Cynghorydd Cynllunio Datblygiad
Dyddiad cau: 12 Chwefror 2023 | Cyflog: £28,403 - £32,088 (Grade 4) | Lleoliad: Hyblyg mewn Canolbarth Cymru
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
Rhif swydd: 200039
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn asesu cynigion datblygu ar gyfer effeithiau amgylcheddol posibl ar draws holl fuddiannau CNC. Bydd yn ymateb i waith achos rheoli datblygiad ar draws sawl ardal Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd yn sicrhau bod cyngor yn cael ei roi i gwsmeriaid sy’n dylanwadu ar greu lleoedd ac sy’n cefnogi’r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o’r Gwasanaeth Cynghori ar Gynllunio Datblygiad, sy’n dîm cenedlaethol sydd wedi’i rannu yn grwpiau rheoli.
Disgwylir y bydd yr angen i deithio’n gyfyngedig ar gyfer y rôl hon gydag ymweliadau safle achlysurol, cyfarfodydd swyddfa neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cynhyrchu cyngor allanol i ymholiadau cyn-ymgeisio, ymgynghoriadau rheoli datblygiad (gyda chefnogaeth uwch-swyddogion ar gynigion datblygu technegol gymhleth) er mwyn sicrhau bod cyngor CNC yn gadarn, yn cael ei seilio ar dystiolaeth ac yn cael ei ddarparu mewn pryd.
- Cyfrannu at y gwaith o baratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor CNC.
- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol â chwsmeriaid.
- Cynnal cofnodion archwiliadwy o gamau gweithredu a chanlyniadau i gyfiawnhau ac arddangos fod holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wedi eu bodloni.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth o dechnegau a dulliau asesu effaith amgylcheddol.
- Gwybodaeth o brosesau cynllunio datblygiad
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid, gan egluro materion cymhleth a chael cymorth drwy ddylanwadu.
- Gallu dadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd, datrys problemau a llunio barn gadarn.
- Gallu ysgrifennu dogfennau clir a chryno.
- Gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
- Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 12 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Lucie Haines at lucie.haines@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.