Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

4 Lleihau'r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd

Allyn Hawkes and Julian Humphries, helping the Fire and Rescue Service fight a major industrial fire - photographed by Mark Sabine

Ble'r ydym yn awr?

Mae llygredd a llifogydd yn cael effeithiau niweidiol eang ar Gymru, a nodwyd bod ansawdd aer gwael yn un o'r bygythiadau amgylcheddol uniongyrchol mwyaf i bobl a'r amgylchedd naturiol. Mae’n gysylltiedig â 40,000 o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn ledled y DU, gan gostio mwy na £20 biliwn y flwyddyn.12

Mae digwyddiadau llygredd amaethyddol yn parhau i fod yn broblem, gan effeithio'n sylweddol ar gyrsiau dŵr. Llygredd dŵr a achosir gan fwyngloddiau metel segur yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU.

Mae'n debygol y bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol, ac mae pobl sy'n byw ar orlifdiroedd neu'n agos i arfordiroedd yn wynebu risg gynyddol. Mae sychder hefyd yn broblem ac mae'n debygol y bydd llai o ddŵr ar gael mewn rhai ardaloedd. Yn enwedig mewn ardaloedd trefol, mae wynebau anhydraidd a datblygiadau ar orlifdiroedd yn dwysáu llifogydd lleol.

Er bod cyfraddau ailgylchu yn cynyddu,1, mae gwastraff peryglus a thipio anghyfreithlon yn parhau i fod yn broblem ddifrifol. Mae angen i ni symud tuag at economi fwy cylchol – gan leihau'r defnydd o adnoddau yn y lle cyntaf a defnyddio adnoddau naturiol sawl gwaith cyn defnyddio'r gwastraff yn y pen draw i gynhyrchu ynni lle bo hynny'n bosibl. Mae poblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru yn awgrymu y bydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n agored i niwed y bydd angen cymorth arnynt pe bai digwyddiad amgylcheddol yn codi.

 

Ble ydym ni am fod yn yr hirdymor?

Bydd peryglon amgylcheddol yn cael eu hystyried yn rhan o ddull integredig ar gyfer rheoli tir a dŵr. Bydd atebion sy'n seiliedig ar natur (megis plannu coed neu adfer gwlyptiroedd a gorlifdiroedd) yn cael eu hystyried fel cam cyntaf, er y bydd angen mwy o ddulliau 'peirianneg galed', megis cwlferi a rhwystrau concrid, mewn rhai achosion. Bydd datganiadau ardal yn nodi'r cyfleoedd gorau ar lefel leol.

Bydd llifogydd yn cael eu trin yn ôl graddfa dalgylch dŵr: bydd yr holl afon a'r arfordir yn cael eu hystyried, a bydd amddiffynfeydd perygl llifogydd yn cynnwys cynlluniau buddsoddi hirdymor. Bydd systemau draenio cynaliadwy a ddarperir gan fannau gwyrdd ychwanegol mewn ardaloedd trefol yn helpu i reoli llifogydd, cynnydd mewn tymheredd, a llygredd gronynnol. Bydd llygredd gwasgaredig, gan gynnwys llygredd sy'n dod o fwyngloddiau neu amaethyddiaeth, er enghraifft, wedi cael ei leihau, gydag atebion syml i atal gollyngiad i gyrsiau dŵr. Bydd tir llygredig wedi cael ei adfer a'i adnewyddu lle bo hynny'n bosibl. Bydd yr holl wastraff, yn enwedig gwastraff peryglus ac anghyfreithlon, wedi'i leihau'n sylweddol, ac ni fydd tipio anghyfreithlon yn digwydd bellach. Bydd popeth y gellir ei ailgylchu yn cael ei ailgylchu wrth i ni weithio tuag at economi gylchol.

Bydd pobl yn deall bod atal yn well na gwellhad, felly ni fydd datblygiadau amhriodol bellach ar orlifdiroedd neu fannau lle mae'r risg o ddigwyddiadau amgylcheddol yn uchel. Bydd pawb yn deall ei bod hi'n well peidio â llygru yn y lle cyntaf.

