Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Charlie Lewis at Glyder Fawr, Snowdonia - photographed by Charlie Lewis

Ble'r ydym yn awr?

Mae problemau iechyd sylweddol yng Nghymru. Gallai byw a gwneud defnydd da o amgylchedd naturiol sydd o ansawdd da helpu i fynd i'r afael â'r rhain fel rhan o ffordd o fyw iach a gwell iechyd corfforol a meddyliol. Er enghraifft, bydd 25% o bobl yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ar ryw adeg o'u bywydau,13 tra bo bron i 60% o bobl Cymru sy'n 16 oed neu hŷn dros bwysau neu'n ordew, ac mae'r niferoedd yn cynyddu.1

 Mae'r anghydraddoldebau iechyd rhwng mannau gwahanol o Gymru yn arwyddocaol. O ran gordewdra yn ystod plentyndod, er enghraifft, ystyrir bod 19.2% o blant pedwar a phump oed ym Mro Morgannwg dros bwysau neu'n ordew, ond mae'r ffigwr hwnnw'n 33.8%14 ym Merthyr Tudful. Mae gordewdra yn ystod plentyndod yn sylweddol uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig.1, 14 Mae tlodi incwm yn effeithio ar 23% o'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd a 30% o bobl yng Nghymru.1 Mae disgwyliad oes iach yn amrywio'n sylweddol hefyd rhwng yr awdurdodau lleol gwahanol.1

Er bod mwy nag 80% o oedolion Cymru yn cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd hamdden awyr agored o leiaf unwaith y flwyddyn, dim ond tua chwarter ohonynt sy'n gwneud hyn yn rheolaidd.2 Mae menywod yn debygol o fod yn llai gweithgar na dynion.1 Ac er bod hanner o'r holl blant a phobl ifanc yn gwneud ymarfer corff tair gwaith yr wythnos, mae'r niferoedd sy'n cymryd rhan yn lleihau'n sylweddol wrth iddynt dyfu.1 Mae oddeutu 3% o bobl yn gwirfoddoli i amddiffyn yr amgylchedd.1

Er bod llawer o bobl eisoes yn mwynhau’r byd naturiol, mae heriau sylweddol er mwyn ailgysylltu rhai pobl â’r amgylchedd naturiol: mae pawb yn haeddu byw mewn ardaloedd deniadol o ansawdd da gydag ansawdd aer a dŵr da, a dylent gael eu hannog i ddefnyddio'r awyr agored i wella iechyd meddyliol a chorfforol.

 

Ble ydym ni am fod yn yr hirdymor?

Bydd pobl yn mwynhau ac yn teimlo'n gysylltiedig â natur, ac yn cydnabod gwerth cynhenid yr amgylchedd naturiol a'i swyddogaeth mewn perthynas ag iechyd a lles a diwylliant a threftadaeth Cymru. Bydd dysgu yn ac am yr amgylchedd naturiol a'r buddion y mae'n eu darparu yn rhan o fywyd pawb – ac yn dechrau yn ystod plentyndod. Bydd gwneud defnydd gwell o fannau gwyrdd lleol mewn ardaloedd trefol a gwledig yn rhywbeth arferol, ynghyd â chydnabyddiaeth fod ymarfer corff yn yr awyr agored yn helpu i atal nifer o afiechydon meddyliol a chorfforol. Bydd anghydraddoldebau iechyd rhwng ardaloedd gwahanol o Gymru a chymunedau gwahanol wedi cael eu lleihau'n sylweddol, gyda chynnydd mewn disgwyliad oes iach.

Bydd pobl yn ymfalchïo yn eu hardal leol ac yn gwirfoddoli i helpu i edrych ar ôl yr amgylchedd naturiol, gan ddysgu pethau newydd a rhoi yn ôl at y gymdeithas, a bydd eu hymdrechion yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi

Bydd pobl yn teimlo'n sicr fod unrhyw risgiau amgylcheddol posibl, megis byw mewn ardal lle mae llifogydd yn dueddol o ddigwydd neu gerllaw ystâd ddiwydiannol, yn cael eu rheoli'n dda, a bydd busnesau'n helpu i wella amgylcheddau lleol fel rhan o'u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog mynediad at y tir a'r dŵr a reolir ganddo, ac yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer hamdden a gwirfoddoli. Bydd mynediad yn cael ei weld yn ei ystyr ehangaf - gan gynnwys gwybodaeth a chymorth yn ogystal â mynediad corfforol. Bydd gennym fentrau ar y cyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru ac arbenigwyr eraill lle mae'r amgylchedd naturiol yn cael ei ddefnyddio i wella iechyd a lles, a lle mae teithio llesol megis beicio a cherdded yn cael ei annog. Bydd gwyddoniaeth gymdeithasol yn ein helpu i ddeall ymddygiad pobl a'r ffordd orau o annog ac ysgogi newid.

