Os oes gennych syniadau ar gyfer cydweithio y tu allan i’n rowndiau cyllido, cysylltwch â’ch swyddog partneriaeth lleol yn y lle cyntaf.
Mae prosiectau sy’n cael eu hariannu gan CNC yn helpu i wella'r amgylchedd ledled Cymru
Mae rhai yn gysylltiedig ag ardal ddaearyddol eang, tra bo gan eraill gwmpas strategol.
Dyma fap sy’n rhoi brasamcan o wasgariad y prosiectau.
Yn dilyn ein rownd ariannu SMNR yn ddiweddar, bydd y prosiectau a ddewiswyd yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd o dan bedair thema lleihau'r risg o beryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd; gwella rheoli cynefinoedd, bioamrywiaeth a chysylltedd; gwella mynediad i'r awyr agored a defnyddio'r amgylchedd naturiol i gefnogi'r economi a datblygu sgiliau.
Y pedair her a nodwyd:
- Gofalu bod tir a dŵr yn cael eu rheoli’n gynaliadwy mewn ffordd integredig a lleihau'r risg o beryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd
- Gwella gwydnwch ac ansawdd ein hecosystemau drwy reoli cynefinoedd yn well, bioamrywiaeth a rheolaeth
- Helpu pobl i fyw bywydau iachach a gwell drwy wella mynediad i'r awyr agored ar gyfer iechyd a lles
- Hyrwyddo’r defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol i gefnogi'r economi a datblygu sgiliau a dysgu
Diweddariad Cyllid
Mae ein diweddariad cyllid yn cynnig golwg gyffredinol ar yr arian sydd ar gael o wahanol ffynonellau i grwpiau ac elusennau ar gyfer achosion a phrosiectau amgylcheddol.
Cyngor am gyllid
Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnig cyngor a manylion yn ymwneud â chyllid sydd ar gael i fusnesau ac unigolion, gan gynnwys Offer Chwilio Cyllid Busnes Cymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru amrywiaeth o gynlluniau grantiau ar gyfer cyflawni eu polisïau a chreu Cymru decach a mwy llewyrchus.
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cynnig help i chwilio am gyllid trwy gyfrwng Porth Cyllid Trydydd Sector Cymru.