu adran uniongyrchol ac yn debygol o barhau dros y tymor canolig.

Effaith

  • Bydd gan ddeiliaid swyddi lefel gymedrol o effaith a dylanwad, sy’n cael effaith tymor canolig i hirdymor. 
  • Bydd gan ddeiliaid swyddi ddylanwad allanol a byddant yn atebol am risgiau, canlyniadau ac effaith cyflawni yn eu maes gweithredol. Byddant yn cael sgyrsiau technegol lefel uchel gyda rhanddeiliaid allanol a mewnol.
  • Efallai y bydd deiliad y swydd yn cymryd rôl arweiniol ar gyfer prosiect neu arbenigedd penodol yn y sefydliad.
  • Bydd penderfyniadau a gweithredoedd deiliad y swydd yn dylanwadu ar eraill. Bydd canlyniadau eu penderfyniadau a'u gweithredoedd yn cael effaith tymor canolig i hirdymor, yn fewnol neu'n allanol.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Bydd deiliad y swydd yn cysylltu â rolau eraill ar draws y busnes, gan gyfeirio'r sefydliad yn y gwaith o gyflenwi strategaethau a pholisïau yn y modd mwyaf effeithlon. Fel rôl sy'n canolbwyntio'n allanol, bydd angen iddo gael sgyrsiau technegol lefel uchel gyda rhanddeiliaid, ar lefel uwch.
  • Mae deiliad y swydd yn gallu trafod materion polisi technegol, arbenigol neu fanwl, gan deilwra'r dull, arddull a lefel cyfathrebu yn briodol ar gyfer y gynulleidfa. Mae'r rôl yn gyhoeddus, yn cynnwys cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig ar lefel uchel, arwain prosiectau allweddol gydag elfen o gymhlethdod sy’n gofyn am sgiliau perswadiol, a meithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da. Efallai y bydd angen iddo hwyluso neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan roi cyngor lefel uchel, gan gynnwys ar newidiadau deddfwriaethol. Bydd deiliad y swydd yn mewnbynnu a llywio cyfeiriad y drafodaeth neu'r gweithgareddau.
  • Bydd deiliad y swydd yn cynhyrchu dogfennau, adroddiadau, rhaglenni, contractau ac ati sy'n weddol gymhleth. Bydd dogfennaeth yn cynnwys cyngor, canllawiau neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu arnynt neu'n eu defnyddio. Mae canlyniadau cynnwys anghywir neu wedi'i ddrafftio'n wael yn debygol o fod yn niweidiol. Mae'n bosibl y bydd gan ddeiliaid swyddi gyfrifoldeb hefyd dros adroddiadau ariannol a risg.
  • Y gallu i ganfod data a chynnwys o sawl lleoliad, sy'n gofyn am ymchwilio allanol a chrebwyll proffesiynol o ran sut y dylai ymchwil o'r fath gael ei dehongli. Yn gyffredinol, mae dogfennaeth o'r fath yn debygol o gael effaith dros dymor hwy.

Cyfrifoldeb dros bobl

  • Bydd gan ddeiliaid swyddi gyfrifoldeb rheoli llinell llawn ar gyfer tîm neu fwy nag un tîm.
  • Bydd hyn yn cynnwys cyflawni cynlluniau gwaith y tîm, datblygu staff, perfformiad staff, a llesiant ac iechyd a diogelwch y rhai sydd o dan eu rheolaeth. Bydd deiliad y swydd yn gwbl atebol am y bobl sy'n adrodd yn uniongyrchol iddo ac am sicrhau cydymffurfiaeth â holl bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 26 Mawrth 2023

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod am ddyddiad y cyfweliad, a allai fod wyneb yn wyneb. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag David Powell ar David.powell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf