Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Spider crabs (Maja squinado) at Llŷn Peninsula and The Sarnau Special Area of Conservation (SAC) - photographed by Matthew Green

Ble'r ydym yn awr?

Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol wedi nodi nad oes yr un ecosystem yng Nghymru sydd â gwydnwch da ar hyn o bryd ac ni fydd llawer ohonynt yn ddigon hyblyg i wynebu newid yn yr hinsawdd a phwysau eraill.

Ar y cyfan, mae bioamrywiaeth yn dirywio yng Nghymru. Mae ehangder rhai cynefinoedd wedi dirywio'n sylweddol, ac mae'r cysylltedd rhwng cynefinoedd wedi gostwng hefyd.11 Mae cyflwr ein hecosystemau yn gymysg, yn ôl y cynefin penodol:  canfuwyd bod 55% o rywogaethau a 75% o nodweddion cynefinoedd ar safleoedd Natura 2000 mewn cyflwr anffafriol.11

Mae'r materion sy'n effeithio ar safleoedd bywyd gwyllt gwarchodedig yn cynnwys pori a rheoli da byw amhriodol, rheoli coetiroedd mewn modd amhriodol, newidiadau mewn lefelau dŵr, darnio cynefinoedd, a datblygiadau diwydiannol neu ddatblygiadau eraill. Mae ansawdd aer gwael yn ffactor hefyd – mae dros 74% o gynefinoedd Cymru yn cael eu niweidio o ganlyniad i lygredd aer.8

 

Ble ydym ni am fod yn yr hirdymor?

Bydd ecosystemau Cymru yn fwy gwydn, ac yn cynnig rhagor o fudd i bobl. Byddant yn gallu ymdopi'n well gydag aflonyddwch – naill ai drwy eu gwrthsefyll, adfer ar ôl iddynt ddigwydd, neu ymaddasu â hwy. Bydd y golled bioamrywiaeth net wedi cael ei gwrthdroi. Bydd gan ecosystemau amrywiaeth a chysylltedd gwell, a bydd safleoedd gwarchodedig wedi'u trefnu ac yn cael eu rheoli fel rhwydwaith cydlynol yn rhan o amgylchedd naturiol ehangach Cymru.

Bydd Talu am Wasanaethau Ecosystemau wedi cael ei sefydlu fel rhan o'r ffordd rydym yn gweithredu yng Nghymru, a bydd y buddion a ddaw o ganlyniad i ecosystemau wedi'u deall yn helaeth. Bydd atebion sy'n seiliedig ar natur, gan wneud y gorau o'r cysylltiadau rhwng gwydnwch a lles ecosystemau, wedi'u deall, eu gwerthfawrogi, a'u gweithredu.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi chwarae rhan allweddol wrth gyflawni Cynllun Adfer Natur Cymru, gan weithio gyda chyrff cyhoeddus eraill a'r sectorau preifat a gwirfoddol. Bydd y gwaith o reoli ein tir a'n dŵr ein hun yn amlygu gwydnwch a chysylltedd ecosystemau.

 

Beth fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud hyd at 2022 i helpu i wneud hyn ddigwydd?

Arwain drwy esiampl

  • Sicrhau ein bod yn ystyried gwydnwch bioamrywiaeth ac ecosystemau mewn perthynas â'n holl swyddogaethau a gweithgareddau a’r penderfyniadau a wneir gennym
  • Adolygu safleoedd gwarchodedig i sicrhau bod y rhwydwaith cywir ar gyfer gwydnwch ecosystemau ar waith gennym, fel ffordd o ddiogelu'r mannau o fioamrywiaeth orau a dull allweddol ar gyfer hyrwyddo rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
  • Adfer y safleoedd gwarchodedig a reolir gennym tuag at gyflawni cyflwr ffafriol, a chymryd camau ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd sydd wedi'u blaenoriaethu ar y tir a'r dŵr yr ydym yn eu rheoli
  • Rheoli hyd at 2,900 hectar (tua 7,200 erw) o safleoedd coetir hynafol trwy gael gwared ar fygythiadau, a rheoli o leiaf 2,000 hectar (tua 4,500 erw) o Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol tuag at adferiad ar y tir a reolir gennym
  • Rheoli coetiroedd tuag at gynefin agored mewn ardaloedd lle nad oedd plannu'n briodol yn y gorffennol, er enghraifft ar fawn dwfn
  • Atal, canfod a rheoli rhywogaethau goresgynnol estron, plâu a chlefydau ar y tir a'r dŵr a reolir gennym, ac ar dir arall mewn rhai achosion – er enghraifft, ar gyfer efwr enfawr (Heracleum mantegazzianum) a Phytophthora ramorum – lle mae rhywogaethau wedi cael effaith negyddol eang ar yr economi, yr amgylchedd, ac iechyd pobl

Gweithio gyda'n partneriaid

  • Gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chyrff sector cyhoeddus eraill gan ddefnyddio datganiadau ardal fel sylfaen, i'w helpu i gyflawni eu dyletswyddau bioamrywiaeth, gan ysbrydoli pobl eraill a rhoi pobl wrth wraidd yr hyn y gall natur ei wneud ar eu cyfer
  • Gweithio gyda Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a phartneriaid eraill i gyflawni Cynllun Adfer Natur Cymru
  • Cydweithio â thirfeddianwyr a rheolwyr tir i greu dull integredig strategol ar gyfer rheoli tir a dŵr, gan ganolbwyntio ar reoli safleoedd gwarchodedig tuag at gyflawni cyflwr ffafriol a'u gwerthfawrogi fel rhan o rwydwaith ehangach ac elfen hanfodol o'r amgylchedd naturiol
  • Gweithio gyda phartneriaid allweddol i wella cynefinoedd afonydd, casglu tystiolaeth a chwilio am nawdd i gasglu, blaenoriaethu a gweithredu Cynlluniau Adfer Afonydd, gan weithio tuag at ddarparu’r cynefinoedd afonydd gorau ar gyfer pysgod a sefydlu’r eog fel rhywogaeth eiconig sy’n dangos ansawdd cynefinoedd ledled Cymru
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion ar gyfer Talu am Wasanaethau Ecosystemau
  • Gwella gwydnwch ecosystemau morol fel rhan o rwydwaith a gweithgareddau’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig o dan y Prosiect Gwella Cyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig a'r prosiect Asesu Pysgodfeydd Cymru. Cefnogi Rhaglen Newid Morol Llywodraeth Cymru
  • Sicrhau bod gennym y sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen arnom, a gweithio gyda phobl eraill megis y sector gwirfoddol a'r Cyd-bwyllgor Gwarchod Natur i fesur y newidiadau

Dangosyddion Cymru:Sut y byddwn ni'n gwybod a oes unrhyw beth wedi newid?

Dangosydd/Ffynhonnell

  • Ecosystemau iach – Dangosydd Cenedlaethol3
  • Bioamrywiaeth yng Nghymru – Dangosydd Cenedlaethol3
  • Safbwyntiau unigol pobl ynglŷn â bioamrywiaeth – Arolwg Cenedlaethol4

Rhodri Dafydd - Mae cael y cyfle i ofalu am gynefinoedd a gweithio gyda thirfeddianwyr i geisio gwella eu cyflwr fel eu bod nhw o'r safon uchaf bosib yn anhygoel

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ein cynllun hyd at 2022 Hawdd ei Ddeall Gofalu am natur yn awr i'n plant gael ei fwynhau PDF [16.6 MB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.