Swyddog Amgylcheddol (Ansawdd Dŵr ac Adnoddau)
Dyddiad cau: 2 Ebrill 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Seiliedig ar le yn Nghogledd orllewin Cymru (Dolgellau)
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.
Rhif swydd: 200215
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Amgylchedd Mon ac Arfon sy'n cyflawni cylch gwaith amlswyddogaethol eang ar draws rheoli'r amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cadwraeth a bioamrywiaeth.
Bydd y swydd hon yn canolbwyntio ar waith rheoli’r amgylchedd. Yn enwedig, fydd focws ar waith sy'n ymwneud â chydymffurfio ag ansawdd dŵr ac adnoddau dŵr a chyflawni cylch gwaith y tîm sy'n gysylltiedig â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr drwy reolaeth Tir a Dwr.
Bydd hyn yn cynnwys sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid i gefnogi datblygiad prosiectau a chynlluniau partneriaeth o gysyniadau i weithredu. Bydd y prosiectau hyn yn cyflawni canlyniadau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau lle.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys deiliaid trwyddedau, tirfeddianwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, grwpiau hamdden, gwirfoddolwyr a sefydliadau trydydd sector, i alluogi eraill i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau a chynlluniau partneriaeth o'r syniadau gwreiddiol i’r cam gweithredu. Bydd y prosiectau hyn yn darparu canlyniadau wedi'u halinio i flaenoriaethau o ran lle.
- Asesu cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol ac amodau trwydded neu gydsyniad. Pan nodir diffyg cydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn dychwelyd at gydymffurfiaeth mor gyflym â phosibl. Cymryd camau gweithredu priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Llunio cydsyniadau dilys ar gyfer gweithrediadau sy'n effeithio ar safleoedd gwarchodedig. Ar gyfer yr holl feysydd gwaith, llunio cyngor, ymchwiliadau, dogfennau ac adroddiadau gofynnol i safonau ansawdd y cytunwyd arnynt i gefnogi penderfyniadau gweithredol a rheoli, hysbysiadau safleoedd gwarchodedig, ymholiadau cyhoeddus, achosion llys ac ati, fel bod gwybodaeth, tystiolaeth a buddiannau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyflwyno'n fanwl gywir ac yn effeithiol.
- O fewn eich maes arbenigedd, darparu cyngor proffesiynol lleol ac ymatebion i ymgynghoriadau gan dimau cynllunio a thrwyddedu. Cynnal perthynas waith gyda'r timau hyn trwy gysylltiadau rheolaidd.
- Monitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, darparu prosiectau neu gydymffurfio â chytundebau rheoli neu hysbysiadau cyfreithiol statudol. Nodi a chefnogi unrhyw gamau adfer i sicrhau y darperir canlyniadau.
- Chwarae rôl o fewn Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau gwydn i Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n dilyn prosesau’r sefydliad, i sicrhau ymatebion effeithiol, amserol a diogel i ddigwyddiadau
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth ymarferol dda am reoli’r amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cadwraeth neu fioamrywiaeth, gyda phrofiad penodedig yn un o'r meysydd penodol hyn o gylch gwaith y tîm.
- Dealltwriaeth o sut y gall y timau amlswyddogaethol hyn gyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sicrhau datblygiad proffesiynol a phersonol parhaus, arbenigedd a chymhwysedd trwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol ac ardystio.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
- Y gallu i ddylanwadu, trafod a chydweithio ag eraill. Mae meddu ar brofiad o ymdrin yn llwyddiannus â phobl/sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
- Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, megis Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol neu gymwysiadau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi'u haddasu.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
- Meddu ar drwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd Cyfoeth Naturiol Cymru (ceir a faniau)
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
Dymunol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais: 2 Ebrill 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Arfon Hughes ar Arfon.Hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 655304
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.