Sut yr ydym yn prynu’r hyn sydd ei angen arnom
Gwerthu i Cyfoeth Naturiol Cymru
Wrth brynu nwyddau, gwaith a gwasanaethau, gall ein staff ddefnyddio cytundeb / fframwaith sy’n bodoli eisoes pan fo’n briodol i sicrhau bod y broses brynu yn fwy effeithiol.
Gallai’r rhain fod yn gytundebau penodol i ni neu gytundebau eraill sydd ar gael i gyrff y sector cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol: hwn yw’r corff prynu canolog sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn defnyddio amryw o gytundebau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer y pethau yr ydym yn eu prynu amlaf.
Gwasanaethau Masnachol y Goron: asiantaeth weithredol Swyddfa’r Cabinet yw hon sy’n darparu set o gytundebau a gafodd eu tendro ymlaen llaw ag amrediad o gyflenwyr y gall cwsmeriaid sector cyhoeddus brynu ganddynt.
Eastern Shires Purchasing Organisation: sefydliad prynu proffesiynol yw hwn sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus a chanddo fwy na 150 o fframweithiau.
Ein trothwyon prynu
Trothwy | Sut ydym ni’n prynu |
---|---|
Dan £5k | Pan nad oes cytundeb / fframwaith priodol yn bodoli, gall staff gael un dyfynbris ysgrifenedig gan gyflenwyr. Staff yn dewis cyflenwr yn seiliedig ar wybodaeth o’r farchnad. |
£5k hyd at £25k | Pan nad oes cytundeb / fframwaith addas yn bodoli, gall staff gael tri dyfynbris ysgrifenedig gan gyflenwyr. Mae’n ofynnol i staff gynnal cystadleuaeth yn seiliedig ar wybodaeth o’r farchnad. Ar brydiau bydd staff yn defnyddio’r cyfleuster ‘Dyfynbris Cyflym’ o fewn GwerthwchiGymru i hysbysebu gofynion gwerth isel. |
Mwy na £25k | Rydym yn hysbysebu’r holl gytundebau / fframweithiau ar wefan GwerthwchiGymru. Os hoffech gofrestru fel un o’n cyflenwyr posibl, ewch i wefan GwerthwchiGymru. Mae GwerthwchiGymru yn rhestru’r tendrau sector cyhoeddus a gyhoeddir yng Nghymru. Menter Llywodraeth Cymru yw hon sy’n helpu busnesau bychain a chanolig i weithio’n llwyddiannus gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru. |
Bydd pryniannau sy’n uwch na’r trothwyon canlynol yn ddibynnol ar Reoliadau Cytundebau Cyhoeddus llawn 2015 a byddant yn cael eu hysbysebu yng Nghylchgrawn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd – Nwyddau a Gwasanaethau - £106k a Gwaith - £4.1 miliwn.
Cyfleoedd i’r Dyfodol
Os hoffech ddysgu mwy am y contractau sy’n dod a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Sell2Wales, gweler diweddariadau Piblinell Caffael. Cofiwch y gallai’r rhain newid.
Polisïau
Er mwyn cyflawni caffael cynaliadwy rydym wedi ymrwymo i ymgorffori polisïau perthnasol i’n prosesau caffael, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
Datganiad Polisi Caffael Cymru Llywodraeth Cymru
Cod ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
Telerau ac Amodau a Thalu Anfonebau Cyflenwyr
Mae telerau ac amodau safonol cytundeb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu diweddaru i gynnwys darpariaethau cysylltiedig â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd a ddaw i rym ar 25 Mai 2018.
Bydd y telerau ac amodau hyn sydd wedi’u diweddaru yn berthnasol i’r holl gytundebau prynu a osodir gan CNC o 15 Mai 2018 ymlaen. Mae copïau o’r telerau a’r amodau sydd wedi’u diweddaru ar gael i’w lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.
I ble ydw i’n anfon fy anfoneb?
Rhaid anfon yr holl anfonebau i’r cyfeiriad canlynol:
Cyfoeth Naturiol Cymru
I sylw Cyfrifon Taladwy
Blwch Post 664
Caerdydd
CF24 OYR
Gall anfonebau a dderbynnir mewn swyddfeydd lleol gael eu dychwelyd neu gall y bydd oediadau wrth brosesu’r taliad.
Polisi Archebion Prynu
Gofalwch eich bod yn cael rhif archeb brynu 7 digid pan ydych yn derbyn archeb gennym ni. Rhaid i’r holl anfonebau a anfonir i gael eu talu ddyfynnu rhif archeb brynu.
Os na allwch ddyfynnu rhif archeb brynu, bydd yr anfoneb yn cael ei dychwelyd ynghyd â chais i gael archeb brynu gan y sawl sydd wedi ei chodi.
Ein Telerau Talu
Ein telerau talu yw 30 diwrnod ar ôl derbyn anfoneb oni fydd cytundeb arall. Os oes gan gyflenwyr ymholiad mewn perthynas â thalu anfoneb cysylltwch â’r tîm Cyfrifon Taladwy drwy e-bost -
payments.wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
A phwy y dylech Gysylltu?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill cysylltwch â’n tîm gofal cwsmeriaid yn enquiries@naturalresourceswales.gov.uk neu drwy ffonio ar 0300 065 3000.