Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

6 Hyrwyddo busnes llwyddiannus a chyfrifol sy'n defnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi

View of Pwll Deri from Garn Farm, Pembrokeshire - photographed by Ian Medcalf

Ble'r ydym yn awr?

Mae dros 90% o'r tir rydym yn ei reoli yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth.5 Hefyd, mae gennym bysgodfeydd dŵr croyw a morol lle mae sicrhau bod stociau pysgod yn gynaliadwy yn fater o bwys: er enghraifft, mae nifer yr eogiaid sy'n byw yn ein hafonydd wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.1

Mae cyfraddau ailgylchu awdurdodau lleol wedi cynyddu o 52% yn 2012/13 i 60% yn 2015/16, sef y gyfradd uchaf yn y DU ar hyn o bryd. Yr oedd Cymru yn yr ail safle yn Ewrop a thrydydd yn y byd ar gyfer ailgylchu hefyd.1

Mae'r trydan a gynhyrchir gan ffynonellau adnewyddadwy wedi mwy na threblu ers 2007, gan gyrraedd 20% o'r holl drydan a gynhyrchir yng Nghymru erbyn 2015.1 Mae parhau i gynyddu'r gyfran o ynni adnewyddadwy yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol, ac mae uchelgeisiau gan Lywodraeth Cymru i 70% o'r trydan a gynhyrchir yng Nghymru ddeillio o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gydag o leiaf 1GW o'r capasiti ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi diwydiant ac amaethyddiaeth drwy ei gyngor a'i waith rheoleiddio i leihau effeithiau amgylcheddol, rheoli llygredd, a lleihau'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau. Er bod rhai busnesau yn gweithredu'n gynaliadwy eisoes, mae rhagor o gyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd, sy'n fuddiol i'r diwydiant ei hun, yr amgylchedd naturiol, a phobl Cymru.

Ble ydym ni am fod yn yr hirdymor?

Bydd Cymru'n cael ei hystyried fel lle gwych i wneud busnes, a bydd sefydliadau yn deall rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan fabwysiadu arferion gwaith cynaliadwy a gwerthfawrogi eu bod yn gweithredu fel rhan o ecosystemau gwydn. Bydd hyn yn fuddiol nid yn unig i'r busnesau eu hunain ond hefyd pobl Cymru a'r amgylchedd naturiol, a fydd yn cael ei ystyried yn ased hanfodol. Bydd busnesau yn cael eu hannog i ddod yn achrededig a'u cydnabod am eu hymagwedd.

Bydd y sbectrwm o fusnesau yng Nghymru yn amrywio o ddiwydiannau traddodiadol a choedwigaeth, pysgota a ffermio, i weithredwyr twristiaeth a mentrau cymdeithasol. Yn y dyfodol, bydd cynllunio datblygu yn sicrhau bod busnesau newydd yn cael eu lleoli lle y byddant yn cael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd.

Bydd Cymru yn cael ei hystyried o fod â mantais gystadleuol gan ei bod yn croesawu twf gwyrdd. Bydd sectorau newydd, cynhyrchion newydd, ymchwil newydd ac arloesi mewn diwydiannau sydd eisoes yn bodoli yn cael eu hannog. Bydd Cymru'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, ac ar yr un pryd yn deall, yn osgoi, ac yn lliniaru effeithiau ar yr amgylchedd naturiol, ac yn edrych am gyfleoedd i’w wella. Bydd adnoddau yn cael eu defnyddio'n effeithlon, a bydd yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir wedi cynyddu'n sylweddol, gyda chyfran o'r capasiti ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol. Bydd Cymru yn gweithio tuag at economi gylchol – lle mae’r defnydd o adnoddau yn cael ei leihau ac mae deunyddiau yn cael eu hailddefnyddio, eu hailgylchu, a'u defnyddio yn y pen draw i gynhyrchu ynni lle bo hynny'n bosibl.

Bydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gysylltiadau cryf â diwydiant, yn rhoi cyngor ac yn gweithio ar y cyd cyn ac yn ystod y broses gynllunio er mwyn datblygu busnesau a thechnoleg sy’n gynaliadwy ac yn dda. Byddwn yn gwneud defnydd llawn o'n pwerau rheoleiddiol – gwaith trwyddedu a monitro i sicrhau cydymffurfiaeth a chamau gorfodi – i amddiffyn yr amgylchedd naturiol ac i sicrhau nad yw busnesau cyfreithlon yn cael eu tanseilio.

Byddwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu marchnadoedd eraill yn ogystal â Thalu am Wasanaethau Ecosystemau ac yn defnyddio ein pŵer prynu i ddylanwadu ar ein cyflenwyr a'r sector cyhoeddus ehangach i annog gweithio tuag at economi gylchol.

 

Beth fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud hyd at 2022 i helpu i wneud hyn ddigwydd?

Arwain drwy esiampl

  • Datblygu ein gwaith masnachol yn unol â'n cynllun menter, gan sicrhau bod ein gweithgareddau yn cyfrannu'n gadarnhaol at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ogystal â chynhyrchu incwm
  • Marchnata ein pren drwy gystadleuaeth deg ac agored, a sicrhau bod y coedwigoedd a reolir gennym yn cadw eu hardystiad coedwig annibynnol
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy ar y tir yr ydym yn ei reoli, a chefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy ar dir cyfagos. Helpu i gyflawni ymrwymiadau lleihau carbon Llywodraeth Cymru a hwyluso budd cymunedol gwell a mwy o berchnogaeth gymunedol dros brosiectau ynni adnewyddadwy
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu twristiaeth sydd wedi'i seilio ar hamdden ar y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys datblygu cabanau gwyliau ar o leiaf tri safle
  • Helpu i ddarparu swyddi da ledled Cymru fel cyflogwr uniongyrchol a chefnogi prentisiaethau, lleoliadau gwaith, a rhaglenni cyflogaeth Llywodraeth Cymru i helpu pobl i ddod o hyd i waith ar draws Cymru
  • Sicrhau bod gwaith cynghorol a rheoleiddio yn effeithlon ac yn effeithiol, gan ganiatáu i benderfyniadau da gael eu gwneud gan y rhai sy'n derbyn cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ymateb i 95% o geisiadau cynllunio o fewn yr amserlenni statudol neu amserlenni y cytunwyd arnynt a monitro ansawdd ein cyngor a pha effaith a gafodd ein hymateb
  • Defnyddio ein pwerau arbrofol i weithio gyda thechnolegau sy'n dod i'r amlwg i helpu busnesau i weithredu'n gynaliadwy

Gweithio gyda'n partneriaid

  • Hyrwyddo'r rhesymau cymhellol i fusnesau fabwysiadu dull rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar gyfer eu gweithrediadau, gan eu helpu i ddeall y manteision o'r dull hwn i’r diwydiant, pobl Cymru, a'r amgylchedd naturiol hefyd. Cefnogi busnesau fesul sector, gan gynnig gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
  • Gweithio gyda'r sector preifat, cymdogion, cyrff gwirfoddol a chymunedau i gefnogi defnydd priodol o dir Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn darparu buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
  • Annog busnesau i fabwysiadu cynlluniau achredu priodol, megis B Corp, gan ddangos eu bod yn glinio at safonau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol llym – yn ogystal â rhai economaidd
  • Cefnogi Llywodraeth Cymru ac eraill i ddatblygu Talu am Wasanaethau Ecosystemau a'i hymagwedd tuag at bwerau treth newydd
  • Cefnogi Llywodraeth Cymru gyda'r gwaith o baratoi ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
  • Cymryd yr awenau gydag asiantaethau amgylcheddol eraill y DU i sicrhau bod newidiadau rheoleiddio mewn mannau eraill o'r DU yn cael effaith fuddiol ar Gymru
  • Gweithio gyda’r byd academaidd ac yn enwedig ysgolion busnes i ddatblygu dulliau arloesol o ymgorffori rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy fel rhan arferol o fusnes
  • Rhoi camau ar waith i weithio tuag at economi gylchol a dyfodol diwastraff yng Nghymru
  • Cefnogi'r gwaith o reoli tirweddau o safon uchel a datblygiadau twristiaeth cynaliadwy gyda phartneriaid i wella'r economi ymwelwyr ledled Cymru

Dangosyddion Cymru:Sut y byddwn ni'n gwybod a oes unrhyw beth wedi newid?

Dangosydd/Ffynhonnell

  • Nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu hallyrru – Dangosydd Cenedlaethol3
  • Datblygu rhagor o ddangosyddion mewn cydweithrediad â phartneriaid a busnesau yng Nghymru

Charlie Lewis - Rwy'n hoffi meddwl fy mod yn helpu i adael etifeddiaeth i'm merch fel y gall barhau i fwynhau'r pethau hyn

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ein cynllun hyd at 2022 Hawdd ei Ddeall Gofalu am natur yn awr i'n plant gael ei fwynhau PDF [16.6 MB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.