Bydd yr amgylchedd naturiol yn cael ei ystyried yn anhepgor i gynlluniau llesiant lleol, a bydd tirweddau a morluniau Cymru yn ysbrydoli dysgu gydol oes a chyfranogiad mewn chwaraeon a'r celfyddydau.

Beth fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud hyd at 2022 i helpu i wneud hyn ddigwydd?

Arwain drwy esiampl

  • Datblygu a rheoli mynediad a seilwaith – llwybrau cerdded, rhedeg, beicio mynydd a marchogaeth, a phwyntiau mynediad, er enghraifft, ar dir a dŵr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan annog pobl i'w ddefnyddio ar gyfer hamdden, a chanolbwyntio ar fannau lle gall hyn gynnig y budd mwyaf
  • Defnyddio'r tir a'r dŵr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi prosiectau cymunedol a mentrau cymdeithasol, gan gynnwys prosiectau ynni cymunedol a choetiroedd cymunedol
  • Cyflwyno Cyfle, cynllun newydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer recriwtio, cefnogi a rheoli lleoliadau, gan gynnwys prentisiaethau, lleoliadau ymchwil a gwaith, lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr, a gwirfoddoli, gan roi'r cyfle i bobl ennill sgiliau gwerthfawr a rhannu eu profiad a'u harbenigedd
  • Parhau i gyflwyno Plant! lle mae coeden yn cael ei phlannu am bob plentyn sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru
  • Rheoli treftadaeth ddiwylliannol (henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig) ar y tir a reolir gennym
  • Darparu gwybodaeth ynglŷn â'n safleoedd hamdden a chyfleoedd i hyrwyddo'r hyn a gynigir gennym a grymuso pobl i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â lleoedd i ymweld â nhw, gweithgareddau i'w gwneud, a sut y gallant gymryd rhan
  • Cynnwys pobl, yn enwedig drwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, yn y penderfyniadau a wneir gennym lle bo hynny'n briodol

Gweithio gyda'n partneriaid

  • Helpu pob plentyn yng Nghymru i brofi a gwerthfawrogi'r amgylchedd naturiol. Gweithio mewn partneriaeth i ddylanwadu ar y cwricwlwm newydd yng Nghymru i sicrhau bod dysgu yn yr awyr agored yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm statudol ar gyfer pob grŵp oedran
  • Gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru i ddatblygu camau gweithredu ar y cyd sy'n cefnogi amcanion ar y cyd, gan ddefnyddio'r amgylchedd naturiol i wella iechyd a lles
  • Sicrhau bod swyddogaeth yr amgylchedd naturiol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn cael ei chynnwys yng nghynllun llesiant pob un o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a bod cyfleoedd yn cael eu hamlygu mewn datganiadau ardal
  • Cefnogi Llywodraeth Cymru wrth gyflawni ei rhaglenni, gan gynnwys Tasglu'r Cymoedd a helpu pobl ddi-waith i ddod o hyd i swyddi
  • Gweithio gyda phartneriaid i gyflawni buddion Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol Cymru ar gyfer ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd
  • Gweithio gyda phartneriaid, cymunedau ac addysgwyr i hyrwyddo gwerth yr amgylchedd naturiol lleol a'r cyfleoedd y gall eu cynnig i wella iechyd, datblygu sgiliau, a chefnogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru
  • Cynyddu nifer y coetiroedd sy'n cael eu creu a'u rheoli, gan gynnwys mynediad i’r cyhoedd a chyfleoedd ar gyfer coetiroedd cymunedol a seilwaith gwyrdd, gan ddefnyddio data o'n hastudiaeth o orchudd coed mewn ardaloedd trefol

Dangosyddion Cymru:Sut y byddwn ni'n gwybod a oes unrhyw beth wedi newid?

Dangosydd/Ffynhonnell

  • Agosrwydd at fannau gwyrdd hygyrch – data Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Gweithgaredd corfforol yn yr awyr agored a'i gysylltiad ag iechyd corfforol a meddyliol – Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru2
  • Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad pobl o'r buddion yr ydym yn eu cael gan adnoddau naturiol – Arolwg Cenedlaethol4

Geminie Drinkwater - Y peth rwyn ei fwynhau fwyaf yw helpu syiadau'r gymuned i ddwyn ffrwyth, a gweld pobl yn gwerthfawrogi'r amgylchedd mewn modd hollol wahanol

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ein cynllun hyd at 2022 Hawdd ei Ddeall Gofalu am natur yn awr i'n plant gael ei fwynhau PDF [16.6 MB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.