Sut rydym yn sgorio ceisiadau grant ar gyfer dylunio cysyniad cynllun draenio cynaliadwy
Mae hwn yn gynllun grant cystadleuol. Bydd pob prosiect yn cael ei sgorio ar gyfer nifer o gwestiynau allweddol o’r ffurflen gais. Yna blaenoriaethir prosiectau yn ôl y sgoriau a’r arian a ddyrennir.
Meini prawf hanfodol
Rhaid bodloni’r rhain trwy gais i symud ymlaen i sgorio:
- Rhaid i’r prosiect fod yng Nghymru, gyda dim ond yr elfen Gymreig o unrhyw gynigion trawsffiniol yn cael ei hystyried
- Mae’r cais gan CNC am rhwng £15,000 a £30,000
- Rhaid i’r prosiect fod ar gyfer safle sy’n bodoli eisoes (ôl-osod) – am ragor o wybodaeth, edrychwch ar safonau statudol Llywodraeth Cymru
- Mae adroddiad dichonoldeb wedi’i baratoi ar gyfer safle(oedd) y prosiect yr ydych yn gwneud cais amdano/amdanynt yn y cais hwn am grant
Ein cwestiynau asesu â sgôr
- Pa mor dda y mae’r cynnig yn cyd-fynd ag amcan 1 y rhaglen grant hon? A yw’r prosiect yn datblygu astudiaeth dylunio cysyniad ar gyfer cynllun draenio cynaliadwy / cynllun rheoli dŵr wyneb ôl-osod ar raddfa fach?
- Pa mor dda y mae’r prosiect yn cyflawni yn erbyn amcanion 2-6 y rhaglen ac yn darparu buddion lluosog?
Ddim yn bodloni unrhyw amcan ychwanegol = 0 pwynt
Yn amlwg yn bodloni 1 amcan ychwanegol = 1 pwynt
Yn amlwg yn bodloni 2 amcan ychwanegol = 5 pwynt
Yn amlwg yn bodloni 3+ amcan ychwanegol = 10 pwynt
- Oes digon o dystiolaeth wedi’i chynnwys bod yr ymgeisydd wedi cyflawni o leiaf un cynllun draenio cynaliadwy / cynllun rheoli dŵr wyneb yn y degawd diwethaf neu a all ddarparu cadarnhad ysgrifenedig o gymorth technegol gan bartner sydd â phrofiad o gyflawni’r math hwn o gynllun?
- A yw lleoliad y cynnig yn flaenoriaeth uchel? Cynigion sy’n gweddu un neu fwy o’r ardaloedd blaenoriaeth (dalgylch cyfle Cymru, ardal a warchodir o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, a/neu ardaloedd o berygl llifogydd canolig neu uchel) i gael sgôr uwch.
1 pwynt = nid yw o fewn ardal flaenoriaeth uchel
3 phwynt = o fewn un ardal flaenoriaeth (er enghraifft, dalgylch cyfle)
5 pwynt = o fewn dwy ardal flaenoriaeth (er enghraifft, dalgylch cyfle ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) sy’n dibynnu ar ddŵr)
7 pwynt = o fewn tair ardal flaenoriaeth (er enghraifft, dalgylch cyfle, ACA sy’n dibynnu ar ddŵr, ac ardal risg uchel o lifogydd)
- A yw’r cynnig wedi ystyried y cyngor technegol diweddaraf i gynorthwyo yng ngham dylunio cysyniad y prosiect (er enghraifft, cyhoeddiad llawlyfr SDCau Ciria)? Darparwch dystiolaeth berthnasol.
- Lle bo’n berthnasol, a yw’r cais wedi dangos ymgysylltiad ag unrhyw gymunedau/preswyl cyn hyn ac, os nad ydyw, a yw ymgysylltu wedi’i gynllunio’n gynnar yn y cam dylunio cysyniad?
