Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

2 Sicrhau bod tir a dŵr yng Nghymru'n cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy ac integredig

Fresh water West - photographed by Ian Medcalfe

Ble'r ydym yn awr?

Mae tua 90% o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio naill ai ar gyfer amaethyddiaeth neu goedwigaeth,5 tra bo amgylchedd y môr yn cynrychioli 41% o dir Cymru,6 gan estyn hyd at 12 morfilltir.1

Nid yw'r tir a'r dŵr (gan gynnwys y rhan forol) yn cael eu rheoli mewn modd integredig ar hyn o bryd, ac er bod ansawdd y dŵr a'r aer wedi gwella mewn ambell achos dros y blynyddoedd diweddar, mae ffordd bell i fynd eto cyn i ni fod yn rheoli holl dir a dyfroedd Cymru yn gynaliadwy. Er enghraifft:

  • Dim ond un o ddyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru a lwyddodd i fodloni'r safonau a bennir gan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi yn 2016.1 Fodd bynnag, methodd 63% o gyrff dŵr croyw i gyflawni statws cyffredinol da neu well yn 2015 fel y diffinnir gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.1 Mae llygryddion o fwyngloddiau metel segur yn effeithio ar 700 cilomedr (bron i 435 milltir) o afonydd Cymru: mae naw o'r dalgylchoedd sydd wedi'u llygru fwyaf gan fetel yn y DU yng Nghymru7
  • Mae ansawdd aer wedi gwella'n gyffredinol ers yr 1970au. Fodd bynnag, mae nitrogen deuocsid a mater gronynnol yn peri perygl iechyd cyhoeddus sylweddol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol ac wrth ymyl ffyrdd mawr.1 Mae llygredd aer yn effeithio'n negyddol ar dros 74% o gynefinoedd Cymru.8
  • Mae ansawdd pridd wedi gwella ychydig mewn coetiroedd ac wedi adfer ychydig mewn mawndiroedd, ac mae'n parhau i fod yn gymharol sefydlog o ran defnyddiau tir eraill. Mae priddoedd Cymru'n storio oddeutu 410 miliwn tunnell o garbon.1
  • Mae ardal y coetir yng Nghymru yn 306,000 hectar (tua 756,000 erw), sy'n cynnwys 156,000 hectar (tua 385,000 erw) o goed llydanddail a 150,000 hectar (tua 371,000 erw) o gonwydd. Er bod plannu newydd wedi cynyddu rhwng 2009 a 2014, gostyngodd y gyfradd yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2016.9

 

Ble ydym ni am fod yn yr hir

Bydd tir a dŵr Cymru yn cael eu rheoli mewn ffordd sydd wedi’i hintegreiddio’n llawn er mwyn ennill buddion lluosog. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel yr hyn sy’n arferol, gyda defnyddiau gwahanol – ar gyfer ffermio, coedwigaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd trefol – yn cael eu hystyried mewn modd holistaidd.

Bydd dalgylchoedd dŵr yn cael eu hystyried yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys dŵr wyneb a dŵr daear, ac o'u tarddiad i'r môr. Bydd ansawdd a lefelau dŵr (llifogydd a sychder), ac ansawdd aer, wedi gwella, er budd pobl ac ecosystemau hefyd, a byddwn yn gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau dŵr fel yr amlinellir yn Strategaeth Dŵr i Gymru Llywodraeth Cymru.10 Bydd priddoedd wedi cael eu diogelu fel y gallant storio carbon, rheoli draeniad, ailgylchu deunyddiau 'gwastraff' – a pharhau i fod yn gynhyrchiol. Bydd ecosystemau yn fwy gwydn – a bydd tirfeddianwyr a busnesau yn mabwysiadu dull ar y cyd o ran cynaliadwyedd ac yn cael eu cefnogi i wneud hynny.

Bydd mwy o fannau gwyrdd hygyrch a rhagor o seilwaith gwyrdd yn ein hardaloedd trefol ac o'u hamgylch. Bydd y gorchudd coetir wedi cynyddu'n sylweddol, gyda mwy o goetir yn cael ei blannu a rhagor o goetiroedd yn cael eu rheoli. Bydd rhywogaethau a chynefinoedd nodedig yn cael eu gwerthfawrogi ac yn adfer. Mae’r blaenoriaethau cenedlaethol a nodir yn y Polisi Adnoddau Naturiol yn sylfaenol, a bydd enghreifftiau o atebion sy'n seiliedig ar natur, wedi'u llywio gan yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, wedi cael eu troi'n weithredoedd ymarferol ar lawr gwlad, ac wedi’u gweithredu ar y raddfa fwyaf priodol.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei ystyried fel eiriolwr ar gyfer y buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y gall rheoli tir a dŵr yn integredig eu darparu, yn ogystal â'r buddion amgylcheddol. Byddwn yn gweithredu'r dull hwn yn ymarferol ar y tir a'r dŵr rydym yn eu rheoli ein hun.