Bydd cymunedau a busnesau yn deall y risg o lifogydd neu ddigwyddiad amgylcheddol yn digwydd yn eu hardal leol. Byddant yn gwerthfawrogi'r effeithiau ar wydnwch ecosystemau a sut mae hyn yn effeithio ar eu bywydau a'u bywoliaeth. Byddant yn deall yr hyn y gallant ei wneud eu hunain a chymryd cyfrifoldeb i atal neu leihau'r tebygolrwydd o ddigwyddiad a'r effaith y gallai ei chael. Os bydd rhywbeth yn digwydd, byddant yn gallu ymateb i leihau'r effaith a sicrhau y gofelir am y rhai mwyaf agored i niwed.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i gyflawni hyn – gan ddarparu arweiniad a chyngor, gwaith monitro a thystiolaeth, gwaith i fodelu a rhagweld y tebygolrwydd o ddigwyddiadau, ac ymateb effeithiol i'r digwyddiadau sy'n digwydd. Bydd pobl yn ymddiried ynom i argymell y dull gorau i helpu i leihau'r risgiau i bobl, cynefinoedd, a bioamrywiaeth. Fel rheoleiddiwr cadarn ond teg, byddwn yn ymchwilio i ddigwyddiadau ac yn defnyddio ein hystod lawn o bwerau i fynd i'r afael â throsedd amgylcheddol pan fo hynny'n angenrheidiol.

 

Beth fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud hyd at 2022 i helpu i wneud hyn ddigwydd?

Arwain drwy esiampl

  • Defnyddio ein datganiadau ardal i asesu'r risg o beryglon amgylcheddol, a datblygu atebion sy'n seiliedig ar natur fel y dewis cyntaf i leihau eu hamlder/difrifoldeb. Sicrhau bod hyn yn cael ei gynnwys yn ein cynlluniau adnoddau naturiol ein hun ac o fewn cynlluniau llesiant y dyfodol a baratoir gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Sicrhau bod y risg o ddigwyddiad amgylcheddol ar y tir a'r dŵr a reolir gennym yn cael ei lleihau
  • Lleihau peryglon llygredd drwy ddefnyddio ein pwerau rheoleiddio mewn modd effeithiol
  • Cynnal ein hasedau llifogydd presennol ac adeiladu amddiffynfeydd llifogydd i leihau'r risg i 2,500 eiddo ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau a fydd yn cael eu cwblhau yn Llanelwy yn 2017/18 ac yng Nghrindai yn 2018/19
  • Ymateb i ddigwyddiadau sy'n digwydd fel ymatebwr Categori 1
  • Chwarae ein rhan yn Rhaglen Ymchwil ar y Cyd Asiantaethau Rheoleiddio a'r Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a rennir rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a DEFRA

Gweithio gyda'n partneriaid

  • Sicrhau bod datganiadau ardal yn cynnwys atebion sy'n seiliedig ar natur sy'n lleihau'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau amgylcheddol. Bod y rhain wedyn yn cael eu hintegreiddio i gynlluniau llesiant gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn sicrhau buddion lluosog lle bo hynny'n bosibl, fel creu cynefinoedd a chyfleoedd ar gyfer hamdden
  • Gweithio gyda phartneriaid, cymunedau, a'r sectorau amaethyddol a diwydiannol ar lunio mesurau ataliol i leihau'r tebygolrwydd y bydd digwyddiadau'n digwydd yn y lle cyntaf
  • Cydweithio gyda chyrff lleol er mwyn paratoi ar gyfer a datblygu ymatebion i ddigwyddiadau amgylcheddol pe baent yn digwydd
  • Gweithio gyda phobl eraill i wella llesiant cymunedau arfordirol, yn enwedig o gwmpas ardaloedd sy'n agos iawn i'r arfordir a lle mae cilio a reolir yn rhan o'r cynllun hirdymor
  • Cydweithio â sefydliadau megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, Fforwm Rheoli Tir Cymru, arolygwyr amaethyddol a Dŵr Cymru, a chyda awdurdodau lleol a rheoleiddwyr eraill, i ymchwilio i a rhoi cynnig ar ddulliau arloesol mewn perthynas ag ansawdd aer lleol, llygredd gwasgaredig a/neu amaethyddol, adfer cloddfeydd metel a thrin slyri, newid ymddygiad, a lleihau risgiau iechyd ac anghydraddoldebau drwy leihau amlygiad i lygryddion
  • Cefnogi mentrau megis Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru a Taclo Tipio Cymru

 

Sut y byddwn ni'n gwybod a oes unrhyw beth wedi newid?

Dangosydd/Ffynhonnell

  • Eiddo sydd mewn perygl o lifogydd – Dangosydd Cenedlaethol3
  • Safbwyntiau unigol pobl o ran perygl llifogydd – data Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Safbwyntiau unigol o ran ansawdd yr amgylchedd lleol – Arolwg Cenedlaethol4

Allyn Hawkes - Roeddem yn gweithio ar safle yn Llanelli, Daeth dwy ferch oedd yn byw ar y stryd atom ni. Roedden nhw mor ddiolchgar ein bod ni yno, ac un falch o'n gweld; mi wnaeth fi'n hapus ein bod ni'n gwneud gwaith da

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ein cynllun hyd at 2022 Hawdd ei Ddeall Gofalu am natur yn awr i'n plant gael ei fwynhau PDF [16.6 MB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.