Arweinydd Tîm Cynllunio Datblygiadau y Canolbarth
Lleoliad: Aberystwyth, gellir ystyried lleoliadau eraill | Cyflog: £39,700-£44,522 | Dyddiad cau: 29 Mehefin 2022
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2023
Patrwm gwaith: Llawn asmer
Rhif swydd: 200033
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain tîm i ddarparu Gwasanaeth Cynghori ar Gynllunio Datblygiadau CNC ar draws sawl ardal Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd y tîm yn rhoi cyngor sy'n dylanwadu ar greu lleoedd yn lleol yn y tymor hir ac yn cefnogi rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Gynllunio Datblygiadau yn wasanaeth cenedlaethol newydd yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Mae hon yn un o bedair swydd Arweinydd Tîm Cynllunio Datblygiadau yn y gwasanaeth. I ddechrau, bydd y tîm yn rhoi ffocws gofodol i gwsmeriaid yn ardaloedd Ceredigion, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Phowys. Bydd y rôl hefyd yn rheoli dau gynghorydd arbenigol ar dirweddau sy'n darparu gwasanaethau ledled Cymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Rheoli a datblygu tîm mawr o Gynghorwyr Cynllunio a bod yn gwbl atebol am eu perfformiad, eu cyfraniad, eu datblygiad a'u lles.
- Cynnal sgyrsiau technegol lefel uchel gyda rhanddeiliaid allanol sy'n gweithredu ar lefel uwch.
- Bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cynllunio datblygiadau effeithlon ac effeithiol i gwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Bod yn gyfrifol am baratoi a chyflwyno cynllun gwaith blynyddol eich tîm a llunio adroddiadau perfformiad a sicrwydd cysylltiedig.
- Gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, gan gydweithio â nhw i ddatblygu a chyflwyno polisïau strategaethau, cynlluniau a rhaglenni gwaith.
- Rheoli prosiectau ar ran y gwasanaeth DPAS ehangach.
- Arwain grwpiau gorchwyl o staff o bob rhan o'r sefydliad i gefnogi eich rhaglen waith.
- Bod yn gyfrifol ac yn atebol am gyfraniad y DPAS i Ddatganiadau Ardal a Chynlluniau Llesiant lleol ac yn gyfrifol am gefnogi agweddau perthnasol ar y gwaith o’u cyflwyno.
- Cyfrannu arbenigedd i'r tîm ac yn atebol am y penderfyniadau a'r cyngor a roddir gan y tîm.
- Cyfrannu eich gwybodaeth dechnegol a'ch profiad o reoli rhanddeiliaid at benderfyniadau seiliedig ar risg y tîm a'r busnes ehangach.
- Bod yn gyfrifol am gyllidebau timau a phrosiectau.
- Llywodraethu a darparu sicrwydd ar gyfer gwasanaethau am dâl a weithredir gan y tîm.
- Sicrhau bod gennych o leiaf un siaradwr Cymraeg i Lefel 5 yn eich tîm
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad sylweddol ym maes Cynllunio Datblygiadau ac Asesu Amgylcheddol.
- Sgiliau datblygu partneriaeth a chyd-drafod datblygedig a phrofiad sylweddol o reoli rhanddeiliaid allanol a mewnol proffil uchel.
- Profiad o reoli tîm mawr sydd ar wasgar yn ddaearyddol.
- Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth a gwneud penderfyniadau cadarn.
- Unigolyn hyderus sy’n gallu trafod materion polisi technegol neu arbenigol â chynulleidfaoedd gwahanol.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dimau ac arwain rhith-dimau staff â sgiliau ac arbenigeddau technegol amrywiol.
Gofynion y Gymraeg: Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
|
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros bobl |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais: 29 Mehefin 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 6 Gorffennaf 2022 drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Peter Jordan ar Peter.Jordan@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 653268
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.