- A oes goblygiadau i’r prosiect os na chaiff ei ariannu gan CNC?
- A yw’r gweithgareddau a nodir yng nghynllun y prosiect yn realistig, yn gyraeddadwy, ac yn unol â nodau’r prosiect, h.y. a allent gyflawni’r canlyniadau a nodwyd?
- A yw’r partner allanol wedi ystyried caniatadau neu gydsyniadau ac wedi darparu amserlenni realistig?
- A yw’r graddfeydd amser / cerrig milltir yn realistig ac yn gyraeddadwy?
- A nodwyd rhanddeiliaid allweddol a chyfleoedd i weithio gydag eraill?
- Pwy yw’r partneriaid eraill sy’n ymwneud â’r prosiect hwn ac a ydynt yn berthnasol ac yn briodol?
- A oes gan y prosiect drefniadau llywodraethu digonol, sy’n gymesur â’i faint a’r risg, i gyflawni’r prosiect?
- A yw risgiau wedi’u nodi’n briodol ac a oes ganddynt fesurau lliniaru priodol ar waith?
- Pa mor dda y mae’r cynnig yn ystyried sut mae pobl o gefndiroedd amrywiol a phob gallu yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect?
- Pa mor dda y mae’r cynnig yn ystyried, yn defnyddio ac yn hyrwyddo’r Gymraeg?
- A yw’r costau manwl o fewn dadansoddiad costau’r prosiect yn rhesymol ac yn gyraeddadwy?
- A yw’r prosiect yn werth da, h.y. a yw’r prosiect yn darparu’r gweithgareddau/canlyniadau cywir am werth da?
- A yw’r ymgeisydd yn cyfrannu arian cyfatebol? Bydd sgôr uwch yn cael ei sicrhau drwy gyfrannu arian cyfatebol i’r prosiect.
1 = dim arian cyfatebol
5 = tua 20% o gyfanswm costau’r prosiect a gyfrannwyd gan yr ymgeisydd neu bartneriaid
10 = o leiaf 50% o gostau’r prosiect a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd neu bartneriaid
Lle na ddarparwyd sgôr benodol uchod, byddwn yn defnyddio’r tabl sgorio:
Tystiolaeth a ddarparwyd | Sgôr | Sylw |
Mae’r cynnwys yn gyson, yn gynhwysfawr, yn gymhellol, ac yn uniongyrchol berthnasol i’r cynllun grant ym mhob ffordd ac yn gredadwy iawn |
10 |
Yn hyderus iawn |
Mae’r cynnwys yn ddigonol (yn nhermau ansoddol), yn argyhoeddiadol ac yn gredadwy |
8 | Yn hyderus |
Mae mân fylchau yn y cynnwys, neu i raddau bach mae’n anargyhoeddiadol, ac mae diffyg hygrededd neu berthnasedd |
6 | Mân bryderon |
Mae bylchau cymedrol yn y cynnwys ac felly nid yw’n argyhoeddiadol |
4 | Pryderon cymedrol |
Mae bylchau mawr yn y cynnwys, nid yw’n argyhoeddiadol ar lawer ystyr, mae diffyg hygrededd, a/neu i raddau helaeth mae’n amherthnasol i’r cynllun |
2 | Pryderon mawr |
Mae’r cynnwys yn gamarweiniol, yn amherthnasol, neu’n anghymwys |
1 | Ddim yn dderbyniol |
Byddwn hefyd yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy cymesur ar bob ymgeisydd. Mae asesiad ariannol CNC yn cael ei gwblhau gan Dîm Grantiau CNC. Mae wedi’i deilwra ar sail y math o bartner, mae’n cynnwys gwiriadau diwydrwydd dyladwy safonol, ac mae’n gymesur yn seiliedig ar werth a risg. Rydym yn cwmpasu:
- Adnabod eich ymgeisydd
- Iechyd ariannol
- Ffynonellau ariannu eraill
- Meysydd o bryder arbennig