 

Beth fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud hyd at 2022 i helpu i wneud hyn ddigwydd?

Arwain drwy esiampl

  • Arddangos rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ymarferol ar y 7% o dir a dŵr Cymru yr ydym yn ei reoli ein hun, gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, a'n hamddiffynfeydd llifogydd – monitro ac adrodd ar effeithiolrwydd ein dulliau
  • Rhoi cynnig ar ddulliau newydd o reoli tir a dŵr, gan ddefnyddio ein pwerau arbrofol newydd a monitro'r canlyniadau
  • Cwblhau'r adolygiad o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a dechrau rhoi'r canfyddiadau ar waith
  • Ailstocio oddeutu 1,800 hectar (tua 4,450 erw) o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru bob blwyddyn gyda rhywogaethau coniffer a llydanddail cymysg
  • Cyflwyno rhaglen blannu gydadferol i ailosod coetiroedd a ddinistriwyd. Mae cynyddu'r gorchudd coetir a dod â rhagor o goetiroedd o dan reolaeth yn flaenoriaeth yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a'r Polisi Adnoddau Naturiol hefyd
  • Datblygu strategaeth rheoli risg newid yn yr hinsawdd ar gyfer y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda sylfaen dystiolaeth gysylltiedig
  • Sicrhau bod ein gwasanaethau rheoleiddio – trwyddedu, cydymffurfiaeth a gorfodi – yn cefnogi dull rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Gweithio gyda'n partneriaid

  • Gweithio mewn partneriaeth â busnesau, diwydiannau a thirfeddianwyr – yn enwedig yn y sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth – i annog dull rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar y tir a'r dŵr nad ydym yn eu rheoli ein hun – i sicrhau bod gwydnwch ecosystemau yn cael ei wella a bod y buddion i bobl Cymru yn cael eu hoptimeiddio
  • Ynghyd â Llywodraeth Cymru, dylanwadu ar ddyluniad a'r defnydd dilynol o'r cynllun datblygu gwledig ar ôl Brexit, ei gynllun amgylcheddol, a'r gwaith monitro a modelu sy'n ymwneud ag ef
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu seilwaith gwyrdd, gan gynnwys plannu coetiroedd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol
  • Cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r Cynllun Morol a'r Rhaglen Newid Morol
  • Cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddo ddatblygu ei Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
  • Sicrhau bod statws ecolegol da gan gyrff dŵr erbyn 2027 yn unol â Chyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE
  • Mynd i'r afael â llygredd o fwyngloddiau metel segur i helpu i adfer 700 cilomedr (435 milltir) o afonydd yr effeithir arnynt i statws ecolegol da
  • Datblygu system trwyddedu tynnu dŵr ddiwygiedig a chynaliadwy, a gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod dalgylchoedd dŵr wyneb a dŵr daear yn gallu ymdopi â llifoedd uchel ac isel yn ystod cyfnodau o lifogydd a sychder
  • Helpu cwmnïau dŵr i ddatblygu eu cynlluniau buddsoddi tymor hir
  • Cefnogi partneriaethau Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac awdurdodau parciau cenedlaethol, sy'n estyn dros 25% o dir Cymru

Dangosyddion Cymru:Sut y byddwn ni'n gwybod a oes unrhyw beth wedi newid?

 Dangosydd/Ffynhonnell

  • Ansawdd dŵr yng Nghymru – Dangosydd Cenedlaethol3
  • Gorchudd coed (rheolaeth gynaliadwy yng Nghymru) – data Cyfoeth Naturiol Cymru / Llywodraeth Cymru9
  • Camau unigol a gymerir gan bobl i amddiffyn yr amgylchedd – Arolwg Cenedlaethol4

 Rachel Chamberlain - Mae coed a choetir yn fy ysbrydoli. Maent yn rhan o'n tirwedd a'n treftadaeth. Mae ein gwaith yn creu manteision heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol gyda lleoedd i weithio, chwarae ac ymlacio yn ogystal a chynnig cynefin gwerthfawr i lawer o rywogaethau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ein cynllun hyd at 2022 Hawdd ei Ddeall Gofalu am natur yn awr i'n plant gael ei fwynhau PDF [16.6 MB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.