Swyddog Gweithrediadau Coedwigaeth
Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Orllewin Cymru | Cyflog: £31,490-£34,902 | Dyddiad cau: 3 Gorffennaf 2022
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser
Rhif swydd: 200159
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae’r Tîm Gweithrediadau Coedwig yn gyfrifol am gynllunio a chyflawni rhaglenni cynaeafu ac ail-stocio CNC ar gyfer yr ardal. Mae cyflawni’r rhaglenni hyn yn cyfrannu at darged incwm blynyddol CNC. Mae’r Tîm yn gweithio’n agos gyda chontractwyr allanol a chwmnïau prosesu coed i sicrhau bod yr holl gynlluniau hyn yn cael eu cyflawni ar amser ac yn unol â’u contractau cysylltiedig. Bydd y Swyddog yn chwarae rhan allweddol o ran rheoli contractau, gan weithio gyda chwsmeriaid, contractwyr a Thimoedd Gweithredol eraill CNC i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Mae’r swydd yn gyfuniad o waith swyddfa ac ymweliadau safle i baratoi ac yna i reoli contractau byw. Mae’r swydd yn cefnogi goruchwylwyr safle gyda chontractau cynaeafu ac ail-stocio byw.
Bydd rhywfaint o waith y tu allan i oriau arferol ar sail rota yn ofynnol. Mae’n bosibl y bydd angen gweithio y tu allan i oriau arferol pe byddai’n rhaid ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl ar y safle.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cefnogi cyngor technegol ar gyfer problemau sy'n benodol i'r sector neu broblemau technegol.
- Gweithredu cynlluniau gwaith tîm a chyflawni camau gweithredu a gytunwyd er mwyn cyfrannu at y gwaith o gynllunio busnes.
- Cyfranogi mewn fforymau technegol CNC neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol fel cynrychiolydd technegol.
- Rhyngweithio â chymheiriaid yn CNC er mwyn hyrwyddo arferion cyson yn y diwydiant ac mewn pynciau arbenigol.
- Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol dros gynnal rhaglenni dirprwyedig a rheolaeth gyllidebol ddirprwyedig a gytunwyd, gan gynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a chadw at y broses gaffael.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
- Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
- Profiad o ymgysylltu â'r gymuned a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd.
- Gwybodaeth a phrofiad o safleoedd dynodedig a phob agwedd ar ymarfer coedwigaeth, gan gynnwys atebolrwydd tir, cynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwigaeth.
Gofynion y Gymraeg: Hanfodol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith neu bydd disgwyl i’r ymgeisydd ddatblygu ei sgiliau Cymraeg i’r lefel hon yn dilyn rhaglen hyfforddiant.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais: 3 Gorffennaf 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Ian Sachs ar ian.sachs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07733001522
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.