Peiriannydd Gweithrediadau Llifogydd
Dyddiad cau: 3 Gorffennaf 2022 | Cyflog: £31,490-£34,902| Lleoliad: Rhuddlan/Gweithio Gartref
Crynodeb Swydd |
|
Teitl Swydd |
Peiriannydd Gweithrediadau Llifogydd |
Rhif y swydd |
200348 |
Gradd |
5 £31,490-£34,902 |
Lleoliad |
|
Cyfarwyddiaeth |
Gweithrediadau |
Tîm |
Peirianneg Integredig, Gogledd Ddwyrain Cymru |
Yn Atebol i |
Craig Davies, Arweinydd - Tim Peirianneg Integredig Gogledd Ddwyrain Cymru |
Yn Atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Dim |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith Sylwch: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. |
Math o gontract |
Penodiad Cyfnod Penodol |
Patrwm gwaith |
37 awr |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
3 Gorffennaf 2022 |
Cyfweliad i'w gynnal ar \ a ble |
Dros Microsoft Teams |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Diben y swydd
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm peirianneg amlswyddogaethol sydd wedi ymrwymo i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae tîm Peirianneg Integredig Gogledd Ddwyrain Cymru yn dîm proffesiynol ac amlddisgyblaethol sy'n gyfrifol am waith cynnal Peirianneg Sifil ar gyfer Coedwigaeth ac asedau hanfodol Perygl Llifogydd, yn ogystal â Rheoli Perygl Llifogydd Naturiol, cynlluniau SMNR a phrosiectau gwella amgylcheddol ac arfordirol.
Mae'r tîm Peirianneg yn gweithio'n agos â thimau Gweithlu Mewnol CNC a chontractwyr fframwaith i sicrhau bod y rhaglenni blynyddol ar gyfer cynnal a chadw asedau yn cael eu llunio, eu cydgysylltu a'u darparu o fewn yr amser penodedig ac yn unol â’r safon, y gost a’r cyfyngiadau penodedig.
Mae'r penodiad cyfnod penodol hwn yn ffordd ardderchog o gael profiad gwerthfawr wrth ddysgu mwy am reoli perygl llifogydd a phwysigrwydd gwaith cynnal a chadw cynaliadwy er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd cymunedol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth cynllunio Technegol ac Iechyd a Diogelwch, gan gefnogi'r gwaith o gynnal a chadw asedau perygl llifogydd, cynlluniau gwella cyfalaf yn ogystal â gofynion rheoli contractau a chontractwyr.
Mae CNC yn Ymatebwr Categori Un o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo allu darparu ymateb cadarn, cymwys ac effeithiol i ddigwyddiadau 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae ei ddyletswyddau'n cynnwys cynnal a chyfrannu tuag at gynlluniau argyfwng a threfniadau argyfwng mewn perthynas â digwyddiadau.
Mae cymryd rhan yng ngweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau CNC yn un o ofynion eich rôl. Efallai y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i chi gymryd rhan mewn rota ddigwyddiadau (neu raeadr), er mwyn bod ar gael i ymateb os ceir digwyddiad.
Byddwch yn helpu i ddatblygu, profi ac adolygu'r gofynion ar gyfer cynlluniau ymateb CNC 'ar lawr gwlad' er mwyn delio â digwyddiadau llifogydd, argyfyngau a chynllunio wrth gefn.
Os ydych chi’n unigolyn proffesiynol sy’n canolbwyntio ar dargedau ac yn awyddus i sicrhau bod CNC yn cyrraedd ei nodau corfforaethol a bod egwyddorion SMNR ac amcanion llesiant yn cael eu gweithredu, byddem yn eich annog i ymgeisio am y swydd hon a dod yn rhan o #TîmCyfoeth.
Pa wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r swydd?
Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae'n ofynnol iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Gwneud cais am swydd wag
Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
- Cyfrifoldeb dros Bobl
- Cyfrifoldeb dros Adnoddau
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Bobl |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Disgrifiad Rôl |
|
Cyfrifoldebau Allweddol y Swydd |
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i’r swydd: |